Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Staff yn mynd y filltir ychwanegol i ddarparu gofal plant gwerth £500,000 yn ystod y cyfnod clo
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall
Green garden waste bin
Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd
Y cyngor
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Staff yn mynd y filltir ychwanegol i ddarparu gofal plant gwerth £500,000 yn ystod y cyfnod clo
Y cyngor

Staff yn mynd y filltir ychwanegol i ddarparu gofal plant gwerth £500,000 yn ystod y cyfnod clo

Diweddarwyd diwethaf: 2020/08/03 at 4:30 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Child Care
RHANNU

Yn ystod y cyfnod clo, mae staff Cyngor Wrecsam wedi gorfod gwneud gwaith sylweddol nad oedd timau o staff yn bodoli ar eu cyfer yn flaenorol. Enghraifft o hyn yw’r Cynllun Cymorth Gofal Plant Coronafeirws.

Cynnwys
Staff heb fod yn gysylltiedig â gofal plant yn flaenoroDros 45 o leoliadau gofal plant yn cyflwyno’r cynllun“Cyflawniad ffantastig”

Ddiwedd Mawrth cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddent yn ariannu lleoliadau gofal plant i rai plant oedran cyn-ysgol i weithwyr hanfodol a’r rhai oedd yn agored i niwed. Gyda dim ond wythnos o rybudd, bu i’r Tîm Atal a Datblygu Gwasanaeth roi dau dîm ynghyd, sefydlu’r cynllun gyda’r holl ddogfennaeth angenrheidiol, proses ymgeisio ar-lein a system dalu.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Staff heb fod yn gysylltiedig â gofal plant yn flaenoro

Bu i un tîm o naw staff (saith wedi eu benthyca o dimau gofal cymdeithasol eraill, nad oeddent wedi gweithio gyda gofal plant o’r blaen) brosesu’r holl geisiadau gan rieni a threfnu’r lleoliadau angenrheidiol mewn lleoliadau gofal plant i alluogi gweithwyr hanfodol i barhau i gyflawni eu swyddogaethau allweddol.

Bu i ail dîm o bump gasglu’r holl ddata, cadw cofnodion a phrosesu’r holl daliadau i sicrhau bod y lleoliadau yn digwydd yn ddidrafferth. Bu i’r staff wneud popeth posib i sicrhau bod yr holl swyddogaethau angenrheidiol yn cael eu cyflawni.

Dros 45 o leoliadau gofal plant yn cyflwyno’r cynllun

O ganlyniad i’w gwaith caled wrth roi hyn mewn lle bu i 380 o blant Wrecsam fesul wythnos gael lle am ddim (a ariannwyd), gyda dros 45 o leoliadau gofal plant yn darparu’r cynllun. Mae timau’r cyngor wedi prosesu taliadau sydd wedi arbed dros £500,000 i weithwyr hanfodol Wrecsam mewn costau gofal plant.

Roedd rhaid i’r staff ddysgu eu swyddogaethau newydd yn sydyn iawn. Bu iddynt oll weithio’n galed iawn a chydweithio yn wych trwy gydol y pandemig a chyflwyno’r cynllun llwyddiannus hwn i wasanaethu cymunedau yn Wrecsam.

Mae bob rhan o’r cynllun yn bwysig i wneud iddo weithio: rheolaeth gymwys, gwneud penderfyniadau da, cadw cofnodion cywir a thaliadau sydyn a chywir.

“Cyflawniad ffantastig”

Dywedodd y Cyng. Andrew Atkinson: “Mae’r holl staff yn haeddu diolch a chydnabyddiaeth am gyflwyno’r gwasanaeth newydd hwn yn sydyn ac yn effeithlon – mae bob rhan wedi bod yn ardderchog. Beth sydd hyd yn oed yn fwy gwych yw bod y staff i gyd bron yn gweithio o gartref, gyda rhai yn gofalu am, ac y rhan fwyaf o’r amser yn addysgu eu plant yr un pryd!

“Mae hyn yn gyflawniad gwych ac yn dyst i ymrwymiad, ymroddiad, y gallu i addasu a gallu aelodau staff a rheolwyr y cyngor. Da iawn i bawb oedd yn gysylltiedig wrth sicrhau bod y plant yn aros yn ddiogel mewn gofal plant o safon tra hefyd yn caniatáu i weithwyr hanfodol fynd i weithio i wneud eu swyddogaethau hanfodol.”
Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Fre Byddwn yn dechrau cyflwyno tocynnau parcio’r wythnos hon
Erthygl nesaf Diolch i Chi am Bopeth... Gadewch i ni barhau i weithio’n galed i Ddiogelu Wrecsam Diolch i Chi am Bopeth… Gadewch i ni barhau i weithio’n galed i Ddiogelu Wrecsam

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

St Mark's Car Park in Wrexham
Maes Parcio Sant Marc wedi’i brynu i’w ailddatblygu
Arall Mawrth 4, 2026
Digwyddiad lansio Heneiddio'n Dda Wrecsam yn dathlu 'cyflawniad mawr'
Digwyddiad lansio Heneiddio’n Dda Wrecsam yn dathlu ‘cyflawniad mawr’
Digwyddiadau Mawrth 3, 2026
LGBTQ+
Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru
Pobl a lle Y cyngor Mawrth 2, 2026
Traffic alert
Gwybodaeth i fodurwyr – goleuadau traffig ar Gyffordd 4 yr A525 (Ffordd Rhuthun)
Arall Mawrth 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

LGBTQ+
Pobl a lleY cyngor

Mae mwy a mwy o aelwydydd LHDTC+ yn maethu yng Nghymru

Mawrth 2, 2026
Green garden waste bin
Y cyngor

Sut i adnewyddu eich tanysgrifiad gwastraff gardd

Mawrth 2, 2026
Wrexham Social care academy
Busnes ac addysgY cyngor

Academi Gofal Cymdeithasol Wrecsam

Chwefror 27, 2026
Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lleY cyngor

Rhif 10 am gael ei lobïo am wasanaeth trên o Wrecsam i Euston

Chwefror 27, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English