Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pam mae’r clwb chwaraeon lleol hwn yn falch iawn gyda’r gwaith gwella…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pam mae’r clwb chwaraeon lleol hwn yn falch iawn gyda’r gwaith gwella…
Pobl a lleY cyngor

Pam mae’r clwb chwaraeon lleol hwn yn falch iawn gyda’r gwaith gwella…

Diweddarwyd diwethaf: Awst 25, 2017 11:52 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Pam mae'r clwb chwaraeon lleol hwn yn falch iawn gyda'r gwaith gwella...
RHANNU

Mae clwb chwaraeon lleol wedi cael gwneud gwaith ailwampio gan gontractwr y Cyngor.

Cynnwys
  • “Bydd hyn yn ein helpu i gael mwy o bobl i mewn i’r gêm”
  • Cofnodi buddsoddiad mewn gwaith gwella tai
  • “Gwych I weld arian yn cael ei roi yn ôl i mewn i’r gymuned leol”
  • “Cyfnod cadarnhaol iawn” i dai cymdeithasol yn Wrecsam

Gosododd Mitie, contractwr sydd wedi bod yn gwneud gwaith gwella tai yn ardal Cefn, gegin newydd sbon yng Nghlwb Bowlio Plas Kynaston yn Cefn Mawr.

Gwnaethpwyd y gwaith am ddim fel rhan o gynllun Buddion Cymunedol.

Mae gofyn i gontractwyr sy’n gwneud gwaith i wella tai’r Cyngor sefydlu cynlluniau Buddion Cymunedol sy’n helpu pobl leol a’r economi.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

“Bydd hyn yn ein helpu i gael mwy o bobl i mewn i’r gêm”

Meddai aelod o’r Clwb Bowlio a thenant y Cyngor, Joyce Evans: “Mae hwn yn glwb chwaraeon lleol poblogaidd ac mae’r tŷ clwb yn gyfleuster a ddefnyddir gan lawer. Ond, tan rŵan, dim ond cyfleusterau cyfyngedig oedd gennym i ddarparu lluniaeth. Doedd dim llawer mwy na bwrdd ac offer gwneud paned sylfaenol iawn.

“Bydd y gegin newydd yn gwneud byd o wahaniaeth. Byddwn yn gallu darparu bwyd go iawn a bydd gennym lawer mwy o le i baratoi bwyd. Rydym bob amser yn ceisio cynnal mwy o ddigwyddiadau yma ac annog pobl i chwarae’r gêm felly bydd y gegin newydd yn gymorth mawr i ni.

“Hoffem ddiolch i bawb a drefnodd ac a wnaeth y gwaith. Rydym yn gobeithio y gallwn ddefnyddio hwn i hyrwyddo’r clwb i newydd-ddyfodiaid. Dim ond £1.50 yw gêm a gallwn ni ddarparu’r offer i gyd.”

Cofnodi buddsoddiad mewn gwaith gwella tai

Mae Mitie wedi bod yn gwneud gwaith inswleiddio Waliau Allanol a gosod toeau newydd ar dai cyngor yn ardal Cefn yn ddiweddar.

Mae’r gwaith yn rhan o brosiect mawr y Cyngor i sicrhau ein bod yn cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru Llywodraeth Cymru erbyn 2020.

Mae buddsoddiad £56.4m, y swm mwyaf erioed, yn y gwaith gwella yn 2017/18. Mae hyn yn cynnwys grant Lwfans Atgyweiriadau Mawr £7.5m y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol i’w cefnogi i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru.

Gall y Cynlluniau Buddion Cymunedol y mae’r contractwyr yn ymrwymo iddynt gynnwys adnewyddu cyfleusterau lleol, prynu cyflenwadau gan fusnesau lleol a darparu swyddi a chynlluniau hyfforddi ar gyfer pobl leol.

Pam mae'r clwb chwaraeon lleol hwn yn falch iawn gyda'r gwaith gwella...
Pam mae'r clwb chwaraeon lleol hwn yn falch iawn gyda'r gwaith gwella...

“Gwych I weld arian yn cael ei roi yn ôl i mewn i’r gymuned leol”

Meddai Aelod Lleol Cefn, Sonia Benbow-Jones: “Mae’n wych gweld yr arian rydym wedi’i fuddsoddi mewn gwaith gwella tai yn cael ei roi yn ôl i mewn i’r gymuned leol. Mae tai tenantiaid y Cyngor yn ardal Cefn wedi’u trawsnewid a’u moderneiddio diolch i’r prosiect ac mae nifer o aelodau’r Clwb Bowlio yn denantiaid y Cyngor hefyd felly rydym yn gweld nifer o fanteision o’r prosiect hwn.”

Meddai Cynghorydd Lleol arall Cefn, y Cyng Derek Wright: “Mae’n newyddion ardderchog bod cyfleusterau cymunedol yn cael eu uwchraddio fel rhodd diolch i’r rhaglen gwella tai.

“Mae nifer o glybiau lleol fel hyn yn dibynnu ar wirfoddolwyr a rhoddion i sicrhau bod eu gwasanaethau yn parhau, ac nid yw cegin newydd yn rhywbeth y gallant ei fforddio ar eu pen eu hunain felly rwyf wrth fy modd bod Mitie wedi gallu eu helpu yma.”

“Cyfnod cadarnhaol iawn” i dai cymdeithasol yn Wrecsam

Diolch i Gynlluniau Buddion Cymunedol, mae dros 60 o brentisiaid wedi cael gwaith gan gontractwyr y Cyngor, dros 70 o staff wedi cael cyflogaeth lawn neu ran amser a dros £63,000 wedi cael ei roi fel arian parod neu mewn nwyddau i sefydliadau neu brosiectau yng Nghymru.

Meddai’r Aelod Arweiniol Tai, y Cynghorydd David Griffiths: “Rydym wedi cael sawl blwyddyn o fuddsoddiadau mawr mewn gwaith gwella tai yn Wrecsam ac mae’n dda gweld bod cymaint o glybiau a chyfleusterau lleol wedi gallu elwa o hyn. Mae cynlluniau cyflogaeth a hyfforddiant hefyd wedi elwa.

“Mae hwn yn gyfnod cadarnhaol iawn i dai cymdeithasol yn Wrecsam a bydd hyn yn parhau wrth i fwy o waith gael ei gwblhau dros y flwyddyn nesaf a thu hwnt.”

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaith gwella tai sy’n cael ei wneud i gyflawni Safon Ansawdd Tai Cymru, ewch i wefan y cyngor

Gallwch gael newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam gyda Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Oes gennych chi syniad newydd ar sut i hyrwyddo’r iaith Gymraeg? Oes gennych chi syniad newydd ar sut i hyrwyddo’r iaith Gymraeg?
Erthygl nesaf Homelessness Rhoddion uniongyrchol i safle Groves yn “tanseilio popeth rydym yn ei wneud”

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor
Awst 18, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 17, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English