Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cadarnhau Tîm Beicio Prydain ar gyfer Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cadarnhau Tîm Beicio Prydain ar gyfer Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024
Y cyngorPobl a lle

Cadarnhau Tîm Beicio Prydain ar gyfer Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024

Diweddarwyd diwethaf: Mehefin 3, 2024 1:10 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Cadarnhau Tîm Beicio Prydain ar gyfer Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024
RHANNU

Mae British Cycling wedi cadarnhau heddiw y bydd carfan Tîm Beicio Prydain yn cymryd rhan yn Nhaith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024, a fydd yn dechrau yn y Trallwng ddydd Iau, 6 Mehefin.

Cynnwys
  • Tîm Beicio Prydain ar gyfer Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024 :
  • Rhestr lawn o dimoedd Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024:
  • Llwybr ras y merched Taith Prydain 2024

Mae 6 o feicwyr cryf yn y garfan hon, gan gynnwys cyn-bencampwraig beicio ffordd y byd ac enillydd y Daith i Ferched yn 2016 a 2019, Lizzie Deignan MBE (Lidl-Trek) ac enillydd medal aur Olympaidd a phencampwraig beicio trac y byd saith gwaith, Elinor Barker MBE (Uno-X Mobility).

Ynghyd â Barker, bydd Elynor Bäckstedt (Lidl-Trek) yn cynrychioli Cymru, a disgwylir i’r ddwy gael croeso cynnes yn ystod dau gymal agoriadol y ras a gaiff eu cynnal yng Nghymru fis nesaf.

Bydd Anna Henderson (Team Visma | Lease a Bike)  yn ymuno â nhw hefyd a ddaeth yn bedwerydd ym Mhencampwriaeth Treial Amser Unigol y Byd ac yn ail yn yr un digwyddiad ym Mhencampwriaeth Ewropeaidd Beicio Ffordd yr UEC.

Hefyd yn y garfan mae Millie Couzens (Fenix-Deceuninck) a Flora Perkins (Tîm Datblygu Fenix-Deceuninck).

Gyda Gemau Olympaidd Paris 2024 ar y gorwel, bydd cyfle i wylwyr weld rhai o’r goreuon wrth eu gwaith yn eu hardal leol fis nesaf. 

Meddai Cyfarwyddwr Perfformiad British Cycling, Stephen Park CBE: “Mae’n bleser gennym gadarnhau tîm beicio cryf ar gyfer Prydain yn y Daith Prydain Lloyds Bank gyntaf i Ferched. 

“Rydym yn gwybod y bydd y tîm yn mwynhau’r cyfle prin hwn i gymryd rhan mewn ras yn eu hardal leol, ac i aelodau’r garfan sy’n gobeithio mynd i Baris, bydd y digwyddiad yn gam allweddol yn y paratoadau terfynol ar gyfer y Gemau Olympaidd.  Gwyddwn hefyd y byddant yn dod â chryfder a safon i’r ras ac yn disgwyl i gefnogwyr ddod allan yn llu i ddangos eu cefnogaeth.” 

Ychwanegodd Elinor Barker:  “Mae’n deimlad arbennig iawn cael rasio yn ein hardal leol lle mae egni a chefnogaeth y dorf yn ddiguro.  Yn bersonol, rwy’n edrych ymlaen yn arw at y ddau gymal a fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru ar ffyrdd eiconig. Mae’n argoeli i fod yn ras heriol a chystadleuol. 

“Cynhelir Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched yn ystod cyfnod pwysig iawn yn ein paratoadau ar gyfer haf prysur o feicio.  Credaf fy mod yn siarad ar ran y garfan gyfan wrth ddweud ein bod yn barod ac yn methu aros i gynnig sioe a hanner i chi ym mis Mehefin.”

Bydd Tîm Beicio Prydain yn ymuno â’r pedwar tîm Taith Byd UCI Merched a’r naw tîm Cyfandirol UCI Merched sydd wedi cael eu cadarnhau ar gyfer Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched. 

Bydd y ras pedwar cymal yn dechrau ddydd Iau, 6 Mehefin ac yn gorffen yn Leigh, Manceinion Fwyaf.  Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion am y cymal cyntaf a’r ail gymal yma, y trydydd cymal yma  a’r cymal olaf yma.

Tîm Beicio Prydain ar gyfer Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024 :

  • Elynor Bäckstedt (Lidl-Trek)
  • Elinor Barker MBE (Uno-X Mobility)
  • Millie Couzens (Fenix-Deceuninck)
  • Lizzie Deignan MBE (Lidl-Trek)
  • Anna Henderson (Team Visma | Lease a Bike)
  • Flora Perkins (Fenix-Deceuninck)

Rhestr lawn o dimoedd Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024:

  • Great Britain Cycling Team
  • SD-Worx – Protime (WTW)
  • Team dsm firmenich PostNL (WTW)
  • Liv AlUla Jayco (WTW)
  • Human Powered Health (WTW)
  • Cofidis (CTW)
  • AG Insurance – Soudal (CTW)
  • VolkerWessels (CTW)
  • St. Michel – Mavic – Auber93 WE (CTW)
  • Torelli (CTW)
  • Alba Development Road Team (CTW)
  • DAS-Hutchinson-Brother UK (CTW)
  • Doltcini-O’Shea (CTW)
  • Hess Cycling Team (CTW)
  • Lifeplus-Wahoo (CTW)
  • Pro-Noctis – 200° Coffee – Hargreaves Contracting (CTW)

Llwybr ras y merched Taith Prydain 2024

Cymal 1 – Dydd Iau 6 Mehefin 2024: Y Trallwng i Landudno

Cymal 2 – Dydd Gwener 7 Mehefin 2024: Wrecsam

Cymal 3 – Dydd Sadwrn 8 Mehefin 2024: Warrington

Cymal 4 – Dydd Sadwrn 9 Mehefin 2024: Manceinion Fwyaf: Canolfan Feicio Genedlaethol i Leigh

Os ydych am ddod i ganol y ddinas ar gyfer y digwyddiad gwiriwch y trefniadau parcio a’r ffyrdd a fydd ar gau er mwyn sicrhau diogelwch pawb Gwybodaeth am ffyrdd ar gau a meysydd parcio yng nghanol y ddinas ar gyfer Taith Prydain Merched

Cadarnhau Tîm Beicio Prydain ar gyfer Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024
Cadarnhau Tîm Beicio Prydain ar gyfer Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024
Cadarnhau Tîm Beicio Prydain ar gyfer Taith Prydain Lloyds Bank i Ferched 2024

Credit SWpix

Rhannu
Erthygl flaenorol Wrexham Pride Pride cyntaf erioed i’w gynnal yn Wrecsam ym mis Gorffennaf
Erthygl nesaf Unpaid carers come together for a fun family event for all ages Gofalwyr di-dâl yn dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad llawn hwyl i bawb o bob oed

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English