I ddechrau hwyl y gwyliau haf, rydym wedi tynnu sylw at 5 peth y gallwch eu gwneud am ddim gyda’ch plant yr wythnos hon yn Wrecsam.
Heddiw, beth am fynd i un o’n parciau gwledig anhygoel? Mae gennym un ar ddeg i chi ddewis ohonynt. Rhagwelir y bydd y tywydd yn cyrraedd 20º heddiw felly peidiwch ag anghofio’r eli haul. Mae mwy o wybodaeth yma
Os ydych chi’n byw ym Mharc Acton neu’r cyffiniau, efallai yr hoffai eich plant gael y cyfle i fwynhau hyfforddiant tennis ddydd Mawrth rhwng 1.30 a 3.00. Gan fod Wimbledon newydd orffen, rydyn ni’n sicr y bydd y digwyddiad hwn yn boblogaidd iawn. Mae’n addas i blant 6-14 oed. Dewch i gwrdd yn y cyrtiau tennis wrth y Cunliffe..
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Ddydd Mercher gallech ymweld â llyfrgell Wrecsam a chofrestru’r plant ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf. Y thema eleni yw “Animal Agents”. Am ragor o fanylion, ffoniwch 01978 292090.
Beth am rywfaint o nofio ar ddiwedd yr wythnos? Mae sesiynau nofio am ddim yng Nghanolfan Hamdden a Chanolfan Weithgareddau Y Waun, Gwyn Evans a Byd Dŵr. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma.
Ddydd Sadwrn, gallwch gymryd rhan mewn gweithgareddau crefft am ddim yn Arcêd Deheuol Marchnad Y Bobl yng nghanol y dref.
Peidiwch ag anghofio, os byddwch yn gweld unrhyw berlau i dynnu eu lluniau, gallwch roi cynnig ar ein Cystadleuaeth Calendr Rhyfeddodau Wrecsam 2018. Anfonwch eich lluniau i calendar@wrexham.gov.uk i roi cynnig arni.
Darllenwch am y gystadleuaeth yma.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI