Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Beth am gymryd rhan ym mhrosiect Parêd Pŵer Pedlo Dyfroedd Alun
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Beth am gymryd rhan ym mhrosiect Parêd Pŵer Pedlo Dyfroedd Alun
Pobl a lleArall

Beth am gymryd rhan ym mhrosiect Parêd Pŵer Pedlo Dyfroedd Alun

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 11, 2024 3:09 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Pedal Power
RHANNU

Mae elusen Cycling 4 All yn Wrecsam, sy’n darparu gwasanaeth beicio i bob gallu ym Mharc Gwledig Dyfroedd Alun, yn cynnal “Parêd Pŵer Pedlo” yn ystod wythnos feics ar 10-16 Mehefin 2024, diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant a Rennir y DU.

Mae’r Parêd Pŵer Pedlo yn llwybr o feics wedi’u harddangos o gwmpas y parc, wedi’u haddurno gan grwpiau cymunedol, elusennau, ysgolion a busnesau lleol.  Nod y parêd yw dod â’r gymuned at ei gilydd i gerdded neu feicio, a darganfod yr holl feics sydd wedi’u gweddnewid. Y bwriad yw gwella lles pobl a hyrwyddo cynaliadwyedd amgylcheddol a chludiant cynaliadwy. Y cyfle perffaith i fynd allan i’r awyr iach a bod yn egnïol, gan ddathlu a chefnogi creadigrwydd a chysylltu gydag eraill yn y gymuned.

Bydd Cycling 4 All yn gweithio gydag elusennau partner Refurbs a Groundwork Gogledd Cymru i gael gafael ar feics nad oes modd eu hailwampio neu eu hailddefnyddio er mwyn eu defnyddio ar gyfer y parêd, gan leihau gwastraff a anfonir i safleoedd tirlenwi. 

Meddai Hanna Clarke, Arweinydd Prosiect Parêd Pŵer Pedlo: “Rydym ni’n edrych ymlaen at weld y gymuned yn dangos ei chreadigrwydd ac yn addurno beics a fyddai fel arall wedi’u hanfon i safleoedd tirlenwi. Bydd y Parêd Pŵer Pedlo yn gyfle cyffrous i hyrwyddo’r angen am ailddefnyddio a chynaliadwyedd yn ein cymunedau; cyfle i’r gymuned ddathlu a chefnogi creadigrwydd a mynd allan a bod yn egnïol.

Gwahoddir grwpiau cymunedol, elusennau, ysgolion a busnesau i addurno beic gan ymgorffori’r neges o ailddefnyddio a chynaliadwyedd. Gallwch gymryd rhan ac addurno beic yn rhad ac am ddim; gall busnesau sydd eisiau cymryd rhan wneud cyfraniad i’r prosiect Pŵer Pedlo os ydynt yn dymuno.

Sut mae cymryd rhan yn y Parêd Pŵer Pedlo?

Yn ogystal â gofyn i grwpiau cymunedol, elusennau, ysgolion a busnesau i addurno beics, bydd sawl gweithdy cymunedol yn cael ei gynnal i bobl alw heibio a helpu i addurno beics ar gyfer y parêd.

  • Clwb Celf Teuluol Tŷ Pawb            Dydd Sadwrn 18 Mai          10am – 12pm
  • Parc Gwledig Dyfroedd Alun         Dydd Mawrth 28 Mai           11am – 2pm
  • Parc Gwledig Dyfroedd Alun         Dydd Iau 30 Mai                  11am – 2pm

I weld sut fedrwch chi gymryd rhan ac addurno beic, cysylltwch â Hanna ar 01978 757524 neu hanna.clarke@cycling4all.org. 

Mae’r Parêd Pŵer Pedlo yn bosibl diolch i nawdd gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU a chefnogaeth Cadwyn Clwyd, AVOW a Chyngor Wrecsam.

Efallai yr hoffech chi hefyd ddarllen Peidiwch â methu’r cyfle i gael dweud eich dweud am ein gwasanaethau ar-lein

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Rhannu
Erthygl flaenorol bleidleisio Llai nag wythnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad fis nesaf
Erthygl nesaf Garden at Maelor Hospital Gardd newydd i Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English