Mae llys ynadon Wrecsam wedi cyflwyno gorchymyn llys i gau siop fanwerthu Wrexham Lifestyle ar 106 Ffordd Rhosddu am 3 mis tan 16 Awst 2024.
Gwnaed y cais am y gorchymyn gan Swyddogion Safonau Masnach o Wasanaeth Gwarchod y Cyhoedd y Cyngor yn dilyn hanes o gyflenwi cynnyrch fêpio anghyfreithlon, tybaco anghyfreithlon a gwerthu alcohol am brisiau is na’r isafswm ar gyfer uned o alcohol gan “Wrexham Lifestyle” oedd wedi bod yn masnachu yn y cyfeiriad. Mae profion prynu wedi cael eu cynnal a chynnyrch anghyfreithlon wedi cael eu hatafaelu dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae swyddogion wedi ymgysylltu â’r busnes sawl gwaith i gynnig cyngor a’u rhybuddio am y cynnyrch a’r prisiau alcohol anghyfreithlon. Er hyn, mae profion prynu fêps yn ddiweddar wedi dangos bod y siop wedi parhau i werthu cynnyrch anghyfreithlon.
Ar yr un diwrnod, cafodd y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig ar gyfer y siop gwerthu alcohol trwyddedig yn Lifestyle Wrecsam ei erlyn gan yr Awdurdod am fethu â gwneud recordiadau Teledu Cylch Caeëdig ar gael yn ôl gofyniad amodau’r drwydded. Plediodd Rebar Mahmood yn ddieuog ond fe’i canfuwyd yn euog gan yr ynadon a derbyniodd ddirwy o £1702.
Cymerwyd y camau hyn gan Swyddogion Trwyddedu Gwarchod y Cyhoedd yn dilyn ymweliad archwilio, pan nad oed y Goruchwyliwr Eiddo Dynodedig wedi gallu darparu mynediad at recordiadau Teledu Cylch Caeëdig er gwaethaf cyngor a rhybuddion.
Mae fêpio wedi dod yn fwy a mwy poblogaidd yn ystod y deng mlynedd ddiwethaf ac fe’i cydnabyddir yn eang fel ffordd effeithiol o roi’r gorau i ysmygu tybaco. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, mae diddordeb mewn fêps tafladwy wedi ffrwydro ac mae pobl sydd erioed wedi ysmygu yn rhoi cynnig arnynt. Mae’n anghyfreithlon gwerthu cynnyrch fêp i rai dan 18 oed, ond er hyn, mae fêps wedi dod yn boblogaidd ymysg pobl ifanc ac mae llawer o’r cynnyrch sydd ar gael yn apelio i blant gyda’u blas melys a phecynnu llachar. Mae rhai cynnyrch anghyfreithlon wedi defnyddio enwau fferins poblogaidd i’w hyrwyddo hyd yn oed.
Er ei fod yn llawer llai niweidiol nag ysmygu tybaco, nid yw defnyddio fêps heb ei risgiau chwaith. Oherwydd hynny, mae’r gyfraith yn gosod cyfyngiadau penodol ar fêps tafladwy gydag uchafswm capasiti ac uchafswm cryfder nicotin. Mae gofynion labelu caeth hefyd. Roedd fêps anghyfreithlon fel y rhai a ddarganfuwyd yn The Vape Shop yn groes i’r cyfyngiadau hyn gan achosi niwed sylweddol posibl i iechyd y bobl oedd yn eu defnyddio.
Mae’r defnydd o fêps ymhlith plant yn achos pryder sylweddol
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, aelod arweiniol cynllunio strategol a gwarchod y cyhoedd “Mae’r cynnydd cyflym yn nifer y bobl a phlant sydd erioed wedi ysmygu ond sy’n defnyddio fêps yn peri pryder mawr ac mae’n dda gweld bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ystyried deddfwriaeth newydd i fynd i’r afael â’r broblem.
“Mae gwerthu cynnyrch anghyfreithlon a thanbrisio alcohol yn peri pryder penodol ac ni fyddwn yn meddwl ddwywaith cyn defnyddio’r grym cyfreithiol sydd gennym i amddiffyn iechyd a lles ein pobl ifanc. Rwyf yn croesawu canlyniad y gweithredu hwn gyda’r effaith ymarferol iawn o gau’r eiddo am gyfnod hir.”
Mae tybaco anghyfreithlon fel arfer ar gael am lai na hanner pris tybaco cyfreithlon. Mae’r prisiau isel ac argaeledd y cynnyrch i ysmygwyr dan oed yn ei gwneud yn llawer haws i blant ddechrau dibynnu arno ac yn gwneud pethau’n anoddach i ysmygwyr sy’n ceisio rhoi gorau iddi. Mae bron i 6,000 o bobl yn marw yng Nghymru bob blwyddyn yn sgil cyflyrau sy’n gysylltiedig ag ysmygu ac mae ysmygu’n achosi mwy o farwolaethau cynamserol yng Nghymru a’r DU nag unrhyw beth arall. Mae plant a phobl ifanc yn aml yn yfed alcohol rhad a chryf. Mae hyn yn peryglu iechyd a lles y grwpiau hyn ac yn gallu eu gwneud yn fwy agored i niwed. Mae gosod isafswm pris uned o alcohol yn targedu’r cynnyrch rhataf a chryfaf ar y farchnad heb gael effaith ar brisiau mewn tafarndai a bariau. Mae’r isafswm pris uned o alcohol yn nodi’r pris isaf ar gyfer gwerthu potel neu gan o alcohol yng Nghymru. Mae eu gwerthu am bris is na’r isafswm yn erbyn y gyfraith.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen A fyddech chi’n gwybod pe bai cynnyrch bwyd a brynwyd gennych yn cael ei alw’n ôl?