Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Daliwch ati gyda’r ymdrech ailgylchu GWYCH dros y Nadolig i helpu Cymru i gyrraedd y brig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Daliwch ati gyda’r ymdrech ailgylchu GWYCH dros y Nadolig i helpu Cymru i gyrraedd y brig
Y cyngor

Daliwch ati gyda’r ymdrech ailgylchu GWYCH dros y Nadolig i helpu Cymru i gyrraedd y brig

Diweddarwyd diwethaf: Rhagfyr 15, 2020 9:33 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Daliwch ati gyda’r ymdrech ailgylchu GWYCH dros y Nadolig i helpu Cymru i gyrraedd y brig
RHANNU

Wrth i gyfraddau ailgylchu Cymru gyrraedd y lefelau uchaf erioed, rydym yn galw ar drigolion Wrecsam i ddal ati gyda’u hymdrechion rhyfeddol i ailgylchu’r Nadolig hwn.

Ni yw’r drydedd genedl orau yn y byd am ailgylchu, ac rydyn ni’n cefnogi Ymgyrch Gwych Cymru yn Ailgylchu i gael Cymru i fod y genedl ailgylchu orau un.

- Cofrestru -
Wrecsam2029

Datgelodd y data ailgylchu diweddaraf ein bod un cam yn nes at gyrraedd y brig. Er gwaethaf yr heriau a ddaw yn sgil COVID-19, cafwyd cynnydd mawr yng nghyfradd ailgylchu gyffredinol Cymru eleni, fe gododd o 63% i 65% (Stats Wales)

Mae hyn yn golygu ein bod nawr yn ailgylchu 65% o’n gwastraff, sy’n rhagori ar darged Llywodraeth Cymru o 64% ar gyfer eleni. Rydym wedi chwarae ein rhan yma yn Wrecsam ac wedi cyflawni cyfradd ailgylchu o 69.62% yn ystod y cyfnod hwn.

Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.

Gan amlaf, dros y Nadolig rydyn ni’n creu mwy o wastraff gartref nag unrhyw adeg arall o’r flwyddyn. O’r holl fwyd ychwanegol rydyn ni’n ei fwyta i’r mynyddoedd o ddeunyddiau pacio o’r anrhegion Nadolig, dyma gyfle delfrydol i wneud yn siŵr ein bod yn ailgylchu popeth posibl.

Dyna pam rydyn ni’n cefnogi’r ymgyrch Bydd Wych. Ailgylcha. gan Cymru yn Ailgylchu, wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru, i annog pawb yng Nghymru i fod yn Ailgylchwyr Gwych dros y Nadolig eleni.

Meddai’r Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae dinasyddion Cymru’n dangos eu bod yn WYCH gyda’u hailgylchu, ac mae eisiau inni oll fod yn falch o’n hymdrechion, ond mae mwy y gallwn ei wneud o hyd. Rydyn ni’n galw ar ein preswylwyr i ddal ati gyda’r gwaith da dros y Nadolig i’n helpu i gyrraedd y brig!”

“Fe wyddom fod pobl Cymru’n malio am warchod ein gwlad hardd ac mae ailgylchu’n chwarae rhan hanfodol wrth daclo newid hinsawdd. Dyma beth syml y gall pawb ei wneud i helpu i wneud gwahaniaeth go iawn”.

Dyma syniadau ar gyfer bod yn Ailgylchwr Gwych dros y Nadolig eleni:

• Bwytewch, ailgylchwch, byddwch lawen. Mae pob Cyngor yng Nghymru’n darparu gwasanaeth casglu ailgylchu gwastraff bwyd wythnosol. Defnyddiwch ef, da chi. Gellir ailgylchu esgyrn twrci, crafion llysiau ac unrhyw fwyd dros ben o’r cinio Nadolig (y pethau na ellir eu bwyta’n ddiogel yn nes ymlaen)!. A daliwch ati i ailgylchu gwastraff arall dros yr Ŵyl hefyd, fel bagiau te a gwaddodion coffi, plisg wyau, crafion a chreiddiau ffrwythau, a hen fara.

• Concro’r cardbord dros y Dolig. Gellir ailgylchu’r holl gardbord a ddaw gyda’r danfoniadau nwyddau ar-lein. Cofiwch dynnu’r holl dâp gludiog yn gyntaf, a fflatio unrhyw focsys. Ac ar ôl i’r Nadolig ddod i ben, cofiwch ailgylchu’r cardiau i gyd, ond ichi dynnu unrhyw rubanau’n gyntaf, ac unrhyw ddarnau sy’n cynnwys llwch llachar.

• Gellir ailgylchu’r rhan fwyaf o’r plastig sydd i’w gael o gwmpas y cartref; poteli diodydd, nwyddau glanhau a photeli nwyddau ymolchi, fel poteli siampŵ a gel cawod. Cofiwch wagio, gwasgu a rhoi’r caead yn ôl arnynt cyn eu hailgylchu. Cofiwch hefyd dynnu unrhyw bwmp neu chwistrell o’r botel yn gyntaf gan nad oes modd ailgylchu’r rhain. Gallwch hefyd ailgylchu’r tybiau plastig mawr o siocled a losin sy’n llenwi’r tŷ dros y Dolig!

• Peidiwch anghofio’r ffoil y Nadolig hwn. Cofiwch ailgylchu’r casys ffoil o’r mins peis ac unrhyw ffoil glân neu heb ei staenio a ddefnyddiwyd wrth goginio dros y Dolig. Dylid gwagio a rinsio tybiau a chynwysyddion ffoil cyn eu rhoi allan i’w hailgylchu.

• Gellir ailgylchu caniau diodydd a thuniau bwydydd metel, yn ogystal ag erosolau gwag fel diaroglydd, gel eillio a chwistrell gwallt.

Gallwch ddysgu mwy am yr Ymgyrch Gwych a ffeithiau ac awgrymiadau ailgylchu ‘12 dydd Nadolig’ gan Cymru yn Ailgylchu ar y wefan www.byddwychailgylcha.org.uk, cadwch lygad am yr hysbysebion ar y teledu, gwrandewch ar yr hysbyseb ar y radio, ac ymunwch â’r sgwrs ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #ByddWychAilgylcha

Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.covid19.nhs.uk/”]Lawrlwythwch yr ap GIG[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwobr i ddatguddiwr lleol am 'un o'r ddarganfyddiadau mwyaf arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf' Gwobr i ddatguddiwr lleol am ‘un o’r ddarganfyddiadau mwyaf arwyddocaol yn ystod y blynyddoedd diwethaf’
Erthygl nesaf Coleg Cambria Students Dangosodd Myfrwyr eu doniau Nadoligaidd wrth ddod â hwyl yr ŵyl i ganol tref

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026
Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor
Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni
Pobl a lle
Awst 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig
Y cyngor

Tân bach, perygl difrifol: rhybudd ar ôl digwyddiadau mewn parciau gwledig

Awst 5, 2026
Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 
Y cyngor

Cyngor Wrecsam yn cefnogi nodyn atgoffa Cadwch Gymru’n Daclus – Creu Straeon Nid Sbwriel yr haf hwn! 

Awst 4, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English