Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 5 o bethau diddorol am Fangor-is-y-coed
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > 5 o bethau diddorol am Fangor-is-y-coed
ArallPobl a lle

5 o bethau diddorol am Fangor-is-y-coed

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 18, 2018 3:54 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Horse Racing Bangor Local
RHANNU

I barhau ar ein thema o bump o bethau diddorol am wahanol leoedd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam, yr wythnos hon rydyn ni’n bwrw golwg ar Fangor-is-y-coed, neu ‘Bangor’ i’r trigolion lleol.

Cynnwys
  • 1. Mynachlog Bangor
  • 2. Pont Bangor
  • 3. Eglwys Sant Dunawd
  • 4. Cofeb Rhyfel Bangor
  • 5. Rasys Bangor

Saif y pentref ar lannau Afon Dyfrdwy ac felly’r enw Saesneg arno yw ‘Bangor-on-Dee’.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Hwn yw’r anheddiad hynaf y rhoddwyd enw arno yn y Fwrdeistref Sirol, ac mae hynny’n eithaf arbennig ynddo’i hun 🙂

Y Rhufeiniaid a roddodd yr enw ‘Bovinium’ ar y lle i ddechrau, wedyn newidiodd y Sacsoniaid yr enw i ‘Bancornburg’ ac yna ‘Bankerbur’… ond nid tan 1291 y dechreuwyd cyfeirio at y lle yn ôl ei enw presennol.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.

Felly fel y gwelwch chi, mae gan Fangor hanes hen iawn, ac mae a wnelo ein ‘peth diddorol’ cyntaf â hynny i ryw raddau…

1. Mynachlog Bangor

Ym mlwyddyn 560 sefydlodd Sant Dunawd fynachlog yma, gan wneud Bangor yn ganolfan grefyddol o bwys – yn ôl y sôn, un o’r rhai mwyaf dylanwadol yn Ewrop gyfan.

Credir fod y fynachlog yn fwy na milltir o hyd, mor fawr fel y bu’n rhaid ei rannu yn saith rhan, gydag oddeutu 300 o fynachod ymhob un.

Drylliwyd y fynachlog ym mlwyddyn 616 yn ystod Brwydr Caer a bu’n gyflafan yno. Lladdwyd tua 1,200 o fynachod ac yn ddiweddarach fe soniodd Walter Scott amdanynt yn ei gerdd, ‘The Monks of Bangor’s March’.

Dyma ddetholiad byr o’r gerdd: “Weltering amid warriors slain, Spurned by steeds with bloody mane, Slaughtered down by heathen blade, Bangor’s peaceful monks are laid.”

Erbyn heddiw does dim golwg o gwbl o’r fynachlog, ac nid oes neb yn gwybod yn iawn lle safai… ond yn sicr, roedd yn rhan enfawr o hanes Bangor.

2. Pont Bangor

Mae gan Fangor bont gerrig hyfryd â phum bwa, ac mae tipyn o hanes iddi.

Nid y bont bresennol oedd yr un gyntaf yma, gan y cofnodwyd fod pont bren ganoloesol yn croesi’r afon ym 1292… ac mae rhai mapiau hanesyddol yn dangos y bont mor gynnar â 1036.

Mae’r bont bresennol wedi’i gwneud o dywodfaen coch yn bennaf, ac mae wedi sefyll yno ers 1658. Credir mai Inigo Jones oedd yn gyfrifol am ei hadeiladu, gan ei bod yn debyg iawn i’w bontydd eraill.

Cynhaliwyd gwaith trwsio arni sawl gwaith ar hyd y blynyddoedd, ac mae’n adeilad rhestredig Gradd I.

Mae’n werth ei gweld yn wir, ond hwyrach mai’r gair gorau i’w disgrifio yw ‘swynol’ 🙂

3. Eglwys Sant Dunawd

Mae’r eglwys wedi’i henwi ar ôl yr un sant a sefydlodd Fynachlog Bangor…

Dywedir fod yr eglwys wedi’i hadeiladu oddeutu 1300. Mae hi wedi’i gwneud o dywodfaen coch ac fe’i codwyd ar ben adfeilion yr hen fynachlog.

Rhwng 1723 a 1726 bu cryn waith ail-adeiladu yma, gan gynnwys y tŵr, sydd â chwe chloch ynddo bellach.

Yn ddiweddarach ym 1832, adnewyddwyd yr ystlys ogleddol, ac yna ym 1869 estynnwyd yr ystlys ddeheuol gan greu’r fedyddfa sydd yno hyd heddiw.

Pe byddech chi’n ymweld ag Eglwys Sant Dunawd fe ddeuech chi o hyd i blaciau coffa o’r 1300au, ffynnon o oddeutu 1500, a ffenestri lliw arbennig o hardd.

Felly os ydych chi’n hoff o eglwysi gyda chyfoeth o hanes, mae’n werth ichi ddod i’w gweld 🙂

4. Cofeb Rhyfel Bangor

Gerllaw Pont Bangor fe welwch chi’r Gofeb Rhyfel, a godwyd ym 1922 er cof am y tri ar hugain o ŵyr y pentref a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf.

Fe’i dyluniwyd gan H. Tyson Smith o Lerpwl, ac mae’n gofeb hefyd i’r rhai hynny a laddwyd yn yr Ail Ryfel Byd.

Pan ddadorchuddiwyd y gofeb, soniwyd fod cymaint o bobl wedi dod i weld fel y bu’n rhaid iddynt sefyll mewn rhes ar draws Pont Bangor… fedren nhw ddod yn ddim nes at y gwasanaeth!

Mae’n gofeb odidog, ac yn deyrnged wiw i’r gŵyr o Fangor a ymladdodd dros eu gwlad.

5. Rasys Bangor

Mae cae ras Bangor-is-y-coed yn rhan o’r Helfa Genedlaethol, ac fe agorodd ym 1859.

Cynhelir 14 o rasys neidio yma bob blwyddyn.

Saif y cae ras ynghanol 150 erw o wyrddni, a gellir cynnal llawer o wahanol ddigwyddiadau yma. Mae yma dri gwahanol safle a chwech o ystafelloedd sy’n medru dal rhwng dau a thri chant o bobl.

Rydyn ni’n gobeithio’ch bod chi wedi mwynhau’r bedwaredd ran o’n cyfres ‘5 o bethau diddorol ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam’.

Cadwch olwg i weld beth fyddwn ni’n sôn amdano’r tro nesaf 🙂

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/AchieveForms/?form_uri=sandbox-publish://AF-Process-ceb55423-9f5d-4124-b713-805ac7a73e3e/AF-Stage-854336b9-1221-4e6a-88d7-785fb2f8e340/definition.json&redirectlink=%2Fcy&cancelRedirectLink=%2Fcy&consentMessage=yes”]COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ydych chi’n chwilio am anrheg munud olaf? Ydych chi’n chwilio am anrheg munud olaf?
Erthygl nesaf Hoffech chi wneud rhywbeth ychydig yn wahanol y nos Wener cyn y Nadolig? Hoffech chi wneud rhywbeth ychydig yn wahanol y nos Wener cyn y Nadolig?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English