Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Diweddarwyd diwethaf: Medi 27, 2024 9:17 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Recycling
RHANNU

Rydym am atgoffa ein trigolion bod yr amseroedd cau yn newid i oriau’r gaeaf ym mis Hydref mewn dwy o’r canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref.

Cynnwys
  • Syniadau ar gyfer ymweld â’r canolfannau ailgylchu
    • Didolwch eich ailgylchu cyn gadael
    • Dewch â dull adnabod gyda chi bob amser
    • Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol
    • Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?
  • Nôl gynwysyddion ailgylchu newydd

O fis Hydref, bydd canolfannau ailgylchu Y Lodge, Brymbo a Phlas Madog yn cau yn gynharach am 4pm. Mae’r oriau gaeaf hyn yn parhau tan fis Mawrth 2025.

Nid yw canolfan ailgylchu Lôn y Bryn yn newid ei hamseroedd gweithredu ar gyfer y gaeaf ac mae’n cau am 8pm drwy gydol y flwyddyn.

Mae amseroedd agor llawn i’w gweld isod.

Lôn y Bryn, Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam LL13 9UT

Oriau agor: 8am – 8pm trwy gydol y flwyddyn

Y Lodge, Brymbo, Wrecsam LL11 5NR

Oriau agor:

  • Mis Mawrth 9am – 6pm
  • Mis Ebrill tan Awst 9am – 8pm
  • Mis Medi 9am – 6pm
  • Mis Hydref tan Chwefror 9am – 4pm

Banc Wynnstay, Plas Madoc, Wrecsam LL14 3ES

Oriau agor:

  • Mis Mawrth 9am – 6pm
  • Mis Ebrill tan Awst 9am – 8pm
  • Mis Medi 9am – 6pm
  • Mis Hydref tan Chwefror 9am – 4pm

Mae’r tair canolfan ailgylchu ar agor bob dydd ac eithrio Dydd Nadolig.

Syniadau ar gyfer ymweld â’r canolfannau ailgylchu

Didolwch eich ailgylchu cyn gadael

Didolwch y deunyddiau gwahanol cyn i chi deithio i’ch canolfan ailgylchu lleol, er mwyn sicrhau eu bod yn barod i’w taflu’n syth i’r baeau cywir. Dyma un o’r prif ffyrdd y gallwch ein helpu.

Os na fyddwch chi’n didoli eich ailgylchu cyn i chi gyrraedd, byddwch ar y safle’n hirach nag sydd angen a bydd hyn yn arafu eich ymweliad.

Dewch â dull adnabod gyda chi bob amser

Dim ond preswylwyr Wrecsam gaiff ddefnyddio ein canolfannau ailgylchu, felly pan fyddwch chi’n cyrraedd y safleoedd, gofynnir i chi ddangos dull adnabod i ni fod yn sicr eich bod yn byw yn lleol.

Cofiwch ddod â rhywbeth gyda chi i ni ei wirio a’i fod wrth law er mwyn cyflymu’r broses.

Dim deunyddiau y gellir eu hailgylchu yn y sgip gwastraff cyffredinol

Os byddwch chi’n dod ag unrhyw fagiau du i’r canolfannau ailgylchu, sicrhewch fod unrhyw boteli plastig, caniau ac ati sydd wedi cael eu rhoi ynddynt mewn camgymeriad yn cael eu tynnu allan ac yn cael eu rhoi gyda’ch ailgylchu ymyl palmant, neu mae modd iddynt gael eu hailgylchu yn y banciau ailgylchu yn y ganolfan ailgylchu.

Unrhyw beth i’w ailddefnyddio?

Gallwch roi eitemau i’r siop ailddefnyddio yn unrhyw un o’n tair canolfan ailgylchu; siaradwch gydag un o’n cynorthwywyr a fydd yn eich cyfeirio i’r man cywir.

Nôl gynwysyddion ailgylchu newydd

Oeddech chi’n gwybod y gallwch chi archebu offer ailgylchu trwy ein ffurflen ar-lein ac yna ei gasglu o’r ganolfan ailgylchu o’ch dewis?

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno’r archeb byddwch yn cael cyfeirnod ac e-bost cadarnhau, a bydd angen i chi gasglu’r cynwysyddion.

Bydd angen i chi hefyd ddangos ID sy’n cyfateb i’r wybodaeth a ddarperir ar eich ffurflen.

Byddwch yn cael 5 diwrnod i gasglu’r eitemau o’r dyddiad a archebwyd.

Os hoffech archebu offer i’w ddosbarthu neu dalu am fin gwastraff gardd neu wastraff cyffredinol newydd, defnyddiwch y ffurflen hon.

Gallwch ddarganfod mwy am ymweld â’r canolfannau ailgylchu ar ein gwefan.

Gallwch dderbyn gwybodaeth ac argymhellion ailgylchu yn syth i’ch mewnflwch – Newyddion Cyngor Wrecsam

Pryd mae fy miniau’n cael eu casglu? Gwiriwch ddiwrnod casglu eich bin a chofrestrwch i gael nodiadau atgoffa.

TAGGED:ailgylchucanolfan ailgylchurecyclingrecycling centres
Rhannu
Erthygl flaenorol walking boots Tarwch eich ’sgidiau cerdded at achos arbennig ar 20 Hydref
Erthygl nesaf Gwersyllt Railway Station Galwch heibio ar 2 Hydref i drafod gwella mynediad i Orsaf Reilffordd Gwersyllt

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 2, 2026
Yorke Street
Ydych chi’n gyrru i ganol dinas Wrecsam? Parciwch yn gyfrifol a dilynwch reolau traffig o amgylch y Stryd Fawr
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Blue emergency services light
Codi baner 999 i gefnogi Diwrnod y Gwasanaethau Brys
Arall Pobl a lle
Medi 1, 2026
Caffi hynaf Wrecsam wedi'i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol
Caffi hynaf Wrecsam wedi’i adnewyddu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol
Pobl a lle
Medi 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Social Prescribing and Community Wellness service
Pobl a lleY cyngor

Gwasanaeth Presgripsiynu Cymdeithasol a Lles Cymunedol i gefnogi cymunedau Wrecsam

Awst 28, 2026
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lleY cyngor

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu

Awst 27, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English