Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyngor Wrecsam yn croesawu rhoi Groves ar restr fer ar gyfer oriel gelf genedlaethol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau
Arall
Wrecsam
Dadorchuddio llythrennau eiconig WRECSAM yn Sgwâr y Frenhines
Arall Pobl a lle
Women's Health Event 2026
Digwyddiad Iechyd Menywod 2026
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham cemetery
Datgelu cyfrinachau o’r tu hwnt i’r bedd ar deithiau cerdded yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
Advanced manufacturing
Cynlluniau grant newydd yn targedu cwmnïau gweithgynhyrchu yn Sir y Fflint a Wrecsam
Busnes ac addysg
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Cyngor Wrecsam yn croesawu rhoi Groves ar restr fer ar gyfer oriel gelf genedlaethol
Arall

Cyngor Wrecsam yn croesawu rhoi Groves ar restr fer ar gyfer oriel gelf genedlaethol

Diweddarwyd diwethaf: 2023/05/25 at 5:06 PM
Rhannu
Darllen 2 funud
RHANNU

Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyn ysgol yn Wrecsam ar restr fer fel safle angor posib ar gyfer Oriel Gelf Gyfoes Genedlaethol i Gymru, a chafodd Cyngor Wrecsam £25,000 i ddatblygu’r cynnig ymhellach.

Mae’r cynnig manwl wedi’i gyflwyno bellach ac os bydd yn llwyddiannus, bydd yn sicrhau ailddefnyddio adeilad rhestredig amlwg, yn amodol ar gael y caniatâd angenrheidiol.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rydym yn parhau i edrych ar opsiynau ar gyfer yr adeilad a’r safle, ac yn falch bod Groves ar y rhestr fer.

“Rydym wedi ceisio dod o hyd i ddefnydd ar gyfer y safle ac wedi bod mewn nifer o sefyllfaoedd addawol ond sydd wedi arwain at siomedigaeth. Roedd gennym ddyheadau o adeiladu ysgol y 21ain ganrif newydd yno, ond ni ddatblygodd unrhyw beth o hyn.

“Hefyd rydym wedi edrych ar opsiwn ar gyfer canolfan hyfforddiant meddygol, ond eto nid wnaeth dim ddigwydd. Felly rydym yn obeithiol yn awr y cawn ganlyniad mwy cadarnhaol.

“Mae Wrecsam eisoes yn ganolbwynt diwylliannol pwysig ac yn ddinas fwyaf newydd Cymru, felly mae’n gwneud synnwyr i edrych ar sut y gallwn o bosib cael oriel gelf newydd i Gymru.

“Byddai oriel genedlaethol yn cyd-fynd â’n safleoedd diwylliannol presennol megis Tŷ Pawb a’r amgueddfa bêl-droed a gynlluniwyd, a byddai’n ychwanegiad diwylliannol arwyddocaol i Ogledd Cymru.

“Hoffwn ddiolch i’n holl staff sydd wedi gweithio’n galed ar y cais am y cynnig hwn.”

Mae’r safle yn un o bum lleoliad sydd wedi eu cynnwys yn y rhestr fer a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.

Rhannu
Erthygl flaenorol Y Protocol Herbert Wythnos Gweithredu dros Ddementia: Protocol Herbert
Erthygl nesaf Scam Alert Rhybudd Twyll! Adroddiadau o negeseuon e-bost ffug gan y gwasanaeth Trwydded Deledu

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

'Amgueddfa Dau Hanner' Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed - mewn lluniau
‘Amgueddfa Dau Hanner’ Wrecsam yn coffáu pen-blwydd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn 150 oed – mewn lluniau
Arall Chwefror 4, 2026
Wrecsam
Dadorchuddio llythrennau eiconig WRECSAM yn Sgwâr y Frenhines
Arall Pobl a lle Chwefror 3, 2026
Women's Health Event 2026
Digwyddiad Iechyd Menywod 2026
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Chwefror 3, 2026
Wrexham cemetery
Datgelu cyfrinachau o’r tu hwnt i’r bedd ar deithiau cerdded yn Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Chwefror 2, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam
ArallPobl a lle

Dadorchuddio llythrennau eiconig WRECSAM yn Sgwâr y Frenhines

Chwefror 3, 2026
Fly Tipping
ArallPobl a lleY cyngor

Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol

Ionawr 19, 2026
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall

Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’

Ionawr 14, 2026
Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26

Ionawr 8, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English