Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gwaith yn Ysgol yr Hafod yn tynnu at ei derfyn…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Gwaith yn Ysgol yr Hafod yn tynnu at ei derfyn…
Pobl a lleY cyngor

Gwaith yn Ysgol yr Hafod yn tynnu at ei derfyn…

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 24, 2023 3:42 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Gwaith yn Ysgol yr Hafod yn tynnu at ei derfyn…
RHANNU

Mae gwaith yn Ysgol yr Hafod i fod i gael ei gwblhau erbyn 31 Awst yn barod ar gyfer y tymor ysgol newydd sy’n dechrau ar 5 Medi.

Mae tu blaen Fictoraidd yr ysgol wedi’i gadw, ac mae’r tu mewn wedi’i foderneiddio’n chwaethus gan ymgorffori nodweddion hŷn a newydd yr ysgol bresennol.

Ar ôl cwblhau prosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif sydd wedi’i gefnogi gan tua £6 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, bydd pob grŵp blwyddyn yn cael eu haddysgu ar safle Ffordd Bangor.

Roedd y gwaith yn cynnwys cymorth grant ychwanegol y cafodd ei ddefnyddio i brynu tŷ’r ysgol, a fydd yn rhan o’r hawl i flynyddoedd cynnar. Bydd Little Miners a’r Clwb ar ôl Ysgol hefyd yn cael lle yn yr adeilad a fydd o fudd i’r ysgol a’r gymuned leol.

Ar ddiwedd y tymor bydd yr ysgol yn gadael Safle’r Cyfnod Sylfaen, a fydd hefyd yn cynnwys paratoadau ar gyfer cael gwared ar y cabanau dros dro.  Bydd Safle’r Cyfnod Sylfaen ym Melyd Avenue wedyn yn dychwelyd i’r Awdurdod Lleol yng Nghyngor Wrecsam.

Roedd lleoedd parcio ychwanegol ar Ffordd Bangor yn rhan o’r amodau cynllunio sy’n cefnogi rhieni a’r gymuned i geisio mynd i’r afael â phryderon yn ymwneud â’r galw am leoedd parcio.  Byddwn ni hefyd yn annog rhieni i gerdded i’r ysgol yn rhan o’n hymrwymiad i gynlluniau teithio llesol. 

Bydd tri mynediad i’r safle, sef: Ffordd Bangor, y Stryd Fawr ac Ystâd Moreton. Bydd yr ysgol yn rhoi rhagor o fanylion yn nes at yr amser.

Bydd diwrnod agored yn cael ei drefnu pan fydd y safle wedi’i drosglwyddo yn ôl, er mwyn i’r gymuned allu dod i weld y cyfleusterau newydd, mae’n debygol y bydd hyn yn digwydd ar ôl i’r ysgol agor ym mis Medi.

Dywedodd y Cynghorydd David Bithell, Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol yr Hafod: “Rwy’n falch iawn o sut mae’r Grŵp Prosiect Strategol wedi goruchwylio’r gwaith dros y 18 mis diwethaf gan sicrhau bod y prosiect yn cael ei gyflawni ar amser a bod y cyfleusterau newydd yn wych y tu mewn a’r tu allan. “Rwy’n gwybod bod staff yr ysgol yn hynod o falch ac yn edrych ymlaen at gael cyfleusterau mor fodern sydd hefyd yn cynnwys cyfleuster gemau aml-ddefnydd newydd. “Bydd y gymuned leol yn falch iawn o’u hysgol newydd”.

Dywedodd Mrs Alison Heale, y Pennaeth: “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’n rhieni a’n gwarcheidwaid, trigolion a’r gymuned leol am eu hamynedd yn ystod adeiladu’r safle ac o ran yr anawsterau parcio ychwanegol ar Safle’r Cyfnod Sylfaen. Mae’r newidiadau a’r gwelliannau wedi bod yn drawsnewidiol ac rwy’n edrych ymlaen at groesawu ein disgyblion i gyd yn ôl ym mis Medi.”

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg yng Nghyngor Wrecsam: “Mae’n wych gweld blynyddoedd o gynllunio yn dwyn ffrwyth wrth i ni barhau i fuddsoddi mewn gwella adeiladau ein hysgolion ledled Wrecsam.  Rwy’n hynod o falch gyda safon uchel y gwaith yn yr ysgol ac rwy’n hyderus y bydd yr ysgol yn gwasanaethu cymuned Johnstown yn dda am flynyddoedd i ddod.

Gwaith yn Ysgol yr Hafod yn tynnu at ei derfyn…
Gwaith yn Ysgol yr Hafod yn tynnu at ei derfyn…
Gwaith yn Ysgol yr Hafod yn tynnu at ei derfyn…
Gwaith yn Ysgol yr Hafod yn tynnu at ei derfyn…
Gwaith yn Ysgol yr Hafod yn tynnu at ei derfyn…
TAGGED:wrexhamysgolYsgol yr Hafod
Rhannu
Erthygl flaenorol Ysgol St Christopher's Dau enillydd o Wrecsam mewn cystadleuaeth dreftadaeth Gymreig genedlaethol
Erthygl nesaf green bin Adnewyddu eich casgliadau gwastraff gardd yn barod ar gyfer mis Medi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor with Nightingale House Hospice team
Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam
Arall Fideo Pobl a lle
Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 9, 2026
Guildhall
Datganiad gan Gyngor Wrecsam: Dyfarniad uchel lys wedi’i sicrhau dros ddatblygiad anawdurdodedig yng Nghoed-poeth
Y cyngor
Medi 8, 2026
Mayor with the Registrar team
Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu
Arall Pobl a lle Y cyngor
Medi 4, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Medi 4, 2026
Football park and ride
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 4, 2026
Penley Hospital
ArallPobl a lle

Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Medi 3, 2026
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Medi 3, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English