Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Diweddarwyd diwethaf: October 22, 2026 10:22 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
RHANNU

Mae siop dylunwyr dynion hirsefydlog yng nghanol Wrecsam yn dathlu ei llwyddiant a’i hadleoli i Stryt yr Hôb.

Ar ôl agor ei drysau yn ôl ym 1993 ar gyrion y dref cyn symud i Ddôl yr Eryrod yn 2011, mae’r prosiect wedi bod yn bosibl diolch i Gyngor Wrecsam a grant a benthyciad gan Raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, mae’r prosiect hefyd wedi derbyn benthyciad gan Fanc Datblygu Cymru.

Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw Trawsnewid Trefi sy’n darparu dros £100m i adfywio canol trefi yng Nghymru.

Bydd Ragazzi yn agor i’r cyhoedd yn swyddogol ar 23 Hydref ac yn edrych ymlaen at groesawu cwsmeriaid hen a newydd o Wrecsam a thu hwnt.

Dros y blynyddoedd maent wedi ennill enw da am stocio’r brandiau dylunwyr diweddaraf mewn ffasiwn dynion ac maent yn ymfalchïo mewn gwasanaeth cwsmeriaid eithriadol, gyda phresenoldeb ar-lein mawr sydd wedi datblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf

Mae’r prosiect hefyd wedi cefnogi’r economi leol, gyda chontractwyr lleol yn sicrhau contractau fel rhan o’r gwaith, a mwy na £75,000 wedi’i wario’n lleol.

Dywedodd perchnogion Ragazzi, Oliver Davies ac Andy Burson, “heb gefnogaeth grant a benthyciad Trawsnewid Trefi, ni fyddai prynu ein hadeiladau ein hunain wedi bod yn bosibl, rydym hefyd yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom gan y Tîm Adfywio o fewn Adran yr Economi a Chynllunio yng Nghyngor Wrecsam gyda’r broses ac am ein cyfeirio at Fanc Datblygu Cymru sydd hefyd wedi cefnogi’r prosiect drwy fenthyciad.”

Dywedodd y Cynghorydd Nigel Williams, yr Aelod Arweiniol dros yr Economi, Busnes a Thwristiaeth, “Mae darparu’r Rhaglen Trawsnewid Trefi yn gwneud cyllid ar gyfer prosiectau adfywio yn fwy hygyrch, gan ein galluogi i adeiladu ar y llwyddiannau yr ydym eisoes wedi’u cyflawni yn Wrecsam. 

Mae Ragazzi yn enghraifft wych o fusnes hirsefydlog yn Wrecsam sy’n buddsoddi yn ei ddyfodol, wrth ddiogelu’r dreftadaeth a’r cymeriad sy’n gwneud Canol ein Dinas yn arbennig.

“Mae’n arbennig o braf gweld y busnes yn parhau i ffynnu yng nghanol Wrecsam. Mae gwelliannau fel hyn yn helpu i gryfhau canol y ddinas, cefnogi’r economi leol a gwneud Wrecsam yn lle mwy deniadol i breswylwyr ac ymwelwyr.”

Rhannu
Erthygl flaenorol Datblygu arloesi ffresni bwyd Datblygu arloesi ffresni bwyd
Erthygl nesaf Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU Ysgol Fach, Llais Mawr: Disgyblion Pentre yn ymweld â Senedd y DU

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Chirk Aqueduct
Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun
Pobl a lle Digwyddiadau
November 10, 2026
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Wedi gweld rhywbeth sy’n ymddangos o’i le? Gallai eich llais wneud gwahaniaeth
Y cyngor
November 10, 2026
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Dewch draw i Farchnadoedd Wrecsam
Pobl a lle Digwyddiadau
November 6, 2026
Wrecswyl Logo
Gwyl ddiwylliannol Gymreig newydd, WRECSWYL, yn dod i Wrecsam ddydd Sadwrn yma!
Pobl a lle Digwyddiadau
November 6, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Remembrance Sunday - image shows the cenotaph at Bodhyfryd in Wrexham
Pobl a lle

Wrecsam yn Cofio – Diwrnod y Cadoediad a Sul y Cofio 2026

November 5, 2026
Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau
Busnes ac addysg

Bwrdd Gweithredol yn rhoi sêl bendith i ymgynghoriadau

October 13, 2026
Library
Y cyngorPobl a lle

Llyfrgelloedd Cymru yn barod i helpu benthycwyr i fwynhau dyddiau mwy disglair y gaeaf hwn

November 5, 2026
Walking
Pobl a lleArall

Ewch yn Lleol ym mis Tachwedd

November 5, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English