Mae 21 Mehefin wedi hen basio ac mae’r haf wedi dechrau’n swyddogol, sydd fwy na thebyg yn golygu y byddwch eisiau gwneud yr hoff weithgareddau awyr agored yr ydych fel arfer yn eu gwneud dros yr haf… beth bynnag fo’r gweithgareddau hynny.
Mae llawer iawn o bethau gwych y gallwch eu gwneud yn yr awyr agored dros yr haf yn Wrecsam a’r cyffiniau, ond yn aml gall y rhain fod yn ddrud.
A wyddoch chi pa weithgaredd awyr agored sy’n ddelfrydol yn ystod yr haf ac yn rhad ac am ddim? Cerdded…ac yn Wrecsam mae gennym barciau gwledig ardderchog y gallwch chi a’ch teulu eu mwynhau. Cofiwch groesi eich bysedd am dywydd braf 😉
Dyma bump o’n parciau gwledig gorau y dylech gymryd mantais ohonynt yr haf hwn 🙂
1. Y Parciau
Mae’n agos i ganol y dref, gyda golygfeydd hyfryd, ac yn gyffredinol, mae’n lle gwych i ymweld ag o. Be well?
Felly os ydych chi’n awyddus i ddechrau drwy fynd am dro bach eithaf hamddenol, efallai mai dyma yw’r opsiwn gorau i chi.
2. Dyfroedd Alun
Mae Dyfroedd Alyn wastad yn opsiwn da.
Mae amrywiaeth o lwybrau coetir, glaswelltir neu ar hyd yr afon i chi ddewis o’u plith.
3. Tŷ Mawr
Mae Parc Gwledig Tŷ Mawr yn lle gwych i ymweld ag o.
Mae rhywbeth yn y parc i bawb – cyfle i fynd am dro fach neu i gerdded yn bell, golygfeydd godidog ac anifeiliaid fferm.
4. Parc Acton
Nid oes angen cyflwyniad i Barc Acton, ond os nad ydych chi wedi bod yno yn ddiweddar, yn sicr mi ddylech chi fynd draw am dro.
5. Melin y Nant
Os ydych chi’n awyddus i ddysgu am hanes Dyffryn Clywedog, treulio amser gyda’ch teulu ymhlith y golygfeydd godidog neu grwydro’r coetiroedd – mae Melin y Nant yn addas i bawb.
Derbyniwch y newyddion diweddaraf ar sgamiau, galw nôl cynnyrch a materion diogelu’r cyhoedd eraill
COFRESTRWCH FI RŴAN