Ar gyfer rhifyn yr wythnos hon o ‘5 peth diddorol am lefydd ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam’, byddwn yn edrych ar Erddig.
Mae Erddig yn lleoliad enwog a phoblogaidd yn Wrecsam ac yn denu pobl sy’n mwynhau hanes a cherddwyr yn eu lluoedd trwy gydol y flwyddyn.
Ac mae’n debyg iawn y byddwch yn ymwybodol o’r pethau y byddwn yn ei drafod – ond mae hi wastad yn syniad da i atgoffa rhywun o’r rhain dydi.
Pam ddim dathlu’r rhyfeddod hwn sydd gennym ar ein carreg drws!
Ac i ddechrau…..
1. Neuadd Erddig
Mae Neuadd Erddig yn rhyfeddol……
Ac nid yn unig yn cael ei edmygu’n lleol – daeth yn ail mewn pleidlais i ddod o hyd i Blasty Gorau Prydain (pleidlais darllenwyr y Radio Times a gwylwyr y rhaglen Britain’s Finest Stately Home ar sianel 5).
Gwerthwyd yr adeilad gwreiddiol i Syr John Mellor yn 1714 wnaeth gynyddu maint y neuadd yn sylweddol – yn cynnwys codi dwy adain ychwanegol.
Y Teulu Yorke oedd y rhai nesaf i fwynhau Neuadd Erddig (fe ddown ni atyn nhw nes ymlaen), a blynyddoedd lawer wedi hynny daeth y neuadd yn gyfrifoldeb yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn 1973.
Erbyn hynny roedd angen gwneud llawer o waith i strwythur y tŷ, gydag oddeutu pum troedfedd o ymsuddiant ymysg nifer o broblemau eraill.
Cwblhawyd y gwaith adfer ar 27 Mehefin, 1977 a phan agorodd y Tywysog Siarl Erddig yn swyddogol i’r cyhoedd fe ddywedodd mai “dyma’r tro cyntaf iddo agor rhywbeth oedd eisoes yn 300 oed”.
Mae’n wych y gallwn bellach ymweld â Neuadd Erddig a sefyll ymysg ei hanes cyfoethog.
2. Teulu Yorke
Yn anhygoel roedd y teulu Yorke yn berchen ar Erddig am 240 o flynyddoedd.
Etifeddodd Simon Yorke Erddig gan ei ewythr, John Meller yn 1733 ac yn rhyfeddol galwyd pob perchennog olynol yn un ai Philip Yorke neu Simon Yorke!
Byddai dweud holl hanes y teulu Yorke yn golygu tudalennau ar dudalennau o wybodaeth…. bu’r llinach yno tan 1973 pan drosglwyddodd Phillip Yorke III Erddig i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol.
Fe wnaeth hynny gan nad oedd ef na’i frawd wedi priodi – ac felly dim aerion uniongyrchol.
Fe ychwanegodd pob Yorke eu stamp personol i wneud Erddig fel y mae heddiw…. er enghraifft, fe ychwanegodd Phillip Yorke I yr ystafell gyhoeddus a’r llyfrgell i Neuadd Erddig, ac fe wnaeth Simon Yorke III newidiadau sylweddol i’r gerddi ac ychwanegodd yr ystafell gerddoriaeth.
Mae mwy o wybodaeth am deulu Yorke i’w gael ar brif wefan y cyngor.
3. Cerdded
Mae Erddig yn enwog am nifer o’i deithiau cerdded ac yn denu pobl o bob cwr o’r DU, felly sut goblyn y gallwn ni beidio â sôn am hynny?
Mae nifer o uchafbwyntiau i’w gweld, gan gynnwys y rhaeadr cwpan a soser, sef gwaith crefftus y dylunydd tirlun uchel ei barch, William Emes a fu’n gweithio yn Erddig o 1768-80.
Bydd nifer o lwybrau cerdded yn eich arwain heibio Neuadd Erddig hefyd ond mae’r golygfeydd a’r bywyd gwyllt bobman o’ch cwmpas, nid oes rheswm i beidio â dod yma.
Mae Erddig hefyd yn gwneud rhan mawr o lwybr Dyffryn Clywedog sydd gyda chanllaw cerdded gwych y gallwch ei lawrlwytho o brif wefan y cyngor.
Felly os ydych yn bwriadu dechrau cerdded yn y flwyddyn newydd mae Erddig yn lle gwych i ddechrau.
4. Yr Ŵyl Afalau
Un o achlysuron mwyaf poblogaidd y flwyddyn yn Erddig yw’r Gŵyl Afalau sydd yn dod â phleser i bobl o bob oedran.
Cynhaliwyd yr un mwyaf diweddar ym mis Hydref y llynedd a hynny am fis yn hytrach na phenwythnos yn draddodiadol gan fod yr ŵyl yn dathlu ei phen-blwydd yn 40 oed.
Mae’r afal yn cael ei ddathlu’n sylweddol sy’n siŵr o ddifyrru’r mynychwyr fel dim na welwyd o’r blaen a dylech gadw llygad allan am yr ŵyl nesaf.
5. Ellen Penketh
Mae Ellen Penketh yn rhan o stori anffodus yn hanes Erddig lle cafodd ei chyhuddo o ddwyn gan Phillip Yorke II a’i wraig fonheddig, Louisa Yorke.
Cogyddes oedd Ellen yn wreiddiol ond mewn cyfnod o galedi yn Erddig bu’n cyflawni’r rolau cogyddes/cadw tŷ fel rhan o ymarfer torri costau.
Golygai hynny fod Ellen yn gyfrifol am y cyllid yn Erddig – rhywbeth nad oedd yn gymwys ar ei gyfer…..ac fe arweiniodd hynny at y problemau a wynebai nes ymlaen.
Roedd gwahodd pobl i giniawa yn parhau i fod yn achlysur cyffredin yn Erddig yn ystod y cyfnod ac fe deimlai Ellen o dan bwysau gan nad oedd arian ar gael i dalu am yr arferion hael hyn.
Gwelai mai ei hunig ddewis oedd gofyn i gyflenwyr Erddig (cigydd, groser ayb.) i werthu bwyd iddi ar gredyd.
Roedd cyfanswm y credyd yn cynyddu – ac ymhen hir a hwyr wedi cyrraedd £500! Wedi i’r Yorke’s ddarganfod hynny dyma nhw’n ei chyhuddo o ddwyn gan ddangos y drws iddi. Yna dyma nhw’n mynd â hi i’r llys.
Cafodd Ellen ei rhyddfarnu yn ei hachos llys ond ni lwyddodd i gael gwared yn llwyr ar y label “lleidr gogyddes” yn ystod ei bywyd.
Mae modd darllen stori Ellen mewn llawer mwy o fanylder yn The Housekeeper’s Tale gan Tessa Boase. Mae’r llyfr ar werth yn siop Erddig, ac mae hefyd ar gael i’w fenthyca o Lyfrgell Wrecsam (gallwch wirio’r argaeledd yn ein catalog ar-lein).
Rydym yn gobeithio eich bod wedi mwynhau ein ‘pum peth diddorol’. Cofiwch am y rhifyn nesaf 🙂
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR