Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen CThEF yn paratoi i anfon 1.5 miliwn o becynnau adnewyddu credydau treth
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle
David Ebsworth
Awdur lleol yn barod i ddatgelu’r gwirioneddau hanesyddol y tu ôl i’w fyd ffuglennol
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > CThEF yn paratoi i anfon 1.5 miliwn o becynnau adnewyddu credydau treth
Arall

CThEF yn paratoi i anfon 1.5 miliwn o becynnau adnewyddu credydau treth

Diweddarwyd diwethaf: 2023/05/26 at 11:13 AM
Rhannu
Darllen 6 funud
Tax Credits
RHANNU

Erthyl Gwadd: CThEF

Bydd Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CThEF) yn cyhoeddi 1.5 miliwn o becynnau adnewyddu credydau treth blynyddol ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024 i gwsmeriaid rhwng 2 Mai a 15 Mehefin 2023.

Unwaith y bydd cwsmeriaid yn cael eu pecyn adnewyddu blynyddol bydd ganddyn nhw hyd at 31 Gorffennaf 2023 i wirio bod yr wybodaeth yn gywir ac i roi gwybod i CThEF am unrhyw newidiadau i’w hamgylchiadau a allai effeithio ar eu hawliad.

Casgliad bin a fethwyd? Gadewch i ni wybod.

Mae credydau treth yn helpu teuluoedd sy’n gweithio drwy roi cymorth ariannol targededig iddynt, felly mae’n bwysig nad yw pobl yn colli’r cyfle i gael arian y mae ganddynt hawl iddo.

Mae dau fath o becynnau adnewyddu:

  • os oes llinell goch ar draws y dudalen gyntaf a bod ‘atebwch nawr’ wedi’i nodi arni, bydd angen i gwsmeriaid gadarnhau eu hamgylchiadau i adnewyddu eu credydau treth
  • os oes llinell ddu ar draws y dudalen gyntaf a bod ‘gwiriwch nawr’ wedi’i nodi arni, bydd angen i gwsmeriaid wirio bod eu manylion yn gywir. Os ydynt yn gywir, nid oes angen iddynt wneud dim a bydd eu credydau treth yn cael eu hadnewyddu’n awtomatig

Bydd angen i fwy na 500,000 o gwsmeriaid credydau treth ymateb i CThEF erbyn y dyddiad cau i gadarnhau eu hamgylchiadau ar gyfer blwyddyn dreth 2023 i 2024, neu risgio cael eu taliadau wedi eu stopio.

Gall cwsmeriaid adnewyddu eu credydau treth yn rhad am ddim drwy GOV.UK neu ap CThEF.

Dywedodd Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid, “Mae credydau treth yn rhoi cymorth ariannol hanfodol i deuluoedd, felly mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn cadw llygad am eu pecyn adnewyddu ac yn adnewyddu erbyn 31 Gorffennaf. I gael manylion ar sut i adnewyddu, chwiliwch am ‘manage my tax credits’ ar GOV.UK.”

Bydd y pecynnau adnewyddu yn cael eu hanfon mewn sypiau. Mae CThEF yn atgoffa cwsmeriaid sydd heb gael eu pecynnau adnewyddu i aros tan ar ôl 15 Mehefin cyn cysylltu â CThEF am eu pecyn.

Mae CThEF wedi rhyddhau fideo i esbonio sut y gall cwsmeriaid credydau treth ddefnyddio ap CThEF i fwrw golwg dros eu manylion, eu rheoli a’u diweddaru.

