Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Hyderus, er gwaethaf y cyfnod anodd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Hyderus, er gwaethaf y cyfnod anodd
Busnes ac addysg

Hyderus, er gwaethaf y cyfnod anodd

Diweddarwyd diwethaf: Medi 8, 2020 4:35 pm
Rhannu
Darllen 6 funud
Lord Barry Jones and Councillor Mark Pritchard
RHANNU

Mae dau ffigwr amlwg sy’n arwain yr ymdrech i gefnogi’r economi yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, Gorllewin Swydd Gaer a Chilgwri (Wirral) yn dweud eu bod nhw’n hyderus ynglŷn â’r dyfodol, er gwaethaf y cyfnod anodd.

Bu i gadeirydd Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy, y Cynghorydd Mark Pritchard, a’r llywydd, yr Arglwydd Barry Jones, gyfarfod yn Wrecsam yn ddiweddar i drafod yr heriau a’r cyfleoedd a oedd yn wynebu’r rhanbarth.

Cynnwys
      • Mae dau ffigwr amlwg sy’n arwain yr ymdrech i gefnogi’r economi yng Ngogledd-ddwyrain Cymru, Gorllewin Swydd Gaer a Chilgwri (Wirral) yn dweud eu bod nhw’n hyderus ynglŷn â’r dyfodol, er gwaethaf y cyfnod anodd.
  • Heriau a chyfleoedd
  • Llais cryf
        • Oeddech chi’n gwybod…

Daeth y Cynghorydd Pritchard yn gadeirydd ar y bartneriaeth drawsffiniol yn gynharach eleni, ac mae’r Arglwydd Barry wedi bod yn llywydd ers 2015.

Mae’r Gynghrair yn cefnogi busnesau, swyddi ac isadeiledd ar draws Gogledd-ddwyrain Cymru, Gorllewin Swydd Gaer a Chilgwri.

Yn ddiweddar, croesawodd y bartneriaeth yr ymateb trawsffiniol i gefnogi gweithlu Airbus, ar ôl y newyddion y byddai rhai’n colli eu swyddi ar safle’r cwmni adeiladu awyrennau ym Mrychdyn yn Sir y Fflint.

Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws

Heriau a chyfleoedd

Dywedodd y Cynghorydd Pritchard: “Rydw i wedi dweud yn y gorffennol fod Wrecsam, Gorllewin Swydd Gaer, Cilgwri a Sir y Fflint yn llefydd gwych yn eu rhinwedd eu hunain.

Ond mae gennym ni hefyd fond economaidd hynod o gryf, ac mae ein llais gymaint yn gryfach pan fyddwn ni’n cydweithio.

“Mae Covid-19 yn cael effaith aruthrol ar economi’r byd. O ystyried yr heriau mae ein rhanbarth ni’n eu hwynebu – gan gynnwys colli swyddi yn y diwydiant awyrofod – mae’n bwysicach nag erioed ein bod ni’n cydweithio.

“Mae hefyd yn bwysig cadw golwg ar y cyfleoedd sydd gennym ni, a bydd angen i’r bartneriaeth fwrw ymlaen â’i nod o ddenu buddsoddiadau i’r rhanbarth.

“Un nod sydd gennym yw parhau i ddatblygu potensial economaidd safleoedd cyflogaeth allweddol, ac ni fydd hynny’n newid.

“Gyda’r buddsoddiad cywir, gallai’r safleoedd hyn greu miloedd o swyddi newydd dros y 15 i 20 mlynedd nesaf ac, wir, mae lle i fod yn hyderus ynglŷn â’r dyfodol.”

Llais cryf

Mae’r Arglwydd Jones wedi bod yn rhan allweddol o helpu i hyrwyddo amcanion y bartneriaeth dros y pedair blynedd ddiwethaf, ac mae’n dweud bod gan y Gynghrair waith hollbwysig i’w wneud.

Dywedodd: “Fel partneriaeth, mae’n bwysig ein bod ni’n parhau i gryfhau cysylltiadau ac isadeiledd ar draws Swydd Gaer, Cilgwri a Gogledd-ddwyrain Cymru.

“Mae potensial enfawr gan ein heconomi drawsffiniol ni, a thrwy ddenu’r buddsoddiadau cywir, gallwn barhau i gefnogi diwydiannau a swyddi lleol.

