Bydd 40fed Gwasanaeth Coffa, Aduniad a gorymdaith y Falklands yn cael ei gynnal yn Wrecsam ddydd Sadwrn 25 Mehefin 2022 am 11am. Bydd yn dilyn fformat gwasanaeth traddodiadol yn Eglwys y Plwyf San Silyn.
Yn dilyn y gwasanaeth bydd gorymdaith i Gofeb y Gwarchodlu Cymreig ym Modhyfryd, dan arweiniad y Seindorf Gatrodol a rhaniad o’r Bataliwn 1af, i osod torchau. Yna, bydd derbyniad yn y Clwb Coffa Rhyfel i aelodau’r Gymdeithas a’u teuluoedd.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Bydd Band y Gatrawd a Chôr Orpheus y Rhos yn perfformio yn yr eglwys.
Meddai Chris Hopkins, Llywydd Cangen Gogledd Cymru o Gymdeithas y Gwarchodlu Cymreig “Bydd eleni yn ben-blwydd arbennig iawn i’r Gwarchodlu Cymreig wrth i ni ddod at ein gilydd i gofio a choffau’r 33 Gwarchodlu Cymreig, 6 aelod o staff cysylltiedig a 3 Gwarchodlu Cymreig a wasanaethodd gyda’r Gwasanaeth Awyr Arbennig, a roddodd eu bywydau yn y frwydr hon”.
“Rydym yn disgwyl nifer fawr pan fyddwn yn gorymdeithio drwy Wrecsam ac yn annog pawb i ddod draw i goffáu’r pen-blwydd hwn gyda ni.”
Dywedodd Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog ar gyfer Wrecsam, y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, “Mae gan Wrecsam draddodiad balch iawn o gefnogi ei theulu milwrol, ac rwy’n siŵr na fydd y digwyddiad hwn yn eithriad.
“Diolchwn i aelodau’r Gwarchodlu Cymreig am eu gwasanaeth, yn y gorffennol ac yn y presennol, a byddaf yn ymuno â hwy yn San Silyn ddydd Sadwrn i gofio’r rhai a gollwyd yn ystod Rhyfel y Falkland.”
TANYSGRIFWYCH