Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Billy y ci yn synhwyro chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Yn cael sylw arbennig > Billy y ci yn synhwyro chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon.
Yn cael sylw arbennigArall

Billy y ci yn synhwyro chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon.

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 4, 2023 10:49 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Billy y ci yn synhwyro chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon.
RHANNU

Cafodd dros 250,000 o sigaréts anghyfreithlon a 20Kg o dybaco rholio anghyfreithlon (digon i 20,000 o sigaréts rholio) eu synhwyro a’u meddiannu y mis diwethaf o siopau a lleoliadau storio ar ôl cyrchoedd ar draws Gogledd Cymru, yn cynnwys ym Mangor, y Rhyl, Caernarfon a Bae Colwyn.

Ydych chi’n ddioddefwr siarc benthyg arian? Ffoniwch 0300 123 311.

Bu Swyddogion o’r Safonau Masnach, Gorfodaeth Mewnfudo, y Swyddfa Eiddo Deallusol a Heddlu Gogledd Cymru’n rhan o’r cyrchoedd wedi’u cefnogi gan Billy, y ci synhwyro tybaco o WagtailUK.

Dywedodd Roger Mapleson, Swyddog Arweiniol ar Dybaco o Safonau Masnach Cymru:  “Mae ysmygu’n lladd dros 5,000 o bobl yng Nghymru bob blwyddyn a bydd bron i hanner yr holl ysmygwyr tymor hir yn marw o ganlyniad uniongyrchol i’w harferiad. Tybaco anghyfreithlon yw sigaréts neu dybaco rholio sydd wedi’i smyglo a lle nad oes unrhyw dollau wedi’u talu arno. Mae hyn yn golygu ei fod yn gallu cael ei werthu am lai na hanner pris tybaco cyfreithlon yn yr economi anffurfiol, sy’n creu problem sylweddol yn ein cymunedau. Mae’n ei gwneud yn llawer haws i blant gael tybaco a chreu dibyniaeth ar hyd eu hoes ac mae’n ei gwneud yn llawer mwy anodd i rai sy’n ysmygu roi’r gorau iddi.”

“Mae canlyniadau’r cyrchoedd yma’n dangos pa mor effeithiol mae gweithrediadau ar y cyd yn gallu bod. Mae tybaco anghyfreithlon yn cael ei ddosbarthu a’i gyflenwi drwy rwydweithiau trosedd trefnedig – mae hyn yn aml yn gysylltiedig â gweithgarwch troseddol arall ac mae’n dod â throsedd i’n cymunedau lleol.”

“Yn ogystal â’r cyfeintiau mawr o dybaco anghyfreithlon a gipiwyd, fe wnaeth swyddogion hefyd feddiannu gwerth £20,000 o sigaréts electronig anghyfreithlon ynghyd â rhywfaint o bersawr ffug.”

Mae dau eiddo wedi’u cau ac un unigolyn wedi’i arestio. Mae’r ymchwiliadau’n parhau.

Mae tybaco anghyfreithlon yn niweidio cymunedau fel eich un chi. Os ydych chi’n gwybod unrhyw beth am sigaréts amheus yn eich ardal, rydym ni eisiau gwybod. Gallwch roi gwybod yn gyfrinachol ar DIM ESGUS — BYTH. 

Billy y ci yn synhwyro chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon.
Billy y ci yn synhwyro chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon.
Billy y ci yn synhwyro chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon.
Billy y ci yn synhwyro chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon.
Billy y ci yn synhwyro chwarter miliwn o sigaréts anghyfreithlon.

O ran costau byw, gallai gwneud yn siwr eich bod yn hawlio yr holl gymorth a chefnogaeth y mae gennych hawl iddo wneud gwahaniaeth mawr.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.wrecsam.gov.uk/services/cymorth-gyda-chostau-byw”] HAWLIWCH YR HYN SY’N DDYLEDUS I CHI [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol carnival of words 2023 Rhaglen gyffrous ar y gweill ar gyfer Gŵyl Geiriau Wrecsam
Erthygl nesaf Warm Places Grant Mannau Cynnes Rownd 2 – gwnewch gais erbyn 9 Ionawr

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
Wrecsam v oxford
ArallPobl a lle

Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd

Hydref 1, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English