Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal
Y cyngorPobl a lle

Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal

Erthygl gwestai gan Maethu Cymru

Diweddarwyd diwethaf: November 12, 2026 4:23 pm
Rhannu
Darllen 5 funud
Del and Gary from Wrexham - winners
RHANNU

Mae cwpl o ofalwyr maeth o Wrecsam wedi cael eu cydnabod am eu gwydnwch, eu tosturi a’u hymrwymiad diwyro i blant gyda Gwobr Rhagoriaeth Maethu genedlaethol.

Mae Del a Gary, sydd wedi bod yn ofalwyr maeth gyda’u hawdurdod lleol yn Wrecsam ers 25 mlynedd, wedi cael eu henwi’n enillwyr Gwobr Cysylltiadau Gydol Oes The Mortgage Brain yng Ngwobrau Rhagoriaeth Maethu 2026 y Rhwydwaith Maethu. Rhoddodd y beirniaid ganmoliaeth i’r gefnogaeth hanfodol maen nhw’n ei darparu i blant a phobl ifanc yn eu gofal.

Rhoddwyd canmoliaeth i’r cwpl am eu gallu i greu cartrefi diogel, meithringar a sefydlog lle mae plant yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi ac yn rhydd i fod yn nhw eu hunain. Fe wnaeth eu gweithiwr cymdeithasol goruchwyliol, Hayley Roberts, a’u henwebodd ar gyfer y wobr, dynnu sylw at yr ymagwedd ddigynnwrf a thosturiol maen nhw’n ei dangos tuag at bob plentyn, gan helpu plant sydd wedi profi trawma neu adfyd i deimlo’n ddiogel a meithrin perthnasoedd llawn ymddiriedaeth.

Dywedodd Hayley: “Mae’r gwahaniaeth maen nhw’n ei wneud yn amlwg yn sefydlogrwydd, twf a hyder y plant maen nhw’n gofalu amdanynt. Mae eu hymroddiad yn mynd ymhell y tu hwnt i ddiwallu anghenion dyddiol. Maen nhw’n darparu cyfleoedd, anogaeth ac ymdeimlad o berthyn sy’n galluogi plant i ffynnu.”

Roedd y beirniaid yn edmygu gallu Del a Gary i addasu eu cefnogaeth i ddiwallu anghenion unigol pob plentyn maen nhw’n eu croesawu i’w cartref. Tynnodd Hayley sylw hefyd at sut maen nhw’n parhau i fod yn amyneddgar, yn fyfyriol a chanolbwyntio ar atebion, hyd yn oed yn y sefyllfaoedd mwyaf heriol, gan roi lles plant wrth wraidd eu penderfyniadau bob amser.

Ychwanegodd: “Mae Del a Gary yn dangos dealltwriaeth ddofn o gymhlethdodau maethu. Maen nhw’n creu amgylchedd diogel, meithringar a sefydlog lle mae plant yn teimlo eu bod yn cael eu parchu, eu gwerthfawrogi ac yn gallu bod yn nhw eu hunain.”

Dywedodd y Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Cyngor Wrecsam dros Wasanaethau Plant a Theuluoedd: “Rydyn ni’n falch iawn o weld Del a Gary yn derbyn y gydnabyddiaeth haeddiannol hon.

“Mae eu tosturi, eu hymroddiad a’u 25 mlynedd o ymrwymiad i faethu yn Wrecsam wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a pharhaol i fywydau’r plant a’r bobl ifanc maen nhw wedi gofalu amdanynt. Trwy greu cartref diogel, cariadus a meithringar, maen nhw wedi helpu plant i ffynnu, ac mae’r wobr hon yn dyst i’r effaith ryfeddol maen nhw’n parhau i’w chael.”

Y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu yw gwobrau gofal maeth mwyaf mawreddog y DU, sy’n dathlu cyflawniadau eithriadol mewn maethu ac yn cydnabod y rhai sy’n gwneud cyfraniadau eithriadol i ofal maeth bob dydd.

Cynhaliwyd y seremoni wobrwyo yn Theatr Repertory Birmingham ddydd Iau 12 Tachwedd ac fe’i cyflwynwyd gan y digrifwr a’r gofalwr maeth o Ynys Môn, Kiri Pritchard McLean. Ymhlith yr enwogion a oedd yn bresennol oedd yr awdur plant enwog Jacqueline Wilson, Bardd Llawryfog y Plant Patrice Lawrence a seren The Traitors Judy Wilson.

Mae gofalwyr maeth o Gymru wedi cael eu canmol am y gefnogaeth maen nhw’n ei chynnig i blant a phobl ifanc ledled y wlad yn y Gwobrau Rhagoriaeth Maethu blynyddol.

O’r 17 gwobr, roedd wyth enillydd o Gymru, gyda gofalwyr maeth a’u teuluoedd yn cael eu cydnabod am y tosturi, yr empathi a’r gefnogaeth maen nhw wedi’u dangos i blant a phobl ifanc mewn gofal maeth.

Enillodd teulu maeth arall o Wrecsam hefyd y wobr am Hunaniaeth Ddiwylliannol a Pherthyn, ond byddai’n well ganddynt beidio â chael eu henwi mewn deunydd cyhoeddusrwydd.

I gael rhagor o wybodaeth am ddod yn ofalwr maeth yn Wrecsam, ewch i wrecsam.maethucymru.llyw.cymru

Rhannu
Erthygl flaenorol telecare scam Mae negeseuon atgoffa’r Dreth Gyngor yn Wrecsam yn newid

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

telecare scam
Mae negeseuon atgoffa’r Dreth Gyngor yn Wrecsam yn newid
Y cyngor Pobl a lle
November 12, 2026
Air Covers
Air Covers o Wrecsam yn cryfhau twf byd-eang gyda chymorth y Parth Buddsoddi
Busnes ac addysg
November 11, 2026
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngor Digwyddiadau
November 10, 2026
Chirk Aqueduct
Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun
Pobl a lle Digwyddiadau
November 10, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

October 22, 2026
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Y cyngor

Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth

November 10, 2026
Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Pobl a lle

Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026

November 5, 2026
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Pobl a lleDigwyddiadau

Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam

November 6, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English