Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Y busnes lleol gyda phartneriaeth buddugol…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Y busnes lleol gyda phartneriaeth buddugol…
Busnes ac addysgPobl a lle

Y busnes lleol gyda phartneriaeth buddugol…

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 21, 2017 5:18 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Y busnes lleol gyda phartneriaeth buddugol...
RHANNU

Mae economi Wrecsam wedi cael hwb diolch i bartneriaeth lwyddiannus rhwng Cyngor Wrecsam a busnes lleol.

Cynnwys
  • Perthynas lwyddiannus
  • Swyddi i bobl leol

Mae RW Hough & Sons Ltd, sydd wedi’u lleoli yng Nghaergwrle, yn gwneud gwaith i wella stoc dai Cyngor Wrecsam ar hyn o bryd.

Mae’r gwaith yn rhan o brosiect moderneiddio mawr y Cyngor i sicrhau bod ei stoc dai yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru erbyn 2020.

Mae’n ofynnol i’r holl gontractwyr sy’n gwneud gwaith gwella tai i’r Cyngor ymrwymo i gynlluniau Buddiannau Cymunedol. Mae hyn er mwyn sicrhau y gall yr economi leol gael y budd mwyaf posibl o’r buddsoddiad a wneir yn y prosiect moderneiddio tai.

Perthynas lwyddiannus

Mae Ian Nash (Cyfarwyddwr, RW Hough & Sons) yn esbonio sut mae eu partneriaeth â’r Cyngor wedi bod o fudd i Wrecsam:

“Rydym wedi datblygu perthynas lwyddiannus yn gweithio gyda Chyngor Wrecsam ar ei raglen foderneiddio tai yn ddiweddar. Rydym wedi cynnal gwaith Inswleiddio waliau allanol ac ail-doi ar eiddo yn Acton a Choedpoeth, yn ogystal â phlastro ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Swyddi i bobl leol

“Yn ystod y cyfnod o waith yma o waith, roeddwn yn rhentu gofod swyddfa ym Mhlas Pentwyn, Coedpoeth, cyfleuster a ddefnyddir yn eang yn y gymuned.

“Rydym yn cyflogi tua 50 o weithwyr, y maen nhw i gyd yn byw yn sir Wrecsam. Mae prentis modern wedi ymuno â ni hefyd, Chloe Nash, sy’n astudio yng Ngholeg Cambria, ac rydym wedi rhoi profiad gwaith i ddau fyfyriwr, hefyd o Goleg Cambria. Rydym hefyd wedi gwneud defnydd llawn o gyfleusterau lleol, gan brynu nwyddau gan fusnesau lleol a defnyddio siopau a gorsafoedd petrol lleol ac ati.

“Yn ogystal â’r buddion economaidd hyn, mae ein partneriaeth gyda Chyngor Wrecsam wedi arwain at nifer o brosiectau cymunedol llwyddiannus.

“Rydym wedi rhoi rhodd i Gartref Plant Tapley yn Acton drwy wneud gwaith adnewyddu i’r ardd weithgareddau.

“Rydym hefyd wedi cwblhau ardal o waith ar y adeilad Dechrau Deg ym Mharc Caia ac wedi cymryd rhan mewn gweithgareddau Diwrnod Agored yng Nghoedpoeth ac Acton i roi cyfle i denantiaid lleol ddod i drafod y gwaith sy’n cael ei wneud ar eu heiddo.

“Mae rhoi rhywbeth cadarnhaol i’r cymunedau rydym yn gweithio ynddyn nhw wedi bod yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn falch iawn o’r hyn rydym wedi gallu ei wneud diolch i’n partneriaeth gyda Chyngor Wrecsam.”

Y busnes lleol gyda phartneriaeth buddugol...
Aelodau staff RW Hough & Sons: Somyot Khankaeo, Matthew Smullen, Chloe Nash (Prentis Modern), Geraint W. Jones, Geraint O Jones, Martin Hough

Mae Cyngor Wrecsam yn buddsoddi £54m, y swm mwyaf erioed, ar waith gwella tai yn 2017/18.

Mae hyn yn cynnwys grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr £7.5m gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cyflawniad Safon Ansawdd Tai Cymru.

Mae’r gwelliannau’n cynnwys cynnig cegin ac ystafell ymolchi newydd i’r holl denantiaid, os yw’n ofynnol iddynt gyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru. Mae gwelliannau mewnol ac allanol eraill megis systemau gwres canolog newydd, ailweirio trydanol ac ynysu waliau allanol hefyd yn cael eu gwneud i eiddo sydd angen y gwaith.

Mae’r buddsoddiad wedi arwain nifer o gynlluniau Mantais Gymunedol llwyddiannus, gan gynnwys contractwyr y cyngor yn cymryd dros 60 o brentisiaid.

Mae dros 70 o staff wedi cael cyflogaeth lawn neu ran amser a dros £63,000 wedi cael ei roi fel arian parod neu mewn nwyddau i sefydliadau neu brosiectau yng Nghymru.

Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Dyma’r drydedd flwyddyn yn olynol i ni dorri’r record am fuddsoddi mewn gwella ein stoc tai cymdeithasol. Rydym yn moderneiddio cartrefi tenantiaid ar draws y fwrdeistref sirol ac mae’n hanfodol bod cymaint o’r buddsoddiad hwn â phosibl yn dod yn ôl i’n heconomi leol a’n cymunedau.

“Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu datblygu partneriaethau llwyddiannus gyda nifer o fusnesau lleol a bod cyfleoedd gyrfa a chyfleusterau cymunedol wedi elwa o ganlyniad.”

Gallwch ddarganfod mwy am Manteision Cymunedol a Safon Ansawdd Tai Cymru ar wefan y cyngor.

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cerddoriaeth yn y Parc wedi ei ganslo heno (21 Gorffennaf) Cerddoriaeth yn y Parc wedi ei ganslo heno (21 Gorffennaf)
Erthygl nesaf Ty Mawr 5 peth y gallwch eu gwneud am ddim yr wythnos hon

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Penley Hospital
Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna
Arall Pobl a lle
Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lle Y cyngor
Medi 3, 2026
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Blue emergency services light
ArallPobl a lle

Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys

Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Pobl a lle

Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol

Medi 1, 2026
Minera Roof Trusses
Busnes ac addysg

Ehangu ar gyfer busnes teuluol yn dilyn grant Ardal Fuddsoddi

Awst 28, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 28, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English