Mae adnewyddu ar-lein yn hawdd ac yn gyflym. Gall cwsmeriaid fewngofnodi i GOV.UK i wirio cynnydd eu cais i adnewyddu, i gael sicrwydd bod y cais yn cael ei brosesu, ac i wybod pryd y byddant yn clywed oddi wrth CThEF. Gall cwsmeriaid sy’n dewis i ddefnyddio ap CThEF wneud y canlynol:

  • adnewyddu eu credydau treth
  • diweddaru newidiadau i’w hawliad
  • gwirio amserlen y taliadau ar gyfer eu credydau treth
  • cael gwybod faint y maent wedi’i ennill ar gyfer y flwyddyn

Os oes newid yn amgylchiadau cwsmer a allai effeithio ar ei hawliadau am gredydau treth, mae’n rhaid iddo roi gwybod i CThEF am y newid. Mae amgylchiadau a allai effeithio ar daliadau credydau treth yn cynnwys newidiadau i’r canlynol:

  • trefniadau byw
  • gofal plant
  • oriau gwaith, neu
  • incwm (cynnydd neu ostyngiad)

Bydd credydau treth yn cael eu disodli gan Gredyd Cynhwysol erbyn 2024. Bydd cwsmeriaid sy’n cael credydau treth yn cael llythyr gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn rhoi gwybod iddynt pryd i hawlio Credyd Cynhwysol. Mae’n bwysig bod cwsmeriaid yn hawlio erbyn y dyddiad cau a ddangosir yn y llythyr i barhau i gael cymorth ariannol gan y bydd eu credydau treth yn dod i ben hyd yn oed os ydynt yn penderfynu peidio â hawlio Credyd Cynhwysol. Ond does dim angen aros am eu llythyr trosglwyddo, a gall cwsmeriaid wneud cais i symud i Gredyd Cynhwysol yn gynt, os yw’n iawn iddynt.

Mae’r llywodraeth yn cynnig Help i Gartrefi. Trowch at GOV.UK i gael gwybod pa gymorth gyda chostau byw y gall unigolion fod yn gymwys ar ei gyfer.

Mae troseddwyr yn defnyddio dyddiadau cau, fel yr un ar gyfer adnewyddu credydau treth, i dwyllo pobl a allai fod yn disgwyl clywed gan CThEF i rannu eu manylion bancio neu bersonol eraill. Os yw galwad ffôn, neges destun neu e-bost yn annisgwyl, peidiwch â rhoi gwybodaeth breifat nac ateb, a pheidiwch â lawrlwytho atodiadau na chlicio ar gysylltiadau. Mae’n iawn gwrthod neu anwybyddu unrhyw geisiadau – dim ond troseddwyr fydd yn ceisio rhuthro neu gynhyrfu pobl. Mae CThEF hefyd yn rhybuddio pobl i beidio â rhannu eu manylion mewngofnodi gydag unrhyw un arall. Ewch i GOV.UK i gael rhagor o wybodaeth am sut i roi gwybod am sgam neu weithgarwch amheus.

Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://myaccount.wrexham.gov.uk/cy/service/Report_a_missed_waste_collection”] RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol New city - new career. Work for Wrexham Council Ydych chi wedi ystyried Prentisiaeth neu Hyfforddeiaeth gyda CBSW?
Erthygl nesaf Town Centre Plannu dros 10,000 o goed ledled y sir

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Ruabon library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhiwabon
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i'r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Plas yn Rhos ac Oak Alyn Datganiad i’r Bwrdd Gweithredol – 20/01/2026
Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Cefn Mawr library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Cefn Mawr
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 23, 2026
Pupils at Ysgol Llan y Pwll
Canmoliaeth uchel i Ysgol Llan-y-Pwll yn adroddiad diweddar Estyn
Busnes ac addysg Pobl a lle Ionawr 20, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Fly Tipping
ArallPobl a lleY cyngor

Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol

Ionawr 19, 2026
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall

Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’

Ionawr 14, 2026
Winter weather
ArallY cyngor

Storm Goretti – diweddariad tywydd 9.1.26

Ionawr 8, 2026
JC Edwards Wall and Public Garden site
Pobl a lleArall

Wal a Gardd Gyhoeddus Newydd JC Edwards yn agor yn swyddogol yn Nhrefor

Rhagfyr 19, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English