Mae Marchnad Grefftwyr Wrecsam yn dychwelyd i Tŷ Pawb, gan ddod â chrewyr annibynnol ynghyd ar gyfer un o ddigwyddiadau Nadoligaidd prysuraf y ddinas!
Bydd amrywiaeth eang o grefftwyr – sy’n gweithio gyda serameg, tecstilau, gwaith coed, nwyddau cartref, gemwaith, gwydr a phrintio, yn ogystal â chelf fforddiadwy – yn arddangos ac yn gwerthu eu nwyddau gwych.
Wedi’i leoli yn ardal farchnad fywiog a phrysur Tŷ Pawb, dyma’r lle perffaith i brynu anrhegion Nadolig unigryw a phersonol ar gyfer eich ffrindiau a’ch teulu!
- Bydd bwyd a diod Nadoligaidd ar gael yn ein hardal fwyd drwy gydol y dydd!
- Dewch i archwilio’r farchnad i ddod o hyd i hyd yn oed mwy o syniadau anrhegion gwych gan fusnesau lleol!
- Cerddoriaeth Nadolig FYW gan The Jazz Spot Trio.
- Ewch i weld bron i 200 o weithiau celf hardd yn yr oriel yn arddangosfa Agored Tŷ Pawb – mae’r rhan fwyaf o’r gweithiau ar werth
- Mae mynediad am ddim, fel bob amser!
Sylwer: Mae’r holl stondinau wedi’u harchebu ar gyfer y digwyddiad hwn; fodd bynnag, mae lle ar gael ar gyfer byrddau dros dro yn y farchnad ar ddyddiadau eraill yn ystod cyfnod y Nadolig. Anfonwch e-bost at typawb@wrexham.gov.uk os hoffech wybod mwy.









