Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Pobl a lleY cyngor

BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop

Diweddarwyd diwethaf: Medi 3, 2026 11:12 am
Rhannu
Darllen 4 funud
BetterPoints Wrecsam yn lansio gyda gwobr gwyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop
Photo by Ian Cooper/Ian Cooper Photography.
RHANNU

Sut olwg fyddai ar Wrecsam pe bai mwy o deithiau byr yn cael eu gwneud ar droed neu ar feic yn y ddinas, y trefi a’r pentrefi ar draws y sir?

Heb hyd yn oed ystyried y gwelliannau o ran ansawdd aer a thagfeydd, faint o arian fyddai’n cael ei arbed gan y sir, y GIG a’r holl bobl hynny sy’n mynd o gwmpas ar eu liwt eu hunain? Mae rhaglen newydd yn cael ei lansio y mis hwn i helpu pobl i deithio o gwmpas mewn modd mwy llesol pan allan nhw – ac i’w hannog i gefnogi busnesau lleol pan fyddan nhw’n gwneud hynny.

Dywed James Baker, rheolwr y rhaglen: “Mae cynllun BetterPoints Wrecsam yn gwobrwyo, nid yn cosbi.

“O ymchwil, rydyn ni’n gwybod bod pobl sy’n cerdded, beicio neu’n mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer teithiau rheolaidd yn hapusach ac yn iachach, ond yr hyn rydyn ni’n ei wybod hefyd yw bod y bobl hynny’n mynd heibio ac yn ymweld â siopau lleol, caffis a busnesau eraill i wario eu harian yn lleol. Bydd BetterPoints Wrecsam yn gwobrwyo pobl am wneud teithiau iachach – a gellir gwario’r gwobrau hynny mewn busnesau lleol neu eu rhoi i achosion lleol gwych fel Hosbis Tŷ’r Eos ac Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru.”

Mae gweithwyr yn Stad Ddiwydiannol Wrecsam wedi gallu ennill gwobrau am fynd i’r gwaith yn gynaliadwy ers mis Mawrth diwethaf, drwy gynllun peilot a ariennir gan Trafnidiaeth Cymru. Enillodd Richard Jones, sy’n gweithio yn Ipsen, daleb Tweeks Cycles am feicio i’r Stad Ddiwydiannol. Dywedodd, “Mae’n fy nghadw i’n heini, mae’n rhatach na gyrru, ac i fod yn onest, dw i’n ei fwynhau yn fwy na bod yn sownd yn y car.” Defnyddiodd Richard ei daleb i gasglu rhannau ar gyfer ei feic ei hun – ac i helpu ffrindiau a chydweithwyr. “Dw i’n gwneud swyddi cynnal a chadw bach i bobl eraill yn fy amser hamdden. Dw i‘n helpu fel bod eu beiciau yn ddiogel a’u bod nhw’n gallu parhau i feicio. Os yw’n helpu mwy o bobl i aros ar eu beiciau, mae hynny’n fuddugoliaeth i bawb.”

Mae BetterPoints Wrecsam yn agored i unrhyw un sy’n byw, yn gweithio neu’n astudio yn ardal Sir Wrecsam. I ymuno, lawrlwythwch yr ap BetterPoints am ddim a’i ddefnyddio i gofnodi teithiau a wneir ar droed, ar feic, mewn cadair olwyn, neu ar fws neu drên. Mae teithiau gwyrdd ac iach yn ennill BetterPoints, y gellir eu gwario mewn busnesau lleol sy’n cymryd rhan, ar dalebau archfarchnadoedd a Stryd Fawr, neu eu rhoi i elusennau lleol. Gall gyrwyr rheolaidd ddefnyddio’r ap i’w helpu i newid unrhyw deithiau byrrach sy’n gallu cael eu gwneud trwy ddulliau eraill.

Mae BetterPoints eisiau gweithio gyda sefydliadau lleol i’w helpu i gyflawni eu nodau trafnidiaeth, iechyd a hinsawdd – a gyda masnachwyr ac elusennau i ychwanegu gwobrau lleol ac achosion da i’r ap. P’un a ydych chi’n gaffi, sefydliad cymunedol neu elusen leol, gall ymuno â BetterPoints helpu i gysylltu eich sefydliad â phobl leol sy’n gwneud dewisiadau teithio cadarnhaol.

Bydd y lansiad yn canolbwyntio ar y Mis Newid Modd ym mis Medi, gan wobrwyo pobl am gyfnewid teithiau car lle bo modd am gerdded, olwyno, beicio neu drafnidiaeth gyhoeddus. Gall cyfranogwyr ennill BetterPoints trwy gydol y mis, gyda chyfle am wyliau gwerth £900 mewn dinas yn Ewrop i’r rhai sy’n teithio heb gar dair gwaith rhwng 16 a 22 Medi. Am ragor o wybodaeth ac i lawrlwytho’r ap, ewch i wefan BetterPoints.

Rhannu
Erthygl flaenorol Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM. Mae Tŷ Pawb yn cyhoeddi tymor newydd o gyngherddau amser cinio AM DDIM.
Erthygl nesaf Penley Hospital Ymgynghoriad ar ddyfodol gwasanaethau yn Ysbyty Llannerch Banna

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas
Pobl a lle

Cyngor Wrecsam yn croesawu cyllid ar gyfer cynllun adfer canol y ddinas

Hydref 9, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Pobl a lleDatgarboneiddio Wrecsam

Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 

Hydref 9, 2026
Sam Gardner
Pobl a lleDigwyddiadau

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 8, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English