Agorodd yr ysgol ym mis Medi 1970, fel Ysgol Fabanod gyda dim ond 42 o ddisgyblion. Cynhaliwyd ei agoriad swyddogol ar 20 Tachwedd 1970 a heddiw, 50 mlynedd yn ddiweddarach, mae’r 232 o ddisgyblion yn cael saib haeddiannol o wersi gyda diwrnod thema parti a her bobi gyda chacennau dathlu rhithwir.
Bydd y dathliad yn parhau drwy gydol y flwyddyn gydag amrywiaeth o brosiectau o amgylch y thema 50.
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Yn y dyddiau hyn o’r ‘normal newydd’ efallai nad eleni yw’r flwyddyn roeddem wedi’i rhagweld ond mae disgyblion a staff yn ymateb i her y byd rhithwir ac rydym yn edrych ymlaen at amser pan allwn ni groesawu ymwelwyr yn ôl i’r ysgol am barti pen-blwydd mwy traddodiadol.
Dywedodd John Leece Jones, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn yr ysgol, ei bod yn anrhydedd a’i fod yn falch i fod yn gysylltiedig ag Y Rofft am dros 30 o flynyddoedd. “Mae Y Rofft wedi darparu addysg o’r safon uchaf i blant Marford drwy gydol ei 50 mlynedd. Yn y cyfnod hwnnw, dim ond tri phennaeth sydd wedi bod, sef Mrs Eileen Jackson a oedd yn bennaeth cyntaf a aeth yn ei blaen i dywys yr ysgol am ymhell dros 25 mlynedd, John Davies a ddaeth yn Brif Swyddog Addysg Wrecsam a’n pennaeth presennol Mr. Geraint Morris.
“Mae’r tri phennaeth wedi eu cynorthwyo gan staff ymroddedig a thalentog a gan rieni ymroddedig a chefnogol i gynnig dechreuad bendigedig i fywydau ein disgyblion.”
Dywedodd y Cyng, Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Llongyfarchiadau lu i Ysgol Y Rofft ar y pen-blwydd bendigedig hwn. Rwy’n siŵr fod gan lawer o bobl atgofion melys o’u hamser yno ac ar ran Cyngor Wrecsam hoffwn ddymuno 50 mlynedd arall llwyddiannus o addysgu pobl ifanc yr ardal.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG