Wrth i ni barhau i ddilyn cyngor Iechyd Cyhoeddus Cymru i aros gartref ac i adael ein heiddo am nifer cyfyngedig iawn o resymau yn unig, bydd llawer ohonom yn pryderu am gynnal ein lefelau ffitrwydd dros yr wythnosau nesaf.
Mae rhai ohonom wedi gorfod llacio’n trefn ffitrwydd, ac ni allwn wneud y pethau rydym wedi arfer eu gwneud, ond mae pethau y gallwn eu gwneud i aros yn iach o’n cartrefi, cyn belled ein bod yn barod i addasu.
Dyma bum syniad sydd yn werth eu hystyried 🙂
1. Ymarfer corff yn eich ystafell fyw
Pwy sy’n dweud fod yn rhaid ymarfer corff mewn campfa neu neuadd chwaraeon – beth am wthio’r soffa i gefn yr ystafell a chreu eich ardal ymarfer corff eich hun?
Gydag amrywiaeth eang o ymarferion cartref ar y rhan fwyaf o wasanaethau ffrydio, nad oes angen unrhyw offer i’w cyflawni, mae’n werth ystyried gwneud hyn.
Mae nifer fawr o ymarferion am ddim ar gael ar Youtube hefyd, ond chwiliwch am y rhai sy’n cael eu hargymell yn uchel ac y mae digon o bobl wedi eu gweld…. dydych chi ddim eisiau copïo rhywun nad ydynt yn siŵr beth maent yn ei wneud.
Neu ewch i chwilio am hen ‘DVD ymarfer corff’ sydd gennych yng nghefn y cwpwrdd. Mae llawer ohonom wedi derbyn fersiwn seleb, neu derbyn un fel anrheg Nadolig ryw bryd, ond erioed wedi rhoi tro arno. Ewch i weld os ydyw’n dal gennych, a rhowch dro arno.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19 GAN IECHYD CYHOEDDUS CYMRU
2. Bwyd cartref
Pan fyddwn allan o gwmpas y lle, mae’n llawer rhy hawdd bachu bwyd wrth fynd, ac nid dyma’r opsiwn fwyaf iachus i ni bob amser.
Gallai hyn fod yn gyfle i’r rhai ohonom sy’n dweud nad oes gennym mo’r amser na’r lle i goginio i’n hunain geisio cael trefn ar ein deiet.
Rŵan ein bod ni’n treulio mwy o amser gartref, mae’n gyfle da i fireinio eich sgiliau coginio – cyfle i ddynwared Gordon Ramsay!
Mwynhewch, a byddwch yn greadigol. Efallai y byddwch yn ei fwynhau.
3. Defnyddio technoleg i wneud ymarfer corff gyda ffrindiau
Os ydych awydd rhoi tro ar y syniad ymarfer corff gartref, ond yn hiraethu am y gwmnïaeth sy’n dod o ymarfer corff gyda’ch ffrindiau, beth am wneud defnydd o dechnoleg fel y gallwch barhau i wneud ymarfer corff gyda’ch gilydd?
Mae digon o ddewisiadau i chi yma – ychydig o’r ffyrdd i chi gysylltu gyda’ch cyfeillion campfa heb orfod gadael eich cartref yw defnyddio Facetime, Zoom a Skype, a byddwch yn dal i fedru ysgogi eich gilydd.
Cofiwch, bydd rhaid i chi fod yn greadigol gyda rhai o’r syniadau hyn.
4. Cymerwch egwyl ffitrwydd rheolaidd pan fyddwch yn eistedd
Mae hwn yn gyfle i’r rhai ohonoch sydd ddim eisiau ymrwymo i ymarfer am gyfnod hir o amser – a pham ddylech chi beth bynnag? Gwnewch beth bynnag sydd fwyaf addas i chi.
Os ydych chi’n gweithio ar eich cyfrifiadur neu’n gwylio’r teledu, codwch ar eich traed a symudwch o gwmpas am bump i ddeg munud am bob awr yr ydych ar eich eistedd. Cerddwch o amgylch yr ystafell am ychydig, neu neidiwch i fyny ac i lawr 10 – 20 gwaith.
Ychwanegwch ymarferion ‘push up’ neu ‘sit up’ hefyd os ydych chi awydd.
5. Gwneud gwaith tŷ yn gyflym
Mae brwsio, hŵfro a dystio, ac hyd yn oed gwneud y gwely i gyd yn bethau sy’n llosgi calorïau, yn enwedig os byddwch yn eu gwneud ychydig yn gynt nag arfer.
Bydd chwarae cerddoriaeth egnïol a chynyddu dwyster o ran sut rydych yn mynd i’r afael â gwaith tŷ yn codi curiad eich calon a byddwch yn gwneud ychydig bach mwy o ymarfer corff; bydd gennych hefyd gartref glân.
Ond peidiwch mynd yn wyllt a chychwyn rhedeg fel ffŵl o amgylch y tŷ, cofiwch wneud hyn yn ddiogel 🙂
Darllenwch y wybodaeth ddiweddaraf am Covid-19.
Y WYBODAETH DDIWEDDARAF AM COVID-19