Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Porth Wrecsam – gweledigaeth ar gyfer ardal Ffordd yr Wyddgrug yn symud ymlaen
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Porth Wrecsam – gweledigaeth ar gyfer ardal Ffordd yr Wyddgrug yn symud ymlaen
ArallBusnes ac addysgY cyngorYn cael sylw arbennig

Porth Wrecsam – gweledigaeth ar gyfer ardal Ffordd yr Wyddgrug yn symud ymlaen

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 4, 2020 4:28 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Wrexham Gateway
RHANNU

Y llynedd cyhoeddwyd cynlluniau ar gyfer adfywio sylweddol ar gyfer ardal Ffordd yr Wyddgrug i mewn i Wrecsam er mwyn ei weld yn cael ei drawsnewid yn hwb o weithgarwch chwaraeon, masnachol, preswyl a manwerthu gan ddod a manteision economaidd enfawr i’r dref.

Wedi eu cynnwys yn y cynlluniau mae ailddatblygu’r Kop yn stadiwm y cae ras er mwyn cynyddu’r seddi a chaniatáu i’r lleoliad gael ei ddefnyddio ar gyfer digwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr. Mae darparu gwesty pedair seren a chyfleusterau cynadledda yn ogystal â gwelliannau i’r orsaf drenau gan ganiatáu gwell mynediad i ganol y dref a Phrifysgol Glyndŵr hefyd yn rhan o’r cynigion.

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Ers y cyhoeddiad mae’r holl bartneriaid, gan gynnwys ein hunain, Llywodraeth Cymru, clwb pêl-droed Wrecsam a Phrifysgol Wrecsam Glyndŵr wedi parhau i weithio ar y cynlluniau i fesur beth sy’n bosib a beth fyddai ei angen i’w symud i’r cam ble gellir eu cyflawni.

Yn dilyn y gwaith hwn mae’r partneriaid wedi cytuno bod y cynigion yn ddichonadwy, a, gyda’r cyllid angenrheidiol mewn lle, gallai cynlluniau hirdymor ar gyfer yr ardal fod yn realiti.

Mae Gweinidog Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, Ken Skates bellach wedi cymeradwyo’r ddarpariaeth gyllideb ar gyfer caffael safle cychwynnol sy’n gysylltiedig â’r cynigion sy’n gam arall ymlaen ar gyfer prosiect Porth Wrecsam.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rwy’n falch iawn bod y cynlluniau yn datblygu’n dda a bod y cynigion uchelgeisiol a osodwyd y llynedd yn ddichonadwy. Hoffwn ddiolch i’n partneriaid am eu cefnogaeth hyd yma ac i’w sicrhau o’n hymrwymiad i gyflawni’r cynlluniau uchelgeisiol a osodwyd.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog Economi, Cludiant a Gogledd Cymru Llywodraeth Cymru, a fu’n ymweld â’r ardal yn ddiweddar: “Mae prosiect Porth Wrecsam yn arwydd clir o’n hymrwymiad i ailddatblygu’r ardal. Rwy’n falch o gymeradwyo’r gyllideb ar gyfer caffael safle cychwynnol ac edrychaf ymlaen at weld y prosiect pwysig hwn yn symud ymlaen.”

Dywedodd Spencer Harris, Cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Wrecsam “Mae’r cae ras o bwysigrwydd strategol i Wrecsam, Gogledd Cymru ac yn wir Cymru gyfan. Mae’n gyffrous iawn cael gwybod, ar ôl sawl blwyddyn o ddyfalu, bod y cynlluniau i droi’r lleoliad yn un lefel rhyngwladol gyda 15,000 o seddi, yn cael eu datblygu. Mae’n galonogol iawn gweld ymrwymiad yr holl bartneriaid a graddfa’r adfywio rydym yn benderfynol o’i sicrhau ar gyfer Wrecsam.”

Dywedodd Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam Glyndŵr, “Rwy’n falch iawn o gael gweithio gyda’n partneriaid i greu porth llawer gwell i Wrecsam a fydd yn darparu golyga wych o’r dref i ymwelwyr, myfyrwyr a thrigolion Wrecsam a phorth gwych i’r dref ei hun. Mae Partneriaeth Porth Wrecsam yn plethu gyda Uwchgynllun 2025 Campws y Brifysgol ac mae’n gyffrous gweld sut gallwn gydweithio i drawsnewid y dref.”

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Whirlpool Adalw Peiriannau Golchi Whirlpool – ydy hyn yn effeithio arnoch chi?
Erthygl nesaf ad Bwrdd Gweithredol ar fin pleidleisio ar fudd-daliadau newydd i Ofalwyr Maeth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English