Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
Busnes ac addysgY cyngor

Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027

Diweddarwyd diwethaf: Medi 4, 2026 10:13 am
Rhannu
Darllen 7 funud
Derbyn i ysgolion: dyddiadau allweddol ar gyfer 2026/2027
RHANNU

Wrth i’r flwyddyn ysgol newydd agosáu, mae’n bryd i lawer o rieni a gwarcheidwaid ddechrau meddwl am gam nesaf eu plentyn mewn addysg.

Os bydd eich plentyn yn troi’n 3, 4 neu’n 11 oed rhwng Medi 1, 2026, ac Awst 31, 2027, mae yna rai dyddiadau derbyn i’r ysgol pwysig i’w hychwanegu at eich dyddiadur.

P’un a yw’ch plentyn yn symud i’r ysgol uwchradd, yn dechrau dosbarth derbyn neu’n dod yn gymwys i fynd i ddosbarth meithrin neu addysg gynnar wedi’i ariannu, dyma beth sydd angen i chi ei wybod.

Ysgol uwchradd

Os yw’ch plentyn yn troi’n 11 oed yn ystod y flwyddyn academaidd hon ac newydd symud i Flwyddyn 6, gallwch wneud cais am le ysgol uwchradd iddynt ar gyfer mis Medi 2027.

Cyfnod ceisiadau’n agor: 1 Medi, 2026

Dyddiad cau: 31 Hydref, 2026

Bydd ein hysgolion uwchradd hefyd yn cynnal nosweithiau agored yn yr wythnosau nesaf, gan roi cyfle i rieni, gwarcheidwaid a phlant ymweld ag ysgolion a chael teimlad o sut lefydd ydyn nhw.

Mae manylion y noson agored i’w gweld ar wefan Cyngor Wrecsam.

Derbyn

Os yw’ch plentyn yn troi’n 4 oed yn ystod y flwyddyn academaidd hon, gan gynnwys plant sydd newydd ddechrau dosbarth meithrin, bydd angen i chi hefyd wneud cais am eu lle dosbarth derbyn llawn amser ar gyfer Medi 2027.

Cofiwch, nid yw symud o’r dosbarth meithrin i’r dosbarth derbyn yn awtomatig – rhaid i chi wneud cais ar wahân.

Cyfnod ceisiadau’n agor: 21 Medi, 2026

Dyddiad cau: 15 Ionawr, 2027

Addysg i blant 3 oed

Os yw’ch plentyn yn troi’n 3 oed yn ystod y flwyddyn academaidd hon, efallai y byddwch chi’n gallu gwneud cais amdano.

Dosbarth Meithrin

Mae pob plentyn sy’n cyrraedd ei drydydd pen-blwydd cyn 31 Awst yn gymwys i wneud cais am le dosbarth meithrin mewn ysgol.

Cyfnod ceisiadau’n agor: 5 Ionawr, 2027

Dyddiad cau: 15 Chwefror, 2027

Addysg gynnar wedi’i ariannu

Gall plant sydd â’u pen-blwydd yn dair oed rhwng 1 Medi a 31 Rhagfyr  wneud cais am le addysg gynnar a ariennir ar gyfer mis Ionawr.

Cyfnod ceisiadau’n agor: 1 Medi, 2026

Dyddiad cau: 23 Hydref, 2026

Gall plant sy’n cael eu pen-blwydd yn dair oed rhwng 1 Ionawr a 31 Mawrth wneud cais am le addysg gynnar a ariennir at fis Ebrill.

Cyfnod ceisiadau’n agor: 2 Tachwedd, 2026

Dyddiad cau: 18 Rhagfyr, 2026

Mae addysg gynnar wedi’i hariannu ar gael mewn nifer o ysgolion a meithrinfeydd cofrestredig. Mae rhestr lawn o ddarparwyr ar gael ar wefan Cyngor Wrecsam.

Os yw’ch plentyn yn gymwys i gael addysg gynnar wedi’i hariannu, cofiwch y bydd angen i chi wneud dau gais ar wahân – un ar gyfer addysg gynnar a ariennir ac un ar gyfer dosbarth meithrin.

