Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Freedom Leisure wedi’i Ddewis yn Rownd Derfynol Dau Gategori Gwobrau Nofio Cymru
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle
off-gas
Ydych chi’n byw oddi ar y grid nwy? Efallai y byddwch yn gymwys i gael grant…
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Freedom Leisure wedi’i Ddewis yn Rownd Derfynol Dau Gategori Gwobrau Nofio Cymru
Y cyngorArall

Freedom Leisure wedi’i Ddewis yn Rownd Derfynol Dau Gategori Gwobrau Nofio Cymru

Diweddarwyd diwethaf: 2024/01/17 at 4:18 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Freedom Leisure
RHANNU

Mae Freedom Leisure, y brif ymddiriedolaeth hamdden elusennol a dielw, sy’n rheoli 29 o ganolfannau hamdden ledled Cymru, yn hynod falch o gyhoeddi ei bod wedi cyrraedd y rownd derfynol mewn dau gategori yng Ngwobrau Nofio Cymru a gynhelir mewn digwyddiad gala yng Nghaerdydd yn ddiweddarach y mis hwn.

Mae’r gwobrau mawreddog hyn, a drefnir gan Nofio Cymru, y Corff Llywodraethu Cenedlaethol cydnabyddedig ar gyfer gweithgareddau dŵr yng Nghymru, yn cydnabod ac yn dathlu’r ysbryd anhygoel yn y byd gweithgareddau dŵr trwy arddangos unigolion, grwpiau a sefydliadau am eu hangerdd, eu hymroddiad a’u llwyddiannau rhagorol.

Y ddau gategori gwobrau yw ‘Gwobr Menter Cynaliadwyedd’ a’r wobr fawreddog ‘Darparwr Dysgu Nofio y Flwyddyn trwy Gymru’.

Mae Freedom Leisure yn rheoli’r canolfannau hamdden ar ran y cynghorau ym Mhowys, Wrecsam ac Abertawe ac mae ganddo dros 12,000 o nofwyr ar ei raglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru gyda thîm medrus iawn o hyfforddwyr nofio yn addysgu plant ac oedolion i ddysgu’r ‘sgil bywyd’ o nofio.

Roedd y cais ar gyfer ‘Gwobr Menter Cynaliadwyedd’ yn canolbwyntio ar fuddsoddiad sylweddol Freedom Leisure mewn mentrau arbed ynni sydd wedi arwain at leihau allyriadau carbon a gwella eu heffaith amgylcheddol.

Prif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure

Dywedodd Ivan Horsfall Turner, Prif Swyddog Gweithredol Freedom Leisure; “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau Nofio Cymru 23/24. Rydym yn croesawu dros 800,000 o ymweliadau â’n pyllau nofio bob blwyddyn ac rydym yn falch o gael dros 12,000 o gyfranogwyr ar ein Rhaglen Dysgu Nofio, Nofio Cymru. Mae cael partneriaeth gref gyda Nofio Cymru yn ein galluogi i ddarparu profiad gwych i blant ac oedolion, gan gefnogi eu twf mewn hyder gyda sgil bywyd sy’n arwain at fwynhad, diogelwch a hwyl yn y dŵr, yn enwedig yn ein hardaloedd arfordirol fel yn Abertawe.”

“Rydym wedi mwynhau perthynas waith gref gyda Nofio Cymru dros nifer o flynyddoedd sy’n sicrhau bod pobl o bob oed a gallu yng Nghymru sy’n dysgu nofio yn gwneud hynny drwy brofiad dysgu nofio o’r safon uchaf. Hefyd, mae eu cenhadaeth o weithgareddau dŵr i bawb am oes, yn cyd-fynd yn llwyr â’n cenhadaeth ein hunain o wella bywydau trwy hamdden”.

Bydd aelodau eraill o’i Uwch Dîm Arwain yn ymuno ag Ivan yn y seremoni ar 20 Ionawr 2024 yng Nghaerdydd gan ddangos angerdd ac ymrwymiad y sefydliad i ddatblygiad gweithgareddau dŵr yng Nghymru.

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Canolfannau Hamdden Freedom Leisure yng Nghymru yn Cymryd Camau Breision Tuag Effeithlonrwydd Ynni Gwell

Rhannu
Erthygl flaenorol Caffi Cyfle Ydych chi wedi bod i Gaffi Cyfle i gael rhywbeth iach i’w fwyta neu ddanteithion melys eto?
Erthygl nesaf Windy weather Rhybudd tywydd

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Rhos library
Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Wrexham Old Library exterior
Llwyddiant i’r Hen Lyfrgell yng Ngwobrau Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Pobl a lle Ionawr 19, 2026
Fly Tipping
Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol
Arall Pobl a lle Y cyngor Ionawr 19, 2026
Murlun Glöwr Llwybr Celf Wrecsam
Dathlu Llwybr Celf Gyhoeddus Wrecsam gyda chanmoliaeth Cymdeithas Ddinesig Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Ionawr 17, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Rhos library
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Sylw ar weithgareddau llyfrgell Rhos

Ionawr 19, 2026
Fly Tipping
ArallPobl a lleY cyngor

Peidiwch â chael eich dal yn tipio’n anghyfreithlon – gwaredwch eich gwastraff yn gyfrifol

Ionawr 19, 2026
Adult Community Learners
Busnes ac addysgPobl a lleY cyngor

Partneriaeth Dysgu Oedolion yn y Gymuned yn cael ei chanmol gan Estyn

Ionawr 15, 2026
Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’
Arall

Datganiad ffeithiol ynghylch ‘Plas yn Rhos’

Ionawr 14, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English