Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen 2.1 miliwn o becynnau credydau treth blynyddol i gael eu cyflwyno
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > 2.1 miliwn o becynnau credydau treth blynyddol i gael eu cyflwyno
Arall

2.1 miliwn o becynnau credydau treth blynyddol i gael eu cyflwyno

Diweddarwyd diwethaf: 2022/04/26 at 4:06 PM
Rhannu
Darllen 4 funud
Tax Credits
RHANNU

Bydd oddeutu 2.1 miliwn o gwsmeriaid credydau treth yn dechrau cael eu pecynnau adnewyddu blynyddol yr wythnos hon oddi wrth Gyllid a Thollau EM (CThEM).

Bydd y pecynnau’n cael eu hanfon rhwng 25 Ebrill a 27 Mai, ac mae gan gwsmeriaid tan 31 Gorffennaf i wirio bod eu manylion yn gywir ac i roi diweddariad i CThEM os bu newid yn eu hamgylchiadau.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.

Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy’n gweithio drwy roi cymorth ariannol targededig iddynt, felly mae’n bwysig nad yw pobl yn colli’r cyfle i gael arian y mae ganddynt hawl iddo.

Mae dau fath o becynnau adnewyddu:

  • os oes llinell goch ar draws y dudalen gyntaf a bod ‘atebwch nawr’ wedi’i nodi arni, bydd angen i gwsmeriaid gadarnhau eu hamgylchiadau i adnewyddu eu credydau treth
  • os oes llinell ddu ar draws y dudalen gyntaf a bod ‘gwiriwch nawr’ wedi’i nodi arni, bydd angen i gwsmeriaid wirio bod eu manylion yn gywir. Os ydynt yn gywir, nid oes angen i gwsmeriaid wneud dim a bydd eu credydau treth yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig

Bydd angen i oddeutu 630,000 o gwsmeriaid gadarnhau eu hamgylchiadau i adnewyddu eu credydau treth ar gyfer blwyddyn dreth 2022 i 2023.

Gall cwsmeriaid adnewyddu eu credydau treth yn rhad am ddim drwy GOV.UK neu ap CThEM.

Mae adnewyddu ar-lein yn gyflym ac yn hawdd. Gall cwsmeriaid fewngofnodi i GOV.UK i wirio cynnydd eu hadnewyddiad, i gael sicrwydd ei fod yn cael ei brosesu, ac i wybod pryd y byddant yn clywed oddi wrth CThEM. Gall cwsmeriaid sy’n defnyddio dewis ap CThEM ar eu ffôn clyfar wneud y canlynol:

  • adnewyddu eu credydau treth
  • diweddaru newidiadau i’w hawliad
  • gwirio’r amserlen ar gyfer talu eu credydau treth
  • cael gwybod faint maent wedi’i ennill ar gyfer y flwyddyn

Mae CThEM wedi rhyddhau fideo i esbonio sut y gall cwsmeriaid credydau treth ddefnyddio ap CThEM i fwrw golwg dros eu manylion, eu rheoli a’u diweddaru.

Os oes newid yn amgylchiadau cwsmer a allai effeithio ar ei hawliadau am gredydau treth, mae’n rhaid iddo roi gwybod i CThEM am y newid. Mae amgylchiadau a allai effeithio ar daliadau credydau treth yn cynnwys newidiadau i’r canlynol:

  • trefniadau byw
  • gofal plant
  • oriau gwaith, neu
  • incwm (cynnydd neu ostyngiad)

Mae credydau treth yn dod i ben a byddant yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol erbyn diwedd 2024. Gallai llawer o gwsmeriaid sy’n symud o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol fod ar eu hennill yn ariannol a gallant ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau annibynnol i wirio hynny.

Os bydd cwsmeriaid yn dewis gwneud cais yn gynt, mae’n bwysig cael cyngor annibynnol ymlaen llaw gan na fyddant yn gallu mynd yn ôl i gredydau treth nac unrhyw fudd-daliadau eraill y mae Credyd Cynhwysol yn eu disodli.

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Katie and Scarlet Newydd droi’n 16 oed? Erioed wedi pleidleisio o’r blaen? Darllenwch fwy…
Erthygl nesaf Underage Yfed dan oed a defnyddio prawf adnabod rhywun arall? – Byddech yn synnu pa mor gostus y gallai fod i chi

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Fly Tipping
ArallPobl a lleY cyngor

Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol

Ionawr 19, 2026
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall

Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’

Ionawr 14, 2026
Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26

Ionawr 8, 2026
JC Edwards Wall and Public Garden site
Pobl a lleArall

Wal a Gardd Gyhoeddus Newydd JC Edwards yn agor yn swyddogol yn Nhrefor

Rhagfyr 19, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English