Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn gallu gostwng eich bil band eang
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn gallu gostwng eich bil band eang
Arall

Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, efallai y byddwch yn gallu gostwng eich bil band eang

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 9, 2022 10:57 am
Rhannu
Darllen 2 funud
Broadband
RHANNU

Anogir preswylwyr Wrecsam i sicrhau eu bod yn cael y cynnig gorau ar gyfer eu band eang ar ôl adroddiadau bod miliynau o aelwydydd ledled y DU yn colli’r cyfle i gael gostyngiad.

Dywedodd y rheoleiddiwr cenedlaethol Ofcom y gallai hyd at 4.2 miliwn o aelwydydd haneru eu biliau band eang trwy gael pecynnau gostyngedig arbennig sydd ar gael i gwsmeriaid sy’n cael Credyd Cynhwysol.

Gallai’r pecynnau hyn – a elwir weithiau yn ‘tariff cymdeithasol’ – helpu nifer o deuluoedd i wneud arbedion hanfodol ar amser pan fo nifer o bobl yn cael problemau ariannol.

Fodd bynnag, dim ond 55,000 o gartrefi yn y DU sydd wedi cymryd mantais o’r cyfraddau gostyngedig hyd yma – dim ond 1.2% o’r rhai sy’n gymwys.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae bob ceiniog yn cyfrif

Mae chwech o ddarparwyr band eang – BT, Community Fibre, G.Network, Hyperoptic, KCOM a Virgin Media O2 – yn cynnig y cynigion arbennig hyn ar hyn o bryd, am £10-£20 y mis ar gyfer cyflymder band eang yn amrywio o 10Mbit/s i 67Mbit/s.

Mae Ofcom yn galw ar ddarparwyr i wneud mwy i hyrwyddo’r cynigion hyn i gwsmeriaid, ac eisiau i fwy o gwmnïau gynnig tariff cymdeithasol.

Dywedodd y Cynghorydd David Kelly, aelod arweiniol Cyngor Wrecsam sy’n gyfrifol am gynhwysiant digidol: “Gyda chost byw yn cynyddu, mae’n bwysig bod teuluoedd yn cael y pris gorau am eu band eang.

“Mae’r tariff cymdeithasol gostyngedig mae rhai cyflenwyr yn eu cynnig wir yn gallu helpu teuluoedd i ostwng eu biliau misol, felly os ydych yn cael Credyd Cynhwysol mae wir yn werth edrych ar hyn.

“Cysylltwch â’ch cyflenwr i weld beth allant ei gynnig. Mae band eang yn rhywbeth rydym i gyd yn dibynnu arno am gymaint o bethau y dyddiau hyn, ac mae bob ceiniog yn cyfrif.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Food Waste Awgrymiadau defnyddiol ynglŷn ag ailgylchu gwastraff bwyd
Erthygl nesaf Rhybudd gan CThEM wrth i dwyllwyr geisio dwyn cyfrifon treth personol Rhybudd gan CThEM wrth i dwyllwyr geisio dwyn cyfrifon treth personol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Water
ArallFideo

Arhoswch yn ddiogel o amgylch y dŵr

Awst 11, 2026
Mayor of Wrexham receiving a PSA screening test
ArallPobl a lle

Maer yn cefnogi digwyddiad sgrinio canser y prostad

Gorffennaf 28, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Gorffennaf 22, 2026
North Wales Police in Wrexham city centre
Arall

Diogelwch merched a genethod yn parhau bod yn ganolbwynt allweddol yn Wrecsam yr haf hwn

Gorffennaf 16, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English