Y Cyng. Hugh Jones a’r Cyng. Mark Pritchard yn y ganolfan brofi mynediad hawdd ym Mharc Caia

Prif negeseuon

  • Diolch i bawb sydd wedi bod i’r unedau profi mynediad hawdd
  • Mae’n bwysig iawn bod pob un ohonom ni’n cadw at y canllawiau er mwyn diogelu Wrecsam

Diolch…

Mae arnom ni eisiau dweud diolch yn fawr iawn i bawb sydd wedi bod i’r unedau profi mynediad hawdd ym Mharc Caia a Hightown yr wythnos hon.

Sefydlwyd yr unedau yn gynharach yn ystod yr wythnos i wneud pethau’n haws i bobl sy’n byw ger canol tref Wrecsam dderbyn prawf Covid-19 os ydyn nhw’n credu bod ganddyn nhw’r symptomau… rhai amlwg neu rai ysgafn.

Mae’r gwaith wedi’i gydlynu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, Cyngor Wrecsam a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, gyda chefnogaeth gan y fyddin, AVOW a’r sector gwirfoddol lleol.

Mae ymateb pobl leol wedi bod yn wych, gyda thros 800 o bobl wedi derbyn prawf yn ystod y ddau ddiwrnod cyntaf – pob un yn gwneud eu rhan i ddiogelu Wrecsam.

Meddai’r Cyng. Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol Cyngor Wrecsam:

“Mae cefnogaeth y gymuned leol wedi bod yn anhygoel. Mae staff yr unedau wedi’u synnu gan yr ysbryd cymdogol maen nhw wedi’i weld – mae pawb wedi bod yn andros o garedig, cydweithredol ac ystyriol o eraill.

“Mae pawb sydd wedi galw am brawf – i wirio eu symptomau – wedi gwneud rhywbeth pwysig iawn er budd eu cymuned. Drwy gymryd y cam bychan hwn maen nhw wedi chwarae eu rhan i ddiogelu eu teulu, eu cymunedau a Wrecsam.

“Rydw i’n falch iawn o gymunedau Parc Caia a Hightown, a phawb arall yn Wrecsam.

“Rŵan mae angen i bawb yn Wrecsam ddal ati… mae gan bob un ohonom ni ran enfawr i’w chwarae wrth ddilyn y cyngor a’r cyfarwyddyd.”

Mae diweddariad dydd Gwener Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dweud bod swyddogion iechyd yn hapus iawn efo ymateb y gymuned yn Wrecsam.

https://icc.gig.cymru/newyddion1/maer-trosglwyddiad-yng-nghymuned-wrecsam-yn-is-nag-y-tybiwyd-oherwydd-dau-achos-newydd-sydd-wedii-nodi-hyd-yma/

Felly, beth am ddal ati i wneud y peth cywir

Mae cyn bwysiced ag erioed ein bod ni i gyd yn cadw at y canllawiau er mwyn diogelu Wrecsam.

Ond beth mae hyn yn ei olygu?

Mae’n golygu cadw at ganllawiau Llywodraeth Cymru, sy’n cynnwys…

Cadw pellter o ddau fetr.

Golchi dwylo yn rheolaidd.

Osgoi rhannu ceir efo pobl o aelwydydd eraill.

Hunan-ynysu a derbyn prawf os ydych chi’n meddwl bod gennych chi’r symptomau.

Peidio â chwrdd â phobl o aelwydydd eraill dan do (yng Nghymru chewch chi ond cwrdd ag aelwydydd eraill – ac eithrio’ch aelwyd estynedig – y tu allan).

Mae hefyd yn golygu gwrando ar gyngor Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr…

Dim ymweld ag Ysbyty Maelor. Os oes yn rhaid i chi fynd i’r ysbyty (e.e. ar gyfer apwyntiad), dim ond os oes arnoch wir angen y dylech chi fynd â rhywun efo chi.

Gwisgo gorchudd wyneb mewn ardaloedd cyhoeddus ysbytai lleol.

Ac mae’n golygu dilyn y canllawiau mewn perthynas â defnyddio cludiant cyhoeddus…

Gwisgo masg ar fysiau.

Gwisgo masg ar drenau.

Gallwn wneud hyn gyda’n gilydd

Meddai’r Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:

“Mae ymateb pobl Wrecsam wedi bod yn anhygoel yn ystod y pedwar neu pum mis diwethaf.

“Beth am ddal ati. Drwy gadw at y rheolau fe allwn ddiogelu Wrecsam.

“Gyda thafarndai a bwytai yn cael agor i weini dan do ddydd Llun (3 Awst), a gwasanaethau a chyfleusterau eraill yn parhau i ailagor yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, mae’n bwysig iawn ein bod ni’n parhau i ddilyn y rheolau wrth i ni fwynhau’r rhyddid yma.

“Beth am sefyll gyda’n gilydd, dilyn y rheolau a diogelu Wrecsam. Mi wn y gallwn ni wneud hyn.”

Ffyrdd eraill o dderbyn prawf

Os ydych chi’n credu bod gennych chi’r symptomau, fe allwch chi wneud cais am brawf ar-lein neu dros y ffôn.

Cymerwch olwg ar wefan Llywodraeth Cymru i gael rhagor o wybodaeth.

Cofiwch… os ydych chi’n teimlo’n sâl iawn, defnyddiwch y gwirydd symptomau ar-lein neu ffoniwch 111 (neu 999 os ydych chi’n meddwl bod rhywbeth mawr o’i le).

Coronavirus