Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Ymunwch â ‘gorymdaith gyflym’ gyntaf Wrecsam – a helpu i gefnogi cyn-aelodau o’r lluoedd arfog
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Ymunwch â ‘gorymdaith gyflym’ gyntaf Wrecsam – a helpu i gefnogi cyn-aelodau o’r lluoedd arfog
Pobl a lle

Ymunwch â ‘gorymdaith gyflym’ gyntaf Wrecsam – a helpu i gefnogi cyn-aelodau o’r lluoedd arfog

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 4, 2024 12:43 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Walking boot
RHANNU

Mae gwahoddiad i aelodau’r cyhoedd gymryd rhan yng ‘ngorymdaith gyflym’ gyntaf erioed Wrecsam i gefnogi cyn-aelodau o’r lluoedd arfog.

Mae’r orymdaith yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn, 20 Ebrill – yn cychwyn yn Llwyn Isaf yng nghanol y ddinas am 7:30am, cyn gwau ei ffordd drwy gefn gwlad a’r pentrefi cyfagos a gorffen yn ôl yn Llwyn Isaf tua 10.30am.

Mae’r orymdaith 13.3 milltir (hanner marathon) yn cael ei threfnu gan Woody’s Lodge, elusen o Ogledd Cymru sy’n darparu cefnogaeth a mentora i gyn-aelodau’r lluoedd arfog, cyn-weithwyr y gwasanaethau brys, milwyr wrth gefn a’u teuluoedd.

Bydd y Cynghorydd Beverley Parry-Jones, Cefnogwr Lluoedd Arfog Wrecsam, yn ymuno â’r orymdaith am y bum milltir olaf, ac mae wedi bod yn brysur yn ymarfer tipyn cyn y digwyddiad!

Dywedodd y Cynghorydd Parry-Jones: “Mae hwn yn ddigwyddiad arbennig ac yn enghraifft arall o gysylltiadau balch Wrecsam â’r lluoedd arfog.

“Beth am i chi ystyried cymryd rhan? Bydd yr orymdaith yn waith caled ond yn llawer o hwyl hefyd, gyda llawer o gyfeillgarwch ac ymdeimlad o dîm ar y ffordd.

“Neu, os na allwch chi gymryd rhan, beth am noddi rhywun – neu alw draw i Llwyn Isaf i’n cefnogi ni ar y daith? Mae Woody’s Lodge yn elusen hyfryd a bydd pob ceiniog sy’n cael ei chasglu’n gwneud gwahaniaeth.”

Dywedodd Graham Jones, Prif Weithredwr Woody’s Lodge: “Dyma gyfle gwych i’r holl gymdeithasau ac elusennau milwrol ddod ynghyd a dangos y rôl gefnogi bwysig rydyn ni’n ei darparu i gyn-aelodau’r lluoedd arfog a chyn-weithwyr y gwasanaethau brys.

“Rydyn ni’n annog unrhyw un sydd â diddordeb ac sy’n ddigon heini i ymuno â ni yn y digwyddiad yma.

“Taith redeg/orymdeithio o fath milwrol ydi hon, a bydd angen i chi allu cwblhau pellter hanner marathon, gyda seibiannau byr.

“Bydd y llwybr yn mynd trwy Gresffordd, yr Orsedd, rhannau o Llai ac Acton. Rydyn ni’n gwahodd y cyhoedd i alw draw a gweld ein parêd byr i Neuadd y Dref tua 10:30am, ac yna dod i weld amrywiaeth o stondinau elusennau a chymdeithasau ar y lawnt tan tua 4pm.”

Felly… beth amdani? Cofrestrwch ar-lein i gymryd rhan.

Os hoffech chi helpu mewn ffordd arall ar y diwrnod, cysylltwch â fundraising@woodyslodge.org

Rhannu
Erthygl flaenorol Mr. Jones Mae’r dramodydd a’r actor Liam Holmes yn cyflwyno Mr. Jones –
Erthygl nesaf New portrait exhibition celebrating young carers at Arddangosfa bortreadau newydd yn dathlu gofalwyr ifanc

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Datgarboneiddio WrecsamFideo

Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)

Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English