Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hud 3G yn Ysgol Clywedog
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda'ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd...
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda’ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd…
Fideo Pobl a lle
Ffrinj Wrecsam
Ffrinj Wrecsam – arddangosfa o ddigwyddiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
start-up clinics
Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!
Busnes ac addysg
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
wrexham library
‘A Pack of Five’ (Wedi’i ysbrydoli gan Hedd Wyn)
Digwyddiadau
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Hud 3G yn Ysgol Clywedog
Busnes ac addysgY cyngor

Hud 3G yn Ysgol Clywedog

Diweddarwyd diwethaf: 2020/03/06 at 5:27 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
3G Clywedog
RHANNU

Mae pobl ifanc wedi bod ar y llain 3G newydd yn Ysgol Clywedog i roi cynnig ar y cyfleuster newydd anhygoel eu hunain.

Yn ymuno â nhw oedd Elise Hughes, chwaraewr Rhyngwladol Cymru ac Everton, sydd yn Wrecsam yn paratoi ar gyfer gêm ryngwladol Merched yn erbyn Estonia ar y Cae Ras heno.

Bydd y cyfleuster deuddiben yn cael ei reoli gan Freedom Leisure sy’n golygu y bydd y llain ar gael ar benwythnos a’r tu allan i oriau’r ysgol i glybiau a chwaraewyr ei ddefnyddio.

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

- Cofrestru -
Eisteddfod Wrecsam 2025

Mae llain 3G Clywedog yn ategu at gyfleusterau eraill yn Wrecsam

Dywedodd Ian Bancroft y Prif Weithredwr: “Hoffwn ddiolch i bawb sy’n ymwneud â’r prosiect hwn.   Mae’r llain hwn yn ategu at y cyfleusterau sydd gennym yn y Waun,Ysgol Morgan Llwyd a Queensway.   Rydym yn rhoi llawer o ymdrech ac adnoddau i wella pêl-droed ar lefel sylfaenol ar draws Wrecsam a thrwy weithio gyda phartneriaid fel Freedom Leisure a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, rydym bellach yn darparu canlyniadau anhygoel.  Rydym yn bwriadu cael lleiniau 3G ym mhob un o’n ysgolion uwchradd fydd ar gael i’r gymuned eu defnyddio.

Mae angen JavaScript ar y sioe sleidiau hon.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant a Chadeirydd y grŵp Canolbwynt Pêl-droed: “Mae’n wych gweld cyfleusterau o’r fath yn agor o amgylch y sir i bobl ifanc fanteisio arnynt.   Rydym yn gobeithio ehangu’r cyfleusterau hyn yn y misoedd i ddod i gefnogi pêl-droed ymhellach yn Wrecsam – cartref ysbrydol pêl-droed.”

Cafodd y cyfleuster gyda llifoleuadau ei ddarparu dwy flynedd o flaen amser diolch i’r arian cyfalaf a sicrhawyd gan Gyngor Wrecsam.

Os oes diddordeb gennych i archebu, cysylltwch â Chanolfan Weithgareddau a Hamdden Clywedog ar 01978 262787 neu anfonwch e-bost i  neu ewch i wefan Freedom Leisure.

Mae brwdfrydedd yn parhau dros bêl-droed yn Wrecsam. Mae’n ganolbwynt y gymuned ac mae Wrecsam yn cael ei ystyried yn gartref ysbrydol Pêl-droed.  Mae gennym y stadiwm pêl-droed hynaf yn y byd yn y Cae Ras, cartref AFC Wrecsam ac mae cynlluniau cyffrous wedi eu cyhoeddi ar gyfer ailddatblygu pen Kop y stadiwm i wneud defnydd rhyngwladol ohono unwaith eto.

Mae yna hefyd gynlluniau i Amgueddfa Bêl-droed Cymru gael ei lleoli yn Amgueddfa Wrecsam.

Gallwch ddarllen mwy am y rhain yma.

Porth Wrecsam – gweledigaeth ar gyfer ardal Ffordd yr Wyddgrug yn symud ymlaen

Y camau nesaf o ran cynlluniau’r amgueddfa bêl-droed

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.>

RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button

Rhannu
Erthygl flaenorol Ruabon Station Siom ynghylch Mynediad i Bobl Anabl yng Ngorsaf Rhiwabon
Erthygl nesaf Earth Hour Awr Ddaear 2020 – helpwch ni i ymateb i’r argyfwng hinsawdd

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda'ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd...
GWYLIWCH: Rydyn ni’n dymuno lwc dda i chi gyda’ch gêm bêl-droed gyntaf erioed yn Seland Newydd…
Fideo Pobl a lle Gorffennaf 18, 2025
Ffrinj Wrecsam
Ffrinj Wrecsam – arddangosfa o ddigwyddiadau yn ystod wythnos yr Eisteddfod i ddathlu popeth sy’n ymwneud â Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Gorffennaf 18, 2025
start-up clinics
Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!
Busnes ac addysg Gorffennaf 16, 2025
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Gorffennaf 16, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

start-up clinics
Busnes ac addysg

Mae clinigau busnesau newydd yn ôl!

Gorffennaf 16, 2025
Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.
Busnes ac addysgDigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam a chanol y ddinas i gynnal sesiwn galw heibio AM DDIM i fusnesau lle gallwch ddysgu mwy am Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam.

Gorffennaf 16, 2025
good to grow
Busnes ac addysgPobl a lle

Da i Dyfu

Gorffennaf 14, 2025
PlayDay
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Diwrnod Chwarae Wrecsam 2025

Gorffennaf 14, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English