Mae’r amser bron â dod. Mae ‘O Dan y Bwâu’ eleni bron â chyrraedd.
Felly i’ch helpu i gael y noson orau bosibl, rydym wedi llunio rhestr o chwe peth i’w cadw mewn cof…
1. Teithio mewn car?
Er mwyn osgoi achosi problemau traffig, neu fod mewn perygl o gael dirwy barcio, defnyddiwch y mannau parcio am ddim a ddarperir gan yr ŵyl.
2. Gwiriwch faint o alcohol a ganiateir
Beth sydd waeth na chario crât o gwrw i lawr allt serth yng ngwres yr haf? Yna cael gwybod bod rhaid i chi eu gadael wrth y gât gan nad oeddech wedi gwirio faint o alcohol a ganiateir. I sicrhau nad yw hyn yn digwydd i chi, gwiriwch faint o alcohol a ganiateir cyn prynu eich diodydd…
- 8 can 440ml / neu boteli 330ml o gwrw, lager neu seidr, neu
- 1 potel win 75cl, neu
- 1 potel 50cl neu 0.5ltr o wirodydd
WEDI GWELD TIPIO ANGHYFREITHLON? GADEWCH I NI WYBOD YN SYTH AC YN HAWDD YMA
3. Dewch â’ch ffôn / camera
Sicrhewch fod gennych fwy nag atgofion o ddigwyddiad ‘O Dan y Bwâu’ eleni drwy dynnu lluniau o’ch hoff eiliadau.
Wrth dynnu lluniau, mae’n bosibl y bydd gennych gyfle i ennill tocynnau ar gyfer digwyddiad y flwyddyn nesaf 😉
4. Dewch â’r plant allan!
Mae ‘O Dan y Bwâu’ yn addas i’r teulu i gyd A gan fod ysgolion yn torri ar yr un diwrnod, pa ffordd well i ddechrau gwyliau’r haf?
5. Ydych chi am ymlacio?
Dewch â Chadair – Beth am wneud y mwyaf o ddigwyddiad eleni drwy roi seibiant i’ch coesau a dod â’ch cadair eich hun? Gallwch gyfoethogi eich profiad ‘O Dan y Bwâu’ drwy fwynhau adloniant y noson mewn cysur.
6. Byddwch yn ofalus o breswylwyr, ewch â’ch sbwriel adref
Er ein bod i gyd wedi’n hannog i gael yr amser gorau posibl eleni, mae’n bwysig bod yn ofalus o breswylwyr lleol. Ffordd wych o wneud hyn yw drwy fynd â’ch sbwriel adref gyda chi!
Felly, ydi hyn wedi’ch rhoi mewn hwyliau ar gyfer ‘O Dan y Bwâu’ eleni? Gwych…welwn ni chi ddydd Gwener, 20 Gorffennaf.
Ac os nad ydych wedi cael eich tocynnau eto, cliciwch ar y botwm isod i’w prynu nawr…
PRYNWCH EICH TOCYNNAU YMA