Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Byddwn yn codi’r Lluman Coch ar gyfer Diwrnod y Llynges Fasnachol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Byddwn yn codi’r Lluman Coch ar gyfer Diwrnod y Llynges Fasnachol
Y cyngorPobl a lle

Byddwn yn codi’r Lluman Coch ar gyfer Diwrnod y Llynges Fasnachol

Diweddarwyd diwethaf: August 30, 2023 2:39 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Merchant Navy
RHANNU

Dydd Iau 31 Awst byddwn yn cefnogi Diwrnod y Llynges Fasnach drwy chwifio’r Lluman Coch i anrhydeddu’r dynion a’r merched dewr a wasanaethodd yn y Llynges Fasnach yn ystod y ddau ryfel byd, a’r rhai sydd yn parhau i wasanaethu er mwyn sicrhau bod gennym ni gyflenwadau i gynnal ein gwlad.

Dioddefodd y Llynges Fasnachol ei golledion cyntaf un yn yr ail ryfel byd pan gafodd llong fasnach yr S.S. Athenia ei suddo â thorpido gan golli 128 o deithwyr a chriw, oriau yn unig ar ôl datgan rhyfel.

Ers hynny, cydnabyddir y 3ydd o Fedi fel Diwrnod y Llynges Fasnach.

Fel ynys mae’r DU yn dibynnu ar y morwyr yma ar gyfer 90% o’n mewnforion, yn cynnwys hanner y bwyd rydym ni’n ei fwyta. Mae gan y DU y diwydiant porthladdoedd mwyaf yn Ewrop. Mae 75% o’n hallforion (yn ôl cyfaint) yn cael eu cludo mewn llongau o borthladdoedd y DU, ac mae rhai ohonynt yn cefnogi’r ymgyrch drwy annog llongau sy’n ymweld i ganu corn am 10am ar 3 Medi.

Meddai’r Cyng. Beverley Parry-Jones, Cefnogwr y Lluoedd Arfog: “Mae’n bwysig cydnabod gwasanaeth ffyddlon a thalu teyrnged i bawb sydd wedi neu yn gwasanaethu yn y Llynges Fasnachol – mae eu gwaith yn gwneud cyfraniad aruthrol at les ac economi ein gwlad. Ar ran Cyngor Wrecsam, Diolch yn fawr iawn i chi i gyd.”

Beth ydi’r Llynges Fasnachol?

Cafodd y Llynges Fasnachol, neu’r Fflyd Fasnachol gynt, y teitl yma gan Frenin Siôr V ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf i gydnabod cyfraniad ac aberth y morwyr masnachol yn ystod y rhyfel.

Mae’r Llynges Fasnachol Brydeinig yn cynnwys y llongau masnachol sy’n cludo cargo a phobl yn ystod cyfnodau o heddwch a rhyfel.

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Eisteddfod 2025 I’w Chynnal yn Wrecsam

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu pleidleisio Gwnewch yn siŵr eich bod yn gallu pleidleisio
Erthygl nesaf Teuluoedd yn cael eu hannog i roi hwb i’w cyllid â Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar drothwy blwyddyn ysgol newydd Teuluoedd yn cael eu hannog i roi hwb i’w cyllid â Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth ar drothwy blwyddyn ysgol newydd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mayor of Wrexham's Engagements - October - Part 2
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref (Rhan 2)
Pobl a lle Arall
November 13, 2026
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Marchnad Gwneuthurwyr Nadolig yn Nhŷ Pawb!
Digwyddiadau Pobl a lle
November 12, 2026
van
Angen Crefftwyr Medrus – Ymunwch â Thîm Atgyweirio Tai Wrecsam!
Arall
November 12, 2026
Foster carers Del and Gary from Wrexham
Gofalwyr maeth Wrecsam yn cael eu cydnabod â gwobr genedlaethol am eu hymrwymiad diwyro i blant a phobl ifanc mewn gofal
Y cyngor Pobl a lle
November 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

telecare scam
Y cyngorPobl a lle

Mae negeseuon atgoffa’r Dreth Gyngor yn Wrecsam yn newid

November 12, 2026
Could you be a councillor?
Pobl a lleDigwyddiadau

Allech chi fod yn gynghorydd?

October 22, 2026
Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!
Y cyngorDigwyddiadau

Parcio am ddim a hwyl yr ŵyl yn Wrecsam dros y Nadolig!

November 10, 2026
Chirk Aqueduct
Pobl a lleDigwyddiadau

Dathlu pen-blwydd Traphont Ddŵr y Waun yn 225 oed mewn modd ysblennydd yng Nghastell y Waun

November 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English