Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Arddangosfa bortreadau newydd yn dathlu gofalwyr ifanc
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Arddangosfa bortreadau newydd yn dathlu gofalwyr ifanc
Pobl a lle

Arddangosfa bortreadau newydd yn dathlu gofalwyr ifanc

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 5, 2024 2:07 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
New portrait exhibition celebrating young carers at
RHANNU

Mae Credu yn cefnogi gofalwyr ifanc yn Wrecsam ac wedi’i ariannu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae Credu yn tynnu at derfyn eu prosiect Gwneud i Ofalwyr Gyfrif sydd wedi canolbwyntio ar godi ymwybyddiaeth am Ofalwyr Ifanc mewn ysgolion, yn eu cymuned ac yn genedlaethol.

Mae’r prosiect wedi cyrraedd uchafbwynt gydag arddangosfa bortreadau sydd i’w gweld yn Tŷ Pawb yn Wrecsam. Mae hi’n gyfres o ffotograffau o Ofalwyr Ifanc gyda’u teuluoedd, yn chwarae, chwerthin a chreu cysylltiad.

Fe wnaeth Credu gomisiynu cwmni cynhyrchu ffilmiau Barrow Boys, a wnaeth y gwaith yn sensitif ac yn hyblyg. Roedd y teuluoedd yn cyfarfod â’u ffotograffydd ble bynnag roedden nhw’n teimlo fwyaf cyfforddus.

Roedd Credu yn teimlo ei bod yn bwysig dangos y teuluoedd mewn modd naturiol; boed hynny’n chwareus, yn gariadus, yn swil neu’n gwneud llanast, a chynrychioli’r gofalwr neu ofalwyr ifanc ym mhob aelwyd yng nghyd-destun eu teulu.

Dyma rywfaint o’r adborth gan y teuluoedd:

“Doeddwn i erioed wedi meddwl y byddai posib’ cael lluniau fel ’na ohonyn nhw. Mae hi’n gas gan fy mab y camera fel arfer.”

“Maen nhw i gyd yn arbennig. Mae o wedi’u dal nhw i gyd mor dda! Dw i’n teimlo mor ffodus bod ein teulu ni wedi bod yn rhan o’r cyfan.”

“Mae’r rhain yn wych! Diolch yn fawr! Maen nhw yn sicr yn dangos y cariad a’r anhrefn i gyd mewn un.”

Arddangosfa bortreadau newydd yn dathlu gofalwyr ifanc
Arddangosfa bortreadau newydd yn dathlu gofalwyr ifanc

Mae’r lluniau’n hyfryd ac yn dathlu a thaflu goleuni ar yr amrywiaeth sy’n rhan o fod yn ifanc a bod â rôl ofalu.

Arddangosfa bortreadau newydd yn dathlu gofalwyr ifanc

Agorwyd yr arddangosfa ddydd Iau 28 Mawrth gyda’r Cynghorydd Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant, a’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg yn Wrecsam, a’r ddau yno i gyfarfod â’r teuluoedd.

Dywedodd y Cyng. Rob Walsh, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Plant: “Mae’r arddangosfa’n arddangos bywydau gofalwyr ifanc mewn ffordd naturiol yn wych. Mae’r lluniau’n llawn hapusrwydd a chariad a phleser oedd cyfarfod efo’r gofalwyr ifanc a gweld y lluniau arbennig yn yr arddangosfa.”

Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae gofalwyr ifanc yn ysgwyddo llawer o gyfrifoldebau oedolyn felly mae’r gefnogaeth mae Credu (Gofalwyr Ifanc WCD) yn ei rhoi’n wasanaeth arbennig sy’n caniatáu i blant gael bod yn blant.

“Mae’r lluniau sydd i’w gweld wir yn dangos ochr chwareus, hapus y teuluoedd fu’n rhan o’r prosiect a byddwn yn annog pawb i alw draw i Tŷ Pawb i gael golwg arnynt a dysgu mwy am waith ardderchog ein gwasanaeth gofalwyr ifanc.”

Bydd yr arddangosfa bortreadau i’w gweld yn Tŷ Pawb yn Wrecsam tan 30 Ebrill 2024.

Mae Credu hefyd wedi bod yn cynnal gweithdai geiriau llafar, wyneb yn wyneb yn Llandudno ac ar-lein gyda’r bardd Martin Daws, sy’n byw yng Ngogledd Cymru. I glywed rhywfaint o’r recordiad a’r testun ysgrifenedig, cliciwch ar https://padlet.com/creduteam/credu-young-and-young-adult-carers-creativity-6weznjfeef4859t9

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch e-bost at carers@credu.cymru neu sally@credu.cymru neu ewch i https://rb.gy/n1xur7.

Dysgwch fwy am newid i linellau tir digidol yng nghanolfan Tŷ Pawb (wrecsam.gov.uk)

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch.

TAGGED:gofalGofalwyr Ifanc
Rhannu
Erthygl flaenorol Walking boot Ymunwch â ‘gorymdaith gyflym’ gyntaf Wrecsam – a helpu i gefnogi cyn-aelodau o’r lluoedd arfog
Erthygl nesaf Peidiwch â methu’r cyfle i gael dweud eich dweud am ein gwasanaethau ar-lein Peidiwch â methu’r cyfle i gael dweud eich dweud am ein gwasanaethau ar-lein

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
Family Zone at the Wellbeing Hub
DigwyddiadauPobl a lle

Cofiwch – mae’r Parth Teulu yn cynnal sesiynau chwarae wythnosol am ddim drwy gydol gwyliau’r ysgol

Awst 10, 2026
Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru
FideoPobl a lleY cyngor

Wrecsam2029 yn pwyso chwarae ar gyflwyno cais i Wrecsam Ddod yn Ddinas Diwylliant y Du gyntaf Cymru

Awst 7, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English