Cynhelir Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 rhwng 19 a 25 Hydref, ac mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn gofyn i fwy o Gymry ystyried mabwysiadu wrth gynllunio eu teuluoedd.
Mae’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol yn dathlu ail flwyddyn ei ymgyrch Mae Nawr yn Amser Da, wedi’i ysbrydoli gan straeon am y foment arwyddocaol y penderfynodd rhieni ddechrau’r broses fabwysiadu.
Ledled Cymru, cynyddodd ymholiadau cychwynnol i fabwysiadu 10% dros y flwyddyn ddiwethaf – newid cadarnhaol yn dilyn sawl blwyddyn o ddirywiad. Fodd bynnag, mae’r angen am deuluoedd mabwysiadol hefyd wedi tyfu. Cynyddodd nifer y plant sy’n aros i gael eu mabwysiadu 11%, gyda 310 o blant yn aros ar hyn o bryd.
Pwy yw Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru?
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn bartneriaeth rhwng pob un o’r chwe awdurdod lleol sy’n cwmpasu Gogledd Cymru o Wrecsam, Sir y Fflint, Sir Ddinbych, Conwy, Ynys Môn a Gwynedd i ddarparu gwasanaeth ar y cyd. Os hoffech holi am fabwysiadu, gallwch gysylltu â’ch cyngor lleol, gwneud cais ar-lein ar ein gwefan neu ein ffonio i gysylltu â ni.

Codi ymwybyddiaeth o fabwysiadu ledled Gogledd Cymru
Yn ystod yr Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol, mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru (GMGC)yn ceisio codi ymwybyddiaeth o fabwysiadu yn Gogledd Cymru. Mae GMGC yn noddwyr i’r twrnamaint tennis proffesiynol i ferched Pencampwriaeth Agored Lexus a bydd unrhyw ymwelwyr â’r twrnamaint yn gallu dysgu mwy am fabwysiadu a beth mae’n ei olygu.
Bydd GMGC yn bresennol yn niwrnod ardal cefnogwyr teuluoedd y Bencampwriaeth yn Total Fitness ddydd Sul, Hydref 18, sy’n dechrau am 10am. Mae’n ddigwyddiad am ddim, felly os ydych chi’n meddwl am fabwysiadu, galwch heibio i gael sgwrs gyda’r tîm.
Ddydd Llun, 19 Hydref, bydd GMGC ym Mharc Manwerthu Brychdyn i gynnig cyngor ar fabwysiadu, ac yna ddydd Iau, 22 Hydref mae’r tîm yn mynd draw i Barc Manwerthu Mostyn Champneys Llandudno.
Os na allwch wneud unrhyw un o’r dyddiadau hynny, mae sesiynau Holi ac Ateb yn digwydd ar-lein ddydd Mercher, 21 Hydref y gallwch ymuno â nhw. Mae sesiwn Gymraeg yn dechrau am 5pm, ac yna sesiwn Saesneg yn dechrau am 6pm. Gallwch e-bostio nwasmarketingrecruitment@wrexham.gov.uk i gadw lle.
Mae GMGC hefyd yn gweithio gyda The One Show ar ffilm fer am y broses fabwysiadu, gyda’r nod o’i rhyddhau yn ystod yr Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol, felly cadwch lygad am hynny!
Cymerodd tîm GMGC ran hefyd ym mhodlediad Wrexham Ready yn ddiweddar, y gallwch wrando arno yma. Dyma’r ail eitem, sydd yn dechrau tua 15 munud i mewn i’r podlediad.
Bydd GMGC yn postio’n rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol yn y cyfnod cyn ac yn ystod yr Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol. Gallwch ddilyn tudalennau GMGC ar Instagram a Facebook i gael gwybodaeth a mewnwelediadau i fabwysiadu. Ar ddydd Mawrth, 21 Hydref, bydd cyfryngau cymdeithasol GMGC yn arddangos ‘map geiriau’ gwych a lansiwyd y llynedd, a gallwch ddarganfod pam fod #EichGairYnBwysig.
Byddem wrth ein bodd yn clywed oddi wrthych!
Mae croeso i bawb wneud cais, waeth beth fo’u statws perthynas, rhywioldeb, credoau neu ethnigrwydd. Os oes gennych chi’r hyblygrwydd a’r gwydnwch i roi cartref hapus i blentyn – neu blant – bydden ni wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Yn syml, os oes gennych chi le yn eich calon a’ch cartref, yna mae pob siawns y gallwch chi fabwysiadu.
Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, yr Aelod Arweiniol dros Wasanaethau Plant: “Os ydych chi erioed wedi ystyried mabwysiadu, cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth. Mae’r Tîm Mabwysiadu a’r gweithwyr cymdeithasol ymroddedig i gyd yn wybodus iawn, ac maen nhw’n gweithio gyda theuluoedd ac ysgolion i adeiladu dyfodol mwy disglair i blant lleol. Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch chi neu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau am yr hyn mae’n ei olygu, byddan nhw’n fwy na pharod i’ch helpu chi.”
Cysylltwch â ni
Mae Gwasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru yn hyrwyddo a chefnogi arfer mabwysiadu gorau trwy Gymru. I gael rhagor o wybodaeth am fabwysiadu a’r prosesau dan sylw, llenwch y ffurflen Cysylltwch â Ni ar-lein neu gallwch ffonio 0800 085 0774 / 01978 295311.

