Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Wythnos Gweithredu dros Ddementia: Protocol Herbert
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Wythnos Gweithredu dros Ddementia: Protocol Herbert
ArallPobl a lle

Wythnos Gweithredu dros Ddementia: Protocol Herbert

Diweddarwyd diwethaf: Mai 30, 2023 10:44 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Y Protocol Herbert
RHANNU

Erthgyl Gwadd – Heddlu Gogledd Cymru

Mae menter sy’n helpu’r Heddlu i ganfod pobl sydd ar goll yn sgil dementia yn gyflym ac yn ddiogel ac yn cael ei ail-lansio ar draws Gogledd Cymru.

Menter yw Protocol Herbert a ddatblygwyd yn wreiddiol gan Heddlu Norfolk yn 2011 sy’n annog teuluoedd a gofalwyr i lunio gwybodaeth ddefnyddiol a all gael ei ddefnyddio pan fydd person bregus yn mynd ar goll.

Enwir Protocol Herbert ar ôl George Herbert, cyn-filwr a oedd yng nglaniadau Normandi, a oedd yn byw gyda dementia.  Roedd George yn mynd ar goll o’i gartref gofal yn aml a byddai’n rhaid i’r heddlu fynd i chwilio amdano.

Gall gofalwyr, aelodau o’r teulu a chyfeillion gwblhau ffurflenni o flaen llaw, gan gofnodi manylion pwysig fel gwybodaeth feddygol, rhifau symudol, lleoliadau sy’n berthnasol i’r unigolyn a ffotograff.  Os bydd aelod o’ch teulu neu ffrind yn mynd ar goll, gall y ffurflenni gael eu rhoi i’r heddlu er mwyn lleihau’r amser yn casglu’r wybodaeth hon.

Gall y ffurflen gael ei hargraffu wedyn a’i storio mewn lle diogel, hawdd i gael gafael arni, neu gael ei gadw gan aelod o’r teulu yn electronig. Os yw’r person mewn cartref gofal dylai aelod o’r teulu gysylltu i ddechrau i drafod cwblhau’r ffurflen ac yna gall gael ei gynnwys mewn cynllun gofal unigolyn.

Mae’r cynllun yn cael ei gyflwyno eto ar draws Gogledd Cymru fel rhan o Wythnos Gweithredu dros Ddementia (15-21 Mai).

Dywedodd Uwcharolygydd Owain Llewellyn, Heddlu Gogledd Cymru: “Mae pob munud yn hanfodol wrth chwilio am bobl fregus gan gynnwys pobl â dementia ac felly mae cael y wybodaeth wth law yn ddefnyddiol iawn i’r Heddlu.

“Pan fydd person yn mynd ar goll, mae’n amser pryderus i deulu a ffrindiau. Mae Protocol Herbert yn annog gofalwyr a theulu i gofnodi gwybodaeth hanfodol mewn ffurflen o flaen llaw, cyn bod argyfwng. Mae cael y ffurflen wrth law pan mae rhywun ar goll yn gallu cyflymu’r ymchwiliad ac yn golygu nad yw’r teulu yn cael trafferth canfod gwybodaeth pan fyddant o dan bwysau.

“Dros y 6 mis diwethaf mae 50 o bobl gyda dementia wedi mynd ar goll yng Ngogledd Cymru, felly rydym yn falch iawn o gael gweithio yn agos gydag asiantaethau partner ar ehangu’r fenter hon ac rydym yn annog pobl gyda dementia, teuluoedd a gofalwyr ar draws yr ardal i ddefnyddio’r ffurflen hon er mwyn ei chyflwyno i’r Heddlu pan fo angen.”

Gan weithio’n agos gyda Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru mae’r fenter yn cael ei hyrwyddo drwy ddosbarthu taflenni mewn fferyllfeydd, ysbytai, meddygfeydd teulu a chanolfannau dementia ar draws yr ardal.

Dywedodd Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol ar gyfer Dementia ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sy’n aelod o Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru: “Mae ychydig dros 5,000 o bobl gyda dementia yng Ngogledd Cymru a thua 4,800 o bobl gyda dementia nad yw wedi cael ei gydnabod yn swyddogol.

“Wrth i bobl fyw yn hirach, mae disgwyl y bydd cynnydd o 64% o bobl gyda dementia yng Ngogledd Cymru rhwng g2017 a 2035, a all olygu y bydd 7,000 yn rhagor o bobl yn byw gyda’r cyflwr.

“Drwy weithio gyda’n gilydd a hyrwyddo ymwybyddiaeth o Brotocol Herbert, gallwn sicrhau y bydd pobl â dementia sy’n mynd ar goll yn cael y siawns gorau o gael eu ffeindio’n gyflym. Gall Protocol Herbert gynnig gwybodaeth bwysig, nid yn unig beth mae person yn ei wisgo ond hefyd pa iaith mae’r person yn siarad ag i ba enw mae’n ymateb.

Anogir defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol i ddilyn hashnod #HerbertProtocol ar y cyfryngau cymdeithasol.

Ceir fersiwn electronig o’r ffurflen yma Ffurflen Protocol Herbert (northwales.police.uk)

Mae rhagor o wybodaeth am Wythnos Gweithredu dros Ddementia ar gael drwy: Wythnos Gweithredu dros Ddementia/Cymdeithas Alzheimer (alzheimers.org.uk)

Rhannu
Erthygl flaenorol Foster Wales Maethu Cymru yn galw ar gyflogwyr Cymru i gefnogi gofalwyr maeth
Erthygl nesaf Cyngor Wrecsam yn croesawu rhoi Groves ar restr fer ar gyfer oriel gelf genedlaethol

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle
Medi 29, 2026
Dal dwylo
Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?
Arall Pobl a lle
Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor
Medi 29, 2026
Cystadleuaeth Dylunio Cymeriad
Lansio cystadleuaeth gelf i blant wrth i ddathliadau’r Flwyddyn o Ryfeddod barhau
Busnes ac addysg Digwyddiadau Pobl a lle
Medi 29, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Rhiannon Roberts yn torri'r rhuban ar gae 3G diweddaraf Wrecsam
Pobl a lle

Rhiannon Roberts yn torri’r rhuban ar gae 3G diweddaraf Wrecsam

Medi 29, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed

Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle

Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell

Medi 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English