Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cynlluniau ar gyfer ffioedd parcio newydd – darllenwch fwy yma
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Cynlluniau ar gyfer ffioedd parcio newydd – darllenwch fwy yma
Pobl a lleY cyngor

Cynlluniau ar gyfer ffioedd parcio newydd – darllenwch fwy yma

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 23, 2017 10:52 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Blue Badge
RHANNU

Rydym yn ystyried newid y tariffau yn ein meysydd parcio canol y dref.

Rydym am weld beth allwn ni ei wneud i annog mwy o bobl i barcio yng nghanol y dref, ac i roi’r cymhelliant iddyn nhw barcio yn y dref yn hwy.

Ym mis Ionawr, gwnaethom ddiweddaru ein peiriannau parcio ceir i ddenu mwy o bobl i’r dref, gan osod peiriannau newydd sy’n derbyn taliad Chip a Pin.

GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.

Rydym hefyd wedi cael llawer o adborth gan aelodau o’r cyhoedd a masnachwyr canol y dref ar yr hyn y gallwn ei wneud i annog mwy o siopwyr i’r dref – gyda llawer yn gofyn ein bod yn cynnig parcio 1-3 awr yn rhai o’n meysydd parcio mwyaf, sef ymestyn yr amser o’r tocyn parcio 1-2 awr presennol.

Caiff cyfres o newidiadau eu cyflwyno gerbron Bwrdd Gweithredol y Cyngor yfory.

Os cymeradwyir gan y Bwrdd Gweithredol, byddai’r symudiad yn cyflwyno ystod newydd o daliadau symlach, gan ddod â’r holl feysydd parcio ar draws canol y dref yn unol â’i gilydd o ran prisiau ac amseroedd.

Mae’r cynnig yn cynnwys:

  • cyflwyno tariff parcio 1-3 awr am £1.80 ym mhob maes parcio, rhwng dydd Llun a dydd Sul.
  • gostyngiad mewn ffioedd drwy’r dydd yn y Byd Dŵr ac Adeiladau’r Goron rhwng dydd Llun a dydd Gwener, sef £3 yn lle’r pris cyfredo o £4, a gostyngiad cyfwerth i’r trwyddedau parcio chwe mis ar gyfer y Byd Dŵr ac Adeiladau’r Goron, sef £300 yn lle £350.
  • cynnydd mewn ffioedd drwy’r dydd yn Ffordd Cilgant i £2, a chynnydd cyfwerth o £168 i £200 am drwydded parcio chwe mis.
  • cynyddu’r ffi parcio am awr i £1, a chynyddu’r ffi parcio drwy’r dydd yn Tŷ Pawb i £2.50.
  • tynnu’r hawl i barcio am ddim ar ôl 3 yn Tŷ Pawb ac ymestyn y ffioedd parcio safonol nes amser cau, sef 7pm
  • cyflwyno ffi o £1 ar gyfer parcio rhwng 6pm a hanner nos yn Ffordd Cilgant.

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Os cânt eu cymeradwyo, byddai’r tariffau newydd hyn yn dod â’n holl feysydd parcio yng nghanol y dref yn unol â’i gilydd, a byddai trefniadau’n fwy teg ar draws yr holl feysydd parcio.

“Byddai hefyd yn sicrhau bod gennym strwythur prisio parcio ar waith sy’n adlewyrchu gofynion parcio yng nghanol y dref, a bydd yn diwallu anghenion trigolion, ymwelwyr a busnesau lleol.

“Bydd y ffi newydd 1-3 awr am £1.80 yn caniatáu i siopwyr dreulio mwy o amser yn y dref, a’r gostyngiad ym mhris parcio drwy’r dydd yn y Byd Dŵr, ein maes parcio mwyaf, yn galluogi iddyn nhw aros yn hwy.”

A pheidiwch ag anghofio – bydd parcio am ddim yn yr holl feysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor yng nghanol y dref yn ystod mis Rhagfyr, felly gwnewch eich siopa ‘Dolig yn Wrecsam!

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.wrexham.gov.uk/welsh/user_register_w/register_w.cfm”]COFRESTRWCH FI[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Dual Carriageway Amhariad i Ddefnyddwyr Ffordd Melin y Brenin
Erthygl nesaf Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud yr hanner tymor hwn? Ydych chi’n chwilio am rywbeth i’w wneud yr hanner tymor hwn?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English