Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 9, 2026 11:28 am
Rhannu
Darllen 3 funud
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
RHANNU

Mae trigolion ledled Wrecsam yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu Bwrdeistref Sirol Wrecsam wrth i ymgynghoriad cyhoeddus newydd agor heddiw. 

Mae strategaeth gwastraff newydd yn cael ei datblygu ar gyfer Wrecsam, sy’n nodi sut y gallwn barhau i wella gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu, cynyddu ailgylchu a sicrhau bod y gwasanaeth yn diwallu anghenion trigolion yn y blynyddoedd i ddod. 

Mae’r ymgynghoriad ar agor o ddydd Iau, 8 Hydref tan ddydd Iau, 22 Hydref, ac rydym am glywed gan gymaint o drigolion â phosibl. 

Daw’r ymgynghoriad wrth i nifer o welliannau i wasanaethau gwastraff ac ailgylchu Wrecsam gael eu cyflwyno neu eu datblygu’n barod. 

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Casgliadau gwastraff gardd am ddim a gynigir o Ebrill 1, 2027, yn amodol ar gymeradwyaeth. 
  • Casgliadau gwastraff swmpus cost îs, gan helpu preswylwyr i waredu eitemau cartref mwy a chefnogi ymdrechion i leihau tipio anghyfreithlon.
  • Sachau ailgylchu newydd mwy a thrymach i gynnig mwy o gapasiti ar gyfer papur a chardbord a helpu i’w hatal rhag chwythu i ffwrdd.
  • Mwy o ddeunyddiau yn cael eu casglu ar ymyl y ffordd, gan gynnwys batris cartref.
  • Casgliadau gwastraff gardd bob pythefnos trwy gydol y flwyddyn, ar wahân i’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd. 
  • Casgliadau gŵyl y banc, gan helpu i ddarparu gwasanaeth mwy cyson a lleihau aflonyddwch i breswylwyr. 

Mae’r rhaglen ehangach hefyd yn cynnwys buddsoddiad mewn cerbydau sbwriel ac ailgylchu newydd, technoleg rheoli llwybrau newydd a mesurau ychwanegol i wella dibynadwyedd ac effeithlonrwydd casgliadau. 

Mae’r rhaglen wella a gyhoeddwyd hefyd yn cynnwys cynwysyddion gwastraff bwyd ychwanegol a chasglu deunyddiau ychwanegol fel cartonau Tetra-Pak. 

Cynyddodd cyfradd ailgylchu cartrefi Wrecsam o 60.6% yn 2023/24 i 65.1% yn 2024/25, ond mae angen cynnydd pellach i gyrraedd targed ailgylchu statudol Cymru o 70%. 

Dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Aelod Arweiniol dros yr Amgylchedd, “Rydym am i drigolion fod yn rhan o’r sgwrs am ddyfodol gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam. 

Rydym eisoes wedi dechrau gwneud gwelliannau i’r gwasanaeth, ond mae angen i’n strategaeth gwastraff newydd edrych ymhellach ymlaen a nodi sut rydym yn parhau i wella ailgylchu, dibynadwyedd a’r gwasanaeth rydyn ni’n ei ddarparu i drigolion. 

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i bobl ledled y fwrdeistref sirol ddweud wrthym am eu profiadau, beth sy’n bwysig iddyn nhw a ble maen nhw’n meddwl y gallwn ni wella.

A fyddech gystal â chymryd ychydig funudau i ddweud eich dweud.”

Bydd adborth a dderbynnir drwy’r ymgynghoriad yn cael ei ystyried wrth i’r strategaeth gwastraff derfynol gael ei chwblhau.

Dweud eich dweud

Mae’r ymgynghoriad ar agor rhwng 8 Hydref a 22 Hydref 2026. 

Gallwch gwblhau’r ymgynghoriad ar Eich Llais.

Wrecsam yn ailgylchu
Wrexham recycles
Rhannu
Erthygl flaenorol Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints  Her Gerdded Mis Hydref: Enillwch eich cyfran o 380,000 o bwyntiau BetterPoints 
Erthygl nesaf The People’s Emergency Briefing next screening is at Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio...
Mae gennym lu o swyddi gwag newydd i chi eu chwilio…
Busnes ac addysg
Hydref 9, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor
Hydref 9, 2026
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Helpwch i ddatgelu hanes sinemâu a theatrau Wrecsam
Y cyngor Digwyddiadau
Hydref 9, 2026
The People’s Emergency Briefing next screening is at
Ydych chi wedi gwylio The People’s Emergency Briefing? Archebwch eich tocynnau ar gyfer y dangosiad nesaf (17 Hydref)
Digwyddiadau Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 9, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horace outside Wrexham Library
FideoPobl a lleY cyngor

Braw i bawb yn Llyfrgell Wrecsam

Hydref 8, 2026
Housing Image
Y cyngor

Adran Tai Cyngor Wrecsam yn parhau i ymrwymo i Safonau Ansawdd Tai Cymru

Hydref 7, 2026
Occupational Therapy Week poster
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol

Hydref 1, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English