Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Medi 17, 2026 11:00 am
Rhannu
Darllen 5 funud
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
RHANNU

Cyhoeddwyd y bydd Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam yn agor ei drysau am y tro cyntaf mewn pythefnos

Gyda hanner yr amgueddfa yn dathlu treftadaeth amrywiol pêl-droed yng Nghymru – o lawr gwlad i’r tîm cenedlaethol – mae’r llall yn canolbwyntio ar hanes cyfoethog Wrecsam, o’i gorffennol fel ardal lofaol i gyfnod mwy modern, sydd wedi siapio’r dref fel y mae hi heddiw.

Bydd yr amgueddfa’n agor am 10am ddydd Gwener 25 Medi 2026. Mae angen tocynnau am ddim i gael mynediad a gellir eu harchebu drwy www.amgueddfawrecsam.cymru o hanner dydd, Dydd Llun 14 Medi – dim ond hyn a hyn o slotiau amser sydd ar gael felly archebwch yn gynnar i sicrhau’r diwrnod ac amser o’ch dewis.

Wrth ymweld â’r amgueddfa fel rhan o ddigwyddiad rhagflas arbennig ac i nodi lansiad swyddogol y tocynnau mynediad am ddim, dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Ddiwylliant a Chwaraeon, Heledd Fychan:

“Ar ôl bod yn ddigon ffodus i ymweld heddiw, allai ddim aros i weld yr atyniad nodedig hwn yn agor i’r cyhoedd yn hwyrach yn y mis. Mae’n dod â threftadaeth bêl-droed ein cenedl yn fyw tra hefyd yn dathlu’r hanes cyfoethog a’r cymunedau sy’n galw Wrecsam yn gartref. Mae pob arddangosfa a phob stori a adroddir yn rhan bwysig o’n stori genedlaethol, ac mae cymaint i ymwelwyr ei fwynhau a’i ddysgu.

“Byddwn yn annog pawb – o Wrecsam, o Gymru ac o ble bynnag maen nhw’n byw yn y byd – i ymweld a’r amgueddfa wych hon eu Hunain.”

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, arweinydd Cyngor Wrecsam:   “Mae cyffro mawr am agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam, ac roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i ddiolch i’r holl gyllidwyr cyn agor y drysau i’r cyhoedd yn ddiweddarach yn y mis.

“Mae pawb yn yr amgueddfa wedi rhoi blynyddoedd o waith caled i mewn i ddylunio a datblygu’r cynnwys rhyngweithiol ac ymdrochol. Mae cynnwys cymunedau lleol wrth guradu’r arddangosfeydd gwrthrychau wedi bod yn gyflawniad arbennig. Bydd adborth cadarnhaol gan y gweinidog a gwesteion eraill yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan bawb.  Hoffwn ddiolch yn bersonol i’r staff, unwaith eto, am eu hymroddiad i’r prosiect hwn ac edrychaf ymlaen at weld ymwelwyr â’r amgueddfa’n gwneud y mwyaf o’r atyniad hwn yng nghanol y ddinas.”

Mae’r atyniad newydd trawiadol yn ychwanegiad cyffrous at gynlluniau hamdden a theithio trigolion ac ymwelwyr â’r rhanbarth.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Roberts, yr aelod arweiniol sy’n gyfrifol am amgueddfeydd:  “Byddwn yn annog pawb sy’n byw yn lleol i archebu eu tocynnau ar unwaith, i fod ymhlith y cyntaf i weld eich amgueddfa newydd. Mae cymaint i’w fwynhau yma a rhywbeth i bawb, o gefnogwyr pêl-droed i bobl sy’n ymddiddori mewn hanes lleol. Mae’r caffi sy’n edrych dros y cwrt blaen yn lle gwych i orffwys yn ystod eich ymweliad.”

Mae croeso i bawb yn yr amgueddfa newydd – bydd ein cynorthwywyr profiad ymwelwyr a’n gwirfoddolwyr wrth law i’ch tywys drwy’r adeilad. Bydd pobl a oedd yn gyfarwydd â’r amgueddfa wreiddiol yn synnu i weld faint mae Adeiladau’r Sir wedi newid, a faint mwy sydd i’w weld a’i ddarganfod.

Rydyn ni’n falch o gael amgueddfa sy’n fwy priodol ar gyfer casgliad pêl-droed cenedlaethol a chasgliad hanes lleol o’r fath raddfa. Mae twf enfawr Wrecsam fel cyrchfan i ymwelwyr yn cyfiawnhau’r lefel o sylw i fanylion ac ansawdd sydd wedi’i gyflawni yma.

Bydd rhagor o fanylion am y penwythnos agoriadol, digwyddiadau sydd i ddod, gweithdai a gweithgareddau i’r teulu, yn ogystal â’n dolenni i archebu tocynnau am ddim, yn cael eu cyhoeddi ar ein gwefan.

Gwnaed ‘Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam’ yn bosib trwy gefnogaeth ein cyllidwyr:  Llywodraeth Cymru, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU, The Wolfson* Foundation, Cronfa Grant Prynu V&A, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dilynwch sianeli cyfryngau cymdeithasol Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam am ddiweddariadau:

Facebook: @FootballMuseumWales @WrexhamMuseums
Instagram: @footballmuseumcymru @wrexhammuseum
Bluesky: @footymuseumcymru @wrexhammuseum
Twitter/X: @FootyMuseumWal

Rhannu
Erthygl flaenorol glyndwr Oeddech chi’n gwybod am Fforwm Landlordiaid 2026 yn Wrecsam?
Erthygl nesaf Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi
Busnes ac addysgPobl a lle

Llwyddiant Trawsnewid Trefi i Ragazzi

Hydref 21, 2026
Wrecsam 2029
Pobl a lle

Mae’n swyddogol! Mae Wrecsam wedi’i henwi ar restr fer derfynol teitl Dinas Diwylliant y DU

Hydref 22, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English