Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Amlosgfa Wrecsam – lle hardd sy’n haeddu ein parch
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Amlosgfa Wrecsam – lle hardd sy’n haeddu ein parch
Y cyngor

Amlosgfa Wrecsam – lle hardd sy’n haeddu ein parch

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 20, 2021 12:00 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Crematorium
RHANNU

Mae nifer ohonom wedi ymweld â’r Amlosgfa yn Pentre Bychan, un ai i fynd i angladd aelod agos o’r teulu neu ffrind neu i dalu teyrnged a chofio’r rhai sydd wedi eu hamlosgi yma.

Mae mwyafrif yr ymwelwyr yn bobl gyfrifol a pharchus sy’n trin yr amlosgfa a’r tiroedd gydag urddas ond mae lleiafrif bychan sy’n cymryd mantais o’r awyrgylch tawel.

Dewch i wybod am y newidiadau yn y cyfyngiadau Covid-19 yng Nghymru.

Bu i’r digwyddiad diweddaraf arwain at gwynion am iaith anweddus, ac, yn anffodus, aderyn yn cael ei lladd.

Mae achosion o’r fath yn brin ond hoffai staff atgoffa pawb nad yw’r amlosgfa a’r tiroedd yn le ar gyfer ymddygiad o’r fath. Nid yn unig ei fod yn amharchus ond mae hefyd yn anghyfreithlon ac mae’r mater bellach yn nwylo’r heddlu.

Os ydych yn gweld unrhyw beth sy’n achosi pryder i chi wrth ymweld â’r ardal cysylltwch ag aelod o staff ar y safle a byddant yn fwy na bodlon eich helpu.

Mae’r amlosgfa yn cynnal dros 1700 o amlosgfeydd y flwyddyn ac mae nifer o bobl yn dychwelyd i ymweld â man gorffwys eu hanwyliaid i nodi achlysuron. Defnyddiant yr ymweliad fel amser i fyfyrio a chofio a gwerthfawrogant yr awyrgylch.

Mae’r tiroedd yn ymestyn am 40 erw ac yn cael eu cynnal fel coetir lled naturiol (gan gynnwys tri phwll a nant Pentrebychan,) ac mae’n hafan i fywyd gwyllt. Mae’r mathau o anifeiliaid sy’n byw yn nhiroedd yr amlosgfa’n cynnwys crehyrod, moch daear, boncathod, nadroedd, hwyaid a thylluanod.

Mae’r tiroedd hefyd yn cynnwys un padog heb ei bori a gedwir fel dôl wyllt a choedardd.Mae rhan o Glawdd Offa’n mynd trwy diroedd yr amlosgfa.

Dywedodd Darren Williams, Prif Swyddog Amgylchedd a Thechnegol: “Roedd y digwyddiad a nodwyd yn arbennig o ofidus i ymwelwyr a staff. Mae’n le ar gyfer parch ac urddas a dylem oll gofio ei bod yn ardal ble mae nifer yn ei dewis fel man gorffwys terfynol ar gyfer eu hanwyliaid.”

???? Mae’r cyfyngiadau yng Nghymru’n llacio’n raddol. Gwnewch yn siŵr eich bod yn deall beth gewch chi ei wneud a beth na chewch chi ei wneud.????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://llyw.cymru/cyfyngiadau-cyfredol “] Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Census 2021 Chwalu mythau Cyfrifiad 2021 – 11 peth efallai rydych yn gwybod am y cyfrifiad ond rydych yn anghywir yn ei gylch
Erthygl nesaf Mother and her child Mae’r swyddi hyn yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant, pobl ifanc a’u gofalwyr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
Recycling
Y cyngor

Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu

Medi 25, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Y cyngor

Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein

Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English