Sut i wneud cais

Mae pob cam o addysg yn gofyn am gais newydd, ar wahân, ac mae lleoedd ysgol yn cael eu dyrannu bob blwyddyn yn unol â’n polisi derbyn.

Y ffordd hawsaf o wneud cais yw trwy’r porth derbyn ar-lein, lle gallwch hefyd ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gwahanol gyfnodau derbyn.

Dywedodd y Cynghorydd Phil Wynn, yr Aelod Arweiniol dros Addysg, “Mae dechrau ysgol newydd neu symud ymlaen i’r ysgol uwchradd yn garreg filltir bwysig i blant a’u teuluoedd, ac rydym am wneud y broses dderbyn mor syml â phosibl.

Byddwn yn annog rhieni a gwarcheidwaid i edrych ar eu dewisiadau yn gynnar, gwneud nodyn o ddyddiadau perthnasol a chyflwyno eu cais cyn y dyddiad cau.

Mae digon o wybodaeth a chymorth ar gael trwy ein gwefan, a gwneud cais ar-lein yw’r ffordd gyflymaf a hawsaf o sicrhau bod eich cais yn cael ei dderbyn ac i gadw golwg ar ei gynnydd.”

Peidiwch â’i gadael hi’n rhy hwyr i wneud cais

Bydd ceisiadau a dderbynnir ar ôl y dyddiad cau yn dal i gael eu derbyn, ond rhaid rhoi blaenoriaeth i geisiadau a gyflwynir mewn pryd.

Mae ceisiadau hwyr yn cael eu hystyried dim ond ar ôl i leoedd gael eu dyrannu i’r holl ymgeiswyr a wnaeth cais mewn da bryd. Mae hyn yn golygu y gallai rhywun sy’n byw ymhellach i ffwrdd o ysgol ond wedi gwneud cais ar amser gael cynnig lle o flaen rhywun sy’n byw gerllaw a gyflwynodd eu cais yn hwyr.

Mae cyflwyno’ch cais cyn y dyddiad cau yn rhoi’r siawns orau i chi gael cynnig lle yn eich dewis ysgol.

Gwneud cais i ysgol mewn sir arall

Os ydych chi’n byw y tu allan i Wrecsam ond yr hoffech wneud cais am ysgol yma – neu os ydych chi’n byw yn Wrecsam ac eisiau gwneud cais am ysgol yn rhywle arall – darllenwch y wybodaeth ar ein gwefan yn ofalus i wneud yn siŵr eich bod yn gwneud cais i’r awdurdod lleol cywir.

Mae gennym drefniadau rhannu data gyda sawl awdurdod cyfagos, ac, yn y rhan fwyaf o achosion, dylech wneud cais i’r awdurdod lleol lle rydych chi’n byw a chynnwys pob un o’ch ysgolion dewis ar y cais hwnnw.

Mae timau derbyn yn gweithio gyda’i gilydd trwy drefniadau trawsffiniol, felly nid oes angen cyflwyno ceisiadau dyblyg.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Cyngor Wrecsam.

Os oes angen i chi wneud cais mewn fformat arall, cysylltwch â’r tîm derbyniadau drwy e-bost.

Rhannu
Erthygl flaenorol Football park and ride Wrecsam v Burnley – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
Erthygl nesaf Mayor with the Registrar team Ystafell seremoni Neuadd y Dref yn ailagor yn swyddogol ar ôl ei hadnewyddu

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026
Illegal Tobacco
Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw
Y cyngor
Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd
Busnes ac addysg Pobl a lle
Medi 23, 2026
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Gŵyl gerddorol a diwylliannol Gymraeg newydd yn dod i Wrecsam
Digwyddiadau
Medi 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Gallai'r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf...
Busnes ac addysg

Gallai’r dechrau newydd sydd ei angen arnoch fod gyda ni! Edrychwch ar ein swyddi diweddaraf…

Medi 18, 2026
Gwelliannau mawr wedi'u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam
Y cyngor

Gwelliannau mawr wedi’u cynllunio ar gyfer gwasanaethau ailgylchu a gwastraff Wrecsam

Medi 17, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English