Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen GALWAD am ddawnswyr i berfformio yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > GALWAD am ddawnswyr i berfformio yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam
Pobl a lleBusnes ac addysg

GALWAD am ddawnswyr i berfformio yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Tachwedd 20, 2023 12:59 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
GALWAD am ddawnswyr i berfformio yn seremoni cyhoeddi Eisteddfod Wrecsam
RHANNU

Yr Eisteddfod Genedlaethol yw un o wyliau celfyddydol mwyaf Ewrop, yn denu dros 170,000 o ymwelwyr yn flynyddol. Bydd yn dychwelyd i Wrecsam am y tro cyntaf ers 2011 ym mis Awst 2025. 

Ymhlith uchafbwyntiau’r ŵyl mae’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd a berfformir yn seremonïau’r Orsedd yn ystod wythnos yr Eisteddfod ei hun ac yng Ngŵyl y Cyhoeddi a gynhelir ym mis Ebrill 2024.

16 o blant ysgolion uwchradd y dalgylch fydd yn perfformio’r Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd, ac estynnir gwahoddiad i ddisgyblion sydd ar hyn o bryd ym mlwyddyn 7 ysgolion Wrecsam i fynychu clyweliad er mwyn dewis sgwad o tua 20.   Mae croeso i unrhyw ddisgybl lleol o fewn y cwmpas oedran ymgeisio.

Mae cymryd rhan yn y Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd yn brofiad bythgofiadwy. Mae’n cael ei pherfformio i bafiliwn llawn yn ystod seremonïau’r Coroni a’r Cadeirio yn ystod yr Eisteddfod a hefyd yn cael ei darlledu’n fyw ar y teledu. Mae’n brofiad gwefreiddiol i’w drysori.

Bydd angen i’r dawnswyr llwyddiannus fynychu ymarferion wythnosol tan y Cyhoeddi, a hefyd yn ystod y cyfnod rhwng tua Ebrill a’r Eisteddfod yn 2025.  Cynhelir y clyweliadau ddydd Sadwrn 9 Rhagfyr, gyda’r amser a’r lleoliad i’w gadarnhau.

Dyma gyfrifoldebau’r rhieni | gwarcheidwaid a’r dawnswyr wrth gyflawni’r gwaith:

  • Rhaid i’r rhai a ddewisir fod yn byw yn nalgylch sirol Wrecsam
  • Cynhelir ymarferion yn ystod y misoedd cyn y Cyhoeddi yng ngwanwyn 2024 a’r Eisteddfod ym mis Awst 2025, a disgwylir i’r dawnswyr fynychu’n ffyddlon.    
  • Disgwylir i’r dawnswyr fod yn bresennol yn yr holl seremonïau a gynhelir fel a ganlyn:  Cyhoeddi’r Eisteddfod, a’r tair seremoni yn ystod wythnos yr Eisteddfod ddechrau Awst 2025.
  • Cyfrifoldeb y rhieni | gwarcheidwaid fydd cludo’r dawnswyr i’r ymarferion a’r seremonïau. Y rhieni | gwarcheidwaid hefyd fydd yn gyfrifol am y dawnswyr ar ddiwrnodau’r seremonïau.
  • Bydd yr Eisteddfod yn darparu gwisg.

Dyddiad cau: 27 Tachwedd 2023

Ewch at Wefan yr Eisteddfod am mwy o wybodaeth: Y Ddawns Flodau a Chynnyrch y Meysydd | Eisteddfod

Rhannu
Erthygl flaenorol Digwyddiad troi goleuadau Nadolig Wrecsam ymlaen 2023 Digwyddiad troi goleuadau Nadolig Wrecsam ymlaen 2023
Erthygl nesaf Parking Mae cyfyngiadau parcio’n berthnasol gyda’r nos ac ar benwythnosau hefyd – parciwch yn gyfrifol bob amser

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English