Gyda’n gilydd gawn ni godi’r bar ar ein huchelgeisiau #Wrecsam2025
Mae Wrecsam yn wych!
O ganu dan y goleuai llif enfawr yn y Cae-Ras i ddawnsio aml–diwylliant yn Tŷ Pawb – mae Wrecsam yn wych!
O syrffio dros dorf yn gwylio Neck Deep yn Focus Wales i wylio’r haul yn codi ar hyd ein hardal Unesco – mae Wrecsam yn mint!
Mae gennym gymaint o fusnesau gwych ar garreg ein drws, yn cynnwys ffatri sy’n cynhyrchu’r brechlyn Covid – Mae Wrecsam yn wych!
Da ni isio deud wrth y byd pa mor wych y mae Wrecsam-ac wel–ni fedrwn wneud hebddo’ch.
Dod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025
Wrecsam yw’r unig ranbarth yng Nghymru trwodd i’r rhestr hir yn cystadlu am Ddinas Diwylliant y DU 2025.
Mae cyfnod nesa o’r gystadleuaeth Dinas Diwylliant 2025 yn fis Chwefror, lle y bydd yr 8 dal yn y gystadleuaeth yn culhau i 3…ein gol eithaf yw i symud ymlaen ymhellach ac ennill y gystadleuaeth i Wrecsam!
Ar hyd yr amser hwn (ac yn y dyfodol) da ni angen GWEIDDI a pa mor wych y mae Wrecsam-fel bod y beirniaid yn gallu ein clywed.
Buasai ennill y gystadleuaeth yn un cyfle mewn hyd oes am drawsffurfiad a newidiadau positif- yn dod ag buddsoddiad, swyddi, balchder a chynulleidfa ryngwladol i weld pa mor wych da ni – ynghyd a chael etifeddiaeth hir dymor a pharhaol ar ôl i’n blwyddyn fel dinas diwylliant dod i ben.
O Bontfadog i Bentre Broughton, Rhosnesni i Rhosllannerchrugog, ac hyd yn oed copa pell Cadair Berwyn (y man uchaf yn sir Wrecsam)-da ni isio sicrhau bod bob cymuned yn cael y cyfle i gymryd rhan ac elwa o Wrecsam yn dod yn Ddinas Diwylliant 2025
Gorffennol diwydiannol ac amrywiaeth
Fel rhan o’r bid da ni wedi comisiynu logo – un sy’n cynrychioli pawb.
Mae’r ‘sblash o liw’ yn cynrychioli llwch glo i nodi ein hanes diwydiannol, tra bod y lliwiau llachar yn cynrychioli pob un ohonom yn ein cymunedau bywiog ac amrywiol. Pawb sy’n byw, chwarae neu’n gweithio yn Wrecsam.
Mae ein logo hefyd yn cynnwys y sillafu Cymraeg o ‘Wrecsam’- da ni’n Gymraeg, da ni’n siarad Cymraeg – ac wastad yn annog defnyddio’r iaith Gymraeg.
Da ni’n annog unigolion i rannu ei phrofiadau o be sy’n gwneud Wrecsam yn wych trwy ddefnyddio’r #nod #Wrecsam2025.
Gall hwn gwir fod yn foment “ro’n i yno” i’r rhanbarth.
Bydd yn lles enfawr i’r gymuned
Yn siarad am gais Wrecsam 2025, dywedodd Joanna Swash, Prif Swyddog Gweithredol grŵp Moneypenny; “wrth inni gefnogi cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant 2025 gallwn roi ein cymuned yn gyntaf a gallwn amlygu ein brwdfrydedd o beth sydd gan Wrecsam i gynnig. “Mae gennym wreiddiau dwfn yn y dre, a da ni’n angerddol wrth dangos ein cefnogaeth o’n bobl, a’r gymuned fwy eang yr ydym yn rhan ohono.”
Meddai’r Cyng Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam;
“Mae’r posibiliadau a fu’n dod at Sir Wrecsam os ydym yn ennill teitl Dinas Diwylliant y DU 2025 yn ddiddiwedd ac yn gyffrous.
“Nid yn unig y byddwn yn dosbarthu flwyddyn o ddigwyddiadau safon byd eang i’r sir, ond hefyd fyddwn yn cael mwy o ffyrdd creadigol i gymunedau deud ei stori, cydnabod beth syn ein gwneud yn falch ac yn siŵr darparu mwy o swyddi a ffyniant a hefyd codi’r bar ar ein huchelgeisiau.”
Os ydych yn fusnes, elusen, mudiad lleol neu’n sefydliad a hoffech chi wybod mwy, fedrwch anfon e-bost at wrecsam2025@wrexham.gov.uk i ddarganfod sut fedrwch ymuno a hyrwyddo’r bid i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU 2025.
Rydym hefyd yn edrych am:
LLYSGENHADON
- Busnesau lleol a fu’n hoff o roi eu cefnogaeth tu ôl i bid Dinas Diwylliant y DU 2025-yn codi eich llais i hybu bid Dinas Diwylliant Wrecsam i’ch cwsmeriaid, staff a’ch dilynwyr ar lein
- Os oes gennych ddiddordeb, plîs anfonwch e-bost at wrecsam2025@wrexham.gov.uk gyda’r geiriau ‘llysgennad’ yn y llinell testun am fwy o wybodaeth.
Deiliaid diddordeb:
- Fel llysgenhadon ond gydag ôl troed yn y Sir – gall fod yn ymgynghorydd allweddol dros y misoedd nesa
- Helpu gydag adborth o’r bid cyn inni ei chyflwyno i’r beirniaid
- Fyddwch yn cael offer marchnata i arddangos ac i ddefnyddio i godi’ch llais am y bid
- Plîs anfonwch e-bost at wrecsam2025@wrexham.gov.uk gyda’r geiriau ‘deiliad diddordeb’ yn y llinell testun am fwy o wybodaeth
Cadwch olwg ar y cyfryngau cymdeithasol am fwy o wybodaeth
Ddaru ni ddweud fod Wrecsam yn WYCH!? #Wrecsam2025