“Trwy sicrhau bod llais y rhanbarth i’w glywed, gall Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy wneud gwaith allweddol i helpu’r rhanbarth drwy’r cyfnod caled hwn – ac yna mynd ymlaen i lwyddiant hyd yn oed yn fwy.”

Oeddech chi’n gwybod…
  • Mae ardal Cynghrair Mersi a’r Ddyfrdwy yn cynnwys Sir y Fflint, Wrecsam, Gorllewin Swydd Gaer a Chilgwri.
  • Mae ganddi boblogaeth o bron i filiwn o bobl.
  • Mae’n cynhyrchu oddeutu £21.8 biliwn o GVA y flwyddyn, ac mae’n bwysig i economïau Cymru a Lloegr.
  • Mae gan yr ardal grynodiad uchel o weithgynhyrchu uwch, a chlystyrau pwysig o ddiwydiannau ynni, awyrofod, modurol, peirianneg, cemegol a phrosesu bwyd, yn ogystal â gwasanaethau proffesiynol ac ariannol.
  • Gyda’r buddsoddiad cywir credir y gall y safleoedd hyn greu hyd at 50,000 o swyddi newydd yn ystod y 15 i 20 mlynedd nesaf.
  • Mae’r prif gyflogwyr yn cynnwys Airbus, Tata, Toyota, Vauxhall, JCB, Unilever, Cammell Laird, Bank of America, Essar, Encirc ac Iceland Foods.
  • Mae 16% o’r gweithlu (65,100 o bobl) wedi’u cyflogi yn y diwydiant gweithgynhyrchu / peirianneg o gymharu a chyfartaledd o 9% ar draws y DU.
  • Mae’r bartneriaeth yn ceisio datblygu mwy ar botensial economaidd safleoedd cyflogaeth allweddol ar draws y rhanbarth, sy’n cynnwys Wirral Waters (rhan o Ardal Fenter Dyfroedd Mersi), Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, Stad Ddiwydiannol Wrecsam a’r Parc Technoleg, Caer ac Ellesmere Port (rhan o Ardal Fenter Coridor Gwyddoniaeth Swydd Gaer).
  • Mae’r canolfannau gwybodaeth yn cynnwys Prifysgol Caer a Phrifysgol Glyndŵr Wrecsam, Coleg Cambria, Coleg Swydd Gaer a Choleg Metropolitan Cilgwri. Mae ymchwil a datblygu hefyd yn nodwedd amlwg mewn llefydd fel Parc Gwyddoniaeth Thornton, Optic Glyndŵr, Canolfan Ymchwil Gweithgynhyrchu Uwch Cymru a’r Ganolfan Gwybodaeth Forol.
  • Mae’r Gynghrair yn cynnal chwe brecwast busnes y flwyddyn. Maent yn cael eu cyfrif yn rai o ddigwyddiadau rhwydweithio gorau’r ardal ac maent yn aml yn denu 150 o gynrychiolwyr. Bydd y digwyddiad nesaf yn gyfarfod rhithiol / ar-lein ar 30 Mehefin.

www.merseydeealliance.org.uk/cymraeg

Sut i gael prawf

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://llyw.cymru/gwneud-cais-i-gael-prawf-coronafeirws”] YMGEISIWCH RŴAN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol bus station Gorsaf fysiau Wrecsam yn ailagor a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gludiant ysgol cyhoeddus
Erthygl nesaf Best Dressed Window Annog masnachwyr i roi cynnig ar Gystadleuaeth y Ffenestr neu Stondin Farchnad Orau

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Groundwork
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Eisiau dysgu rhywbeth newydd? Mae disgwyl i Groundwork Gogledd Cymru ddarparu dosbarthiadau dysgu cymunedol AM DDIM ar draws Wrecsam a Sir y Fflint

Gorffennaf 22, 2026
Bethan, Noah a Gill
Busnes ac addysg

“Gwasanaeth ymroddedig i blant, teuluoedd a staff” – athrawes sydd wedi gwasanaethu am 43 mlynedd yn ymddeol

Gorffennaf 20, 2026
Youth Services Survey - young peope
Busnes ac addysgPobl a lle

Cwblhewch ein harolwg a helpwch i lunio dyfodol gwasanaethau ieuenctid yn Wrecsam

Gorffennaf 9, 2026
Ysgol Clywedog wedi'i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn
Busnes ac addysg

Ysgol Clywedog wedi’i symud o’r rhestr mesurau arbennig yn dilyn adroddiad cadarnhaol gan Estyn

Gorffennaf 6, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English