Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 7, 2026 10:10 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Housing Image
RHANNU

Bob blwyddyn mae Adran Tai y Cyngor yn disgwyl i rhwng 600-700 eiddo ddod yn wag yn ystod y flwyddyn. Mae’r eiddo hyn wedyn yn cael eu neilltuo i Sefydliad Gwaith Llafur Uniongyrchol yr adran ei hun neu i gontractwyr allanol i gwblhau’r gwaith sydd ei angen.

Ar gyfer y flwyddyn galendr hon hyd yn hyn, mae 460 eiddo gwag wedi’u trosglwyddo yn ôl i ni gyda buddsoddiad cyfartalog o 19.5k yr un i’r Swyddfeydd Ystadau Tai yn barod i’w dyrannu i ddeiliaid contract newydd.

Wrth adnewyddu eiddo, rhaid iddynt gadw at Safonau Ansawdd Tai Cymru. 

Nod Safonau Ansawdd Tai Cymru yw gwella ansawdd cartrefi pobl, gan osod targedau newydd i fynd i’r afael â datgarboneiddio ac effeithlonrwydd dŵr.  

Fel rhan o gwrdd â’r SATC, mae eiddo gwag yn cael eu hadnewyddu i safon uchel cyn cael eu gosod i ddeiliaid contract newydd. 

Mae hyn yn cynnwys carpedi newydd, ceginau ac ystafelloedd ymolchi wedi’u diweddaru, a gwelliannau eraill i sicrhau bod deiliaid contract newydd yn gallu mwynhau cartref diogel, cyfforddus ac o ansawdd uchel.

Yn ddiweddar, ymwelodd Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam, Alwyn Jones, ag un eiddo gwag cyn ei adnewyddu ac mae bellach wedi ymweld ar ôl i’r gwaith adnewyddu gael ei gwblhau. Dwedodd, “Mae’r gwaith ar yr eiddo yn ardderchog ac mae’n adlewyrchiad mor gadarnhaol ar ein hagwedd at denantiaid, ac ymrwymiad y contractwyr sy’n gweithio i ni. Mae’r gwaith i’r safonau uchaf ac mae’r eiddo y bydd y tenant newydd yn ei gael yn gartref gwirioneddol wych.” 

Dwedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Tai, “Mae’r buddsoddiad parhaus yn ein heiddo gwag yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu cartrefi o ansawdd da i bobl leol a bodloni Safonau Ansawdd Tai Cymru. Mae’n bwysig pan fydd rhywun yn dod yn ddeiliad contract gyda’r adran Dai eu bod yn symud i eiddo sy’n ddiogel, yn gyfforddus ac wedi’i orffen i safon uchel.” 

Mae gennym ystod o gontractwyr allanol sy’n cwblhau rhai o’n gwagleoedd. 

Roedd yr ymweliad yn cynnwys gweld eiddo gwag lle roedd gwaith adnewyddu yn cael ei wneud gan CW Builds.  Mae’r gwaith wedi’i gwblhau i’r safon y cytunwyd arno, gyda CW Builds hefyd yn cefnogi cyflogaeth leol trwy gyflawni’r prosiect.

Rhannu
Erthygl flaenorol Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam Twf cynaliadwy gyda chefnogaeth Parth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam
Erthygl nesaf All Saints School Pupils Aur i Gresffordd – Ysgol yr Holl Saint yn creu hanes yn Wrecsam!

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English