Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen EISTEDDFOD 2025 I’W CHYNNAL YN WRECSAM
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > EISTEDDFOD 2025 I’W CHYNNAL YN WRECSAM
Y cyngorBusnes ac addysgPobl a lle

EISTEDDFOD 2025 I’W CHYNNAL YN WRECSAM

Diweddarwyd diwethaf: Awst 1, 2023 12:00 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Bus parade route showing St Giles
RHANNU

Erthygl Gwadd – Eisteddfod

Heddiw (1 Awst) cyhoeddwyd yn swyddogol y bydd Wrecsam yn gartref i’r Eisteddfod Genedlaethol ymhen dwy flynedd, gyda’r ŵyl yn cael ei chynnal yn y ddinas ym mis Awst 2025.

Cynhaliwyd yr ŵyl ddiwethaf yn yr ardal yn 2011, ar dir amaethyddol i’r gorllewin o ganol y ddinas, ac mae trafodaethau’n parhau rhwng yr Eisteddfod a’r Cyngor ynglŷn â’i hunion leoliad yn 2025.

Bydd ymgyrch yr Eisteddfod yn cael ei lansio ym mis Medi, gyda phrosiect cymunedol llawr gwlad dros ddwy flynedd yn cyfuno digwyddiadau codi ymwybyddiaeth a chodi arian gyda phrosiect micro-leol, gyda’r nod o ddenu grwpiau lleol ac unigolion i gymryd rhan yn y gwaith o baratoi ar gyfer yr ŵyl ei hun, a dysgu mwy am ein hiaith, a’n diwylliant.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Pencampwr y Gymraeg Cyngor Wrecsam, “Mae Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn un o wyliau diwylliannol mawr y byd, a’r ŵyl gystadleuol fwyaf o gerddoriaeth a barddoniaeth yn Ewrop.

“Mae pawb yn gwybod bod yna wefr yn ein dinas ar hyn o bryd, ac mae hwn yn mynd i fod yn gyfle gwych i groesawu pobl o bell ac agos i ddathlu ein hiaith a’n diwylliant.

“Y tro diwethaf i’r Eisteddfod gael ei chynnal yma yn 2011 roedd yn llwyddiant ysgubol a chafodd effaith gadarnhaol ar gymunedau ar draws y fwrdeistref sirol. Does gen i ddim amheuaeth y bydd 2025 hyd yn oed yn well, a bydd llygaid Cymru – a llawer o’r byd – unwaith eto wedi’u gosod yn gadarn ar ein dinas fendigedig.”

Ychwanegodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod, Betsan Moses, “Rydym yn falch iawn o fod yn dychwelyd i Wrecsam ymhen dwy flynedd. Mae llawer wedi newid yn y ddinas dros y pymtheg mlynedd diwethaf ac rydym yn edrych ymlaen at fod yn rhan o stori Wrecsam am y ddwy flynedd nesaf.

“Rydym hefyd yn teimlo’n llawn cyffro am gael dod i adnabod cenhedlaeth newydd o drigolion Wrecsam. Roedd gennym dîm ardderchog o wirfoddolwyr ar draws yr ardal nôl yn 2011, ac rydym yn awyddus i ddenu cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan yn ein prosiectau y tro hwn wrth i ni baratoi ar gyfer gŵyl wych ym mis Awst 2025. Wrecsam yw’r lle i fod y dyddiau hyn, ac rydyn ni’n edrych ymlaen at gael gweithio’n lleol yn y gymuned am y ddwy flynedd nesaf.”

Bydd manylion y lansiad yn cael eu cyhoeddi ar ddechrau mis Medi, gyda’r prosiect ei hun, a’r gwaith o greu’r Rhestr Testunau ar gyfer 2025, yn dechrau ym mis Hydref. Mwy o fanylion ar gael ar-lein yn fuan, www.eisteddfod.cymru.

TAGGED:2025wrecsamwrexham
Rhannu
Erthygl flaenorol Tour of Britain cyclists Wrecsam i groesawu cychwyn a diwedd y Daith ar yr ail gymal
Erthygl nesaf Murder Mystery Fedrwch chi ‘sgwennu sgript Dirgelwch Llofruddiaeth?

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Pobl a lle

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst

Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Football park and ride
ArallPobl a lle

Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd

Awst 24, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English