Erthygl wadd gan Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Pentre, y Waun.
Yn brofiad unwaith mewn oes, mae disgyblion o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Pentre yn y Waun wedi cynrychioli eu hysgol a’u cymuned yn falch ym Mhalas San Steffan yn Llundain.
Teithiodd dau ddisgybl, yng nghwmni dau aelod o staff, i Lundain lle cawson nhw gyfle i brofi democratiaeth yng nghanolbwynt y Deyrnas Unedig.
Ysbrydolwyd yr achlysur arbennig gan weledigaeth gydol oes y diweddar Syr David Amess, a oedd yn credu’n angerddol y dylai plant oedran cynradd gael y cyfle i brofi’r Senedd, trafod materion go iawn a deall sut mae democratiaeth yn gweithio.
Roedd Ysgol Pentre yn falch iawn o gael ei chynnig gan yr AS lleol, Steve Witherden, gan roi cyfle i’n plant fynd â’u lleisiau yr holl ffordd o’n hysgol fach yn Wrecsam i San Steffan.
Ond roedd yr achlysur hyd yn oed yn fwy rhyfeddol gan mai’r disgyblion o Ysgol Pentre oedd yr unig blant o Gymru a gymerodd ran! Am fraint anhygoel! Wrth sefyll yn y Senedd, roedd ein disgyblion nid yn unig yn cynrychioli Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Pentre. Roedden nhw’n cynrychioli Cymru, roedd eu lleisiau’n bwysig, roedd eu safbwyntiau’n cael eu clywed ac roedden nhw’n cofleidio pob eiliad gyda hyder, brwdfrydedd a balchder.
Dywedodd Catherine Ivanoff, Pennaeth Dros Dro Ysgol Pentre,
“Allen ni ddim bod yn fwy balch ohonyn nhw, trwy gydol yr holl brofiad, roedd y plant yn ymddwyn yn eithriadol o dda ac yn genhadon gwych i Ysgol Pentre, eu teuluoedd, eu cymuned a Chymru.
“Fe wnaethon nhw fynd i’r afael â’r cyfle anhygoel hwn gydag aeddfedrwydd, chwilfrydedd, cyffro ac fe wnaethon nhw ein gwneud ni’n hynod o falch.
“Diolch o galon hefyd i’n haelodau o staff ymroddedig a aeth gyda’r plant i Lundain.
“Mae cyfleoedd fel hyn yn bosib oherwydd staff sy’n barod i roi eu hamser, eu hegni a’u gofal i sicrhau bod ein plant yn gallu mwynhau profiadau sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.
“Rydyn ni hefyd yn hynod ddiolchgar i Steve Witherden AS am gynnig Pentre a helpu i wneud y cyfle rhyfeddol hwn yn bosibl i’n disgyblion.
“I ysgol fach fel ein hysgol ni, roedd hon yn foment enfawr. Roedd yn ddiwrnod llawn cyffro, dysgu, democratiaeth a llawer iawn o falchder.”


