Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Bendigedig! Codi Calon gyda Llyfrgelloedd Gogledd Cymru… ydych chi’n chwilio am her newydd?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Bendigedig! Codi Calon gyda Llyfrgelloedd Gogledd Cymru… ydych chi’n chwilio am her newydd?
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Bendigedig! Codi Calon gyda Llyfrgelloedd Gogledd Cymru… ydych chi’n chwilio am her newydd?

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 13, 2020 12:13 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
reading
RHANNU

Beth am gofrestru ar gyfer Bendigedig! Codi Calon gyda Llyfrgelloedd Gogledd Cymru?

Bob mis drwy’r flwyddyn, bydd pedwar o’r tri deg chwech llyfr sydd wedi’u dewis yn arbennig, dau yn Saesneg a dau yn Gymraeg, yn cael eu datgelu i greu calendr darllen cyfareddol i’ch llawenhau.

Mae llyfrgellwyr o bob rhan o Ogledd Cymru wedi bod yn dewis llyfrau sy’n eich annog i ddarllen rhywbeth gwahanol.  Beth bynnag yw eich chwaeth ddarllen, mae rhywbeth yma i ddifyrru, annog a chyfoethogi eich profiad darllen – antur go iawn yng nghysur eich cadair freichiau!

COFRESTRWCH I DALU AM GASGLIADAU BIN

Hefyd, mae darllenwyr yn cael eu hannog i rannu eu profiadau a’u barn o’r llyfrau ar-lein drwy Facebook, Twitter ac Instagram neu ar y cardiau post trawiadol sydd ar gael o lyfrgelloedd.

Mae’r her ddarllen wedi’i chreu gan Estyn Allan y Gogledd, partneriaeth o lyfrgelloedd yng Ngogledd Cymru sydd â’r nod o gynnig cyfleoedd newydd i ddarllenwyr gymryd rhan ymarferol yn eu datblygiad a’u lles eu hunain a rhannu profiadau darllen gydag eraill; i ddatblygu prosiectau llawn dychymyg sy’n rhoi mwy o fwynhad i bobl o ddarllen a chyflwyno’r pleser o ddarllen i gynulleidfaoedd newydd.

Dywedodd Debbie Williams, o bartneriaeth llyfrgelloedd Estyn Allan y Gogledd: “Y syniad yw bod ‘Bendigedig! Codi Calon gyda Llyfrgelloedd Gogledd Cymru’ yn gweithredu bron fel grŵp darllen heb fod angen mynd iddo. Gall pobl yn aml fynd i rigol wrth ddarllen, wrth ddarllen gwaith yr un awduron neu’r un genre ac rydyn ni’n annog pobl i’w herio eu hunain a rhoi cynnig ar rywbeth newydd yn 2020. Gobeithiwn y bydd yr ymgyrch yn datgelu byd ehangach llyfrau iddyn nhw yn gyffredinol a sut y gall darllen gael effaith gadarnhaol ar eu lles; rhywbeth y byddem ni yng [Ngwasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam] yn falch iawn o’u helpu i’w ddarganfod.  Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn dod yn offeryn mwy defnyddiol o hyd i ddarllenwyr modern drafod llyfrau, ac rydyn ni eisiau annog pobl i drafod darllen, llyfrau a’u manteision ble bynnag y gallwn.”

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Facebook, Twitter ac Instagram Bendigedig! Codi Calon gyda Llyfrgelloedd Gogledd Cymru / Fantasic! Happier Together with North Wales Libraries neu alw heibio i’ch llyfrgell leol.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: Gwasanaeth Llyfrgell Wrecsam  01978 292090

Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://beta.wrecsam.gov.uk/service/beth-syn-mynd-ir-bincynwysyddion-ailgylchu/gwasanaeth-casglu-gwastraff-gardd”] RYDW I EISIAU TALU RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Are you a Planning expert who leads by example? Take a look at this job… Ydych chi’n arbenigwr Cynllunio sy’n arwain drwy esiampl? Tarwch olwg ar y swydd hon…
Erthygl nesaf Edrychwch pwy sydd wedi cymryd drosodd Amgueddfa Wrecsam! Edrychwch pwy sydd wedi cymryd drosodd Amgueddfa Wrecsam!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Car park
Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 21, 2026
Canlyniadau TGAU 2026 - Llongyfarchiadau i'n holl ddysgwyr
Canlyniadau TGAU 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl ddysgwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 20, 2026
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam yn cefnogi cais OR3D CT i ddod y cwmni cyntaf yng Nghymru i gymhwyso safon awyrofod EN4179 i TC ddiwydiannol
Busnes ac addysg
Awst 20, 2026
St Mark's Car Park in Wrexham
Paratoadau ar y gweill ar gyfer adeiladu parc bysus yng nghanol dinas Wrecsam
Pobl a lle
Awst 19, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Pobl a lle

Cau rheilffyrdd yn Wrecsam: Yr hyn y mae angen i deithwyr ei wybod

Awst 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English