Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Dros 600 o geiswyr gwaith yn mynychu Ffair Swyddi lwyddiannus
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Dros 600 o geiswyr gwaith yn mynychu Ffair Swyddi lwyddiannus
Y cyngorBusnes ac addysg

Dros 600 o geiswyr gwaith yn mynychu Ffair Swyddi lwyddiannus

Diweddarwyd diwethaf: Mai 20, 2024 3:13 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Jobs Fair
RHANNU

Roedd y Ffair Swyddi yn Wrecsam a drefnwyd gan Gymunedau am Waith a Mwy ar y cyd â’r Adran Gwaith a Phensiynau’n llwyddiannus iawn.

Cynnwys
  • “Mae Ffeiriau Swyddi’n cynnig cyfleoedd gwych”
  • Beth oedd barn cyflogwyr am y Ffair Swyddi?

Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanol Dinas Wrecsam ac roedd 40 o gyflogwyr a darparwyr gwasanaeth yn bresennol i gysylltu gyda cheiswyr gwaith, darparu gwybodaeth am eu cyfleoedd gwaith a manylion unrhyw swyddi gwag.

Roedd yn gyfle i’r dros 600 o geiswyr gwaith a oedd yn bresennol ryngweithio gyda chynrychiolwyr cyflogwyr megis y GIG, Cyngor Wrecsam a Sir y Fflint, Hoya Lens, Magellan, Heddlu Gogledd Cymru a’r Post Brenhinol.

Manteisiodd cyfranogwyr ar y cyfle i arddangos eu sgiliau, rhwydweithio â chyflogwyr posibl a chymryd rhan mewn cyfweliadau anffurfiol.  Roedd amgylchedd cynhyrchiol iawn yn y digwyddiad, a chyfle i geiswyr gwaith gysylltu â chyflogwyr, a allai arwain at gydweithrediadau a lleoliadau gwaith llwyddiannus.

Roedd ysbryd cydweithredol a chyfranogiad rhagweithiol y mynychwyr yn sicr wedi cyfrannu at lwyddiant y ffair, gan roi pwyslais ar bŵer a chefnogaeth gymunedol o fewn y byd cyflogaeth.

“Mae Ffeiriau Swyddi’n cynnig cyfleoedd gwych”

Meddai’r Cyng Nigel Williams, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio, “Mae Ffeiriau Swyddi’n cynnig cyfleoedd gwych i unrhyw un sy’n chwilio am waith neu’n awyddus i newid gyrfa.  Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y digwyddiad a’r holl gyflogwyr a oedd yn bresennol i arddangos beth sydd ganddynt i’w gynnig.”

Beth oedd barn cyflogwyr am y Ffair Swyddi?

Mairi Chaplin COPA – “Digwyddiad gwych wedi’i drefnu’n dda iawn.   Roedd yn wych gweld gymaint o bobl yn chwilio am gyfleoedd newydd.”

Aimee Chesters – Eleven11 Group.  – “Cawsom ymweliad llwyddiannus iawn â ffair swyddi Wrecsam, roedd yn gyfle gwych i gysylltu ag unigolion ac arddangos y cyfleoedd gyrfaol anhygoel sydd gennym i’w cynnig.   Roedd ein tîm yn falch iawn o gael cyfarfod gymaint o geiswyr gwaith brwdfrydig a rhannu gwybodaeth werthfawr am ein cwmni a’r prosiectau cyffrous sydd ar y gweill gennym.”

Cassie Atkins – Draig Recruitment – “Roedd yn ddigwyddiad ardderchog; y digwyddiad gorau yr wyf wedi’i fynychu.  Wnes i ddim stopio siarad â phobl am 2 awr, a diolch i’r digwyddiad, mae nifer o bobl bellach wedi cofrestru gyda ni.”

Rhonwen Hughes – Employment Plus –Byddin yr Iachawdwriaeth – “Roedd yn ddigwyddiad gwych, gyda’r nifer perffaith o gyflogwyr a darparwyr yn bresennol.   Roedd yn wych cael bod yn rhan o’r digwyddiad hwn.”

Mae Cymunedau am Waith a Mwy Wrecsam ar gael i’ch cefnogi i ddod o hyd i swydd os ydych yn byw yn Wrecsam, yn 19+ oed ac yn ddi-waith ar hyn o bryd. Gallwch hunanatgyfeirio at y prosiect yma.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Taith Prydain Merched – gwybodaeth am barcio a chau ffyrdd 6/7 Mehefin 2024

Dros 600 o geiswyr gwaith yn mynychu Ffair Swyddi lwyddiannus
Dros 600 o geiswyr gwaith yn mynychu Ffair Swyddi lwyddiannus
Dros 600 o geiswyr gwaith yn mynychu Ffair Swyddi lwyddiannus
Dros 600 o geiswyr gwaith yn mynychu Ffair Swyddi lwyddiannus
Dros 600 o geiswyr gwaith yn mynychu Ffair Swyddi lwyddiannus
Jobs Fair
Rhannu
Erthygl flaenorol BMX Paratowch ar gyfer Sioe Gampau BMX anhygoel ar gyfer Pentref Taith Prydain Merched!
Erthygl nesaf Wrexham Lifestyle Cau siop gyfleustodau â thrwydded Wrexham Lifestyle am 3 mis

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English