Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth yw Your Space?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Beth yw Your Space?
ArallBusnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Beth yw Your Space?

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 30, 2022 10:11 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Jasmine at her desk working
RHANNU

Yn rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth y Byd fe fyddwn ni’n rhannu cyfres o flogiau am y gwaith yn ein cymunedau i wneud Wrecsam yn Ymwybodol o Awtistiaeth, yn ogystal â thynnu sylw at y wybodaeth a chefnogaeth sydd ar gael i bobl a theuluoedd sy’n byw gydag awtistiaeth.

Elusen Gofrestredig yw Your Space sydd yn gweithio’n agos gyda Chyngor Wrecsam i ddarparu cefnogaeth i oedolion ifanc a phlant sydd ar y sbectrwm awtistiaeth ynghyd â’u teuluoedd.

Cynhelir digwyddiadau a gweithgareddau yn cynnwys clybiau i’r rhai yn eu harddegau, diwrnodau allan i’r teulu, a chlybiau gwyliau. Mae yna lawer i’w wneud.  Gall Your Space hefyd ddarparu Gwasanaeth Cymorth 1-1 i Deuluoedd ar gyfer eich plentyn a seibiant i chi.  Gall y gwasanaeth unigryw yma gynnwys mynd allan am weithgaredd hwyliog, ymuno â sesiwn mewn clwb gweithgaredd, mwynhau ystafell synhwyraidd neu gefnogaeth yn y cartref.  Gallwch ddysgu mwy am yr amrywiaeth o weithgareddau a chefnogaeth y mae Your Space yn ei gynnig drwy fynd i’w gwefan

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae Your Space hefyd wedi creu cyfleoedd prentisiaethau gwych i bobl sydd ar y sbectrwm awtistig.

“Fe ddechreuais i weithio yn Your Space ym mis Medi 2021 fel Prentis Gweinyddol am flwyddyn.

Rydw i ar y sbectrwm fy hun, felly yn fy swydd yn Your Space, rydw i’n hoffi’r ffaith fy mod yn helpu plant a phobl ifanc sydd ar y sbectrwm neu sydd â phroblemau tebyg.  Mae Your Space yn leoliad sydd yn deall ac sydd yn fy nerbyn.

Ar y cyfan rydw i’n mwynhau fy rôl yn Your Space, ac mae’r bobl rydw i’n gweithio â nhw yn bobl sy’n deall, yn helpu ac yn glên.  Mae’n awyrgylch braf i weithio ynddo ac rydw i’n teimlo fy mod wedi gwneud yn dda yn fy swydd, ac rydw i wedi magu hyder ers dechrau gweithio yn Your Space.”

Jasmine, Prentis yn Your Space.

Gŵyl Gelfyddyau Your Space

Ymunwch â ni ddydd Sadwrn, 2 Ebrill rhwng 12pm a 4pm am ddigwyddiad hwyliog i ddathlu cymuned Your Space ar Ddiwrnod Awtistiaeth y Byd.  Bydd y digwyddiad yn Yellow and Blue a fydd yn cael ei gynnal gan Your Space.

Bydd lansiad ar gyfer albwm newydd Your Space ‘Songs out of the Ordinary’, yn agor y digwyddiad a bydd hefyd yn cynnwys cerddoriaeth, arddangosfeydd celf a ffotograffiaeth a gweithdai rhyngweithiol.

Mae’r digwyddiad cynhwysol hwn yn cynnwys hwyl i’r teulu cyfan! Bydd modd benthyg gwarchodwyr clyw addas.

Os hoffech chi ragor o wybodaeth am y gwasanaethau a’r cyngor sydd ar gael ar draws Cymru, ewch i

Awtistiaeth Cymru

Gwefan Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd 2022 Wythnos Derbyn Awtistiaeth y Byd 2022
Erthygl nesaf man writing by a computer Hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Awtistiaeth

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English