Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Gorymdaith yng Nghanol y Ddinas i goffáu 80 mlynedd ers glaniadau D-Day
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Gorymdaith yng Nghanol y Ddinas i goffáu 80 mlynedd ers glaniadau D-Day
Y cyngorPobl a lle

Gorymdaith yng Nghanol y Ddinas i goffáu 80 mlynedd ers glaniadau D-Day

Diweddarwyd diwethaf: Ebrill 26, 2024 8:32 am
Rhannu
Darllen 3 funud
D-Day
RHANNU

Roedd D-Day, 6 Mehefin 1944, yn nodi dechrau Ymgyrch Overlord, yr ymgyrch awyr, forol a thir fwyaf erioed.  Ar D-Day yn unig fe groesodd dros 150,000 o filwyr y Sianel.  Hwn oedd y cam cyntaf i ryddhau Ffrainc a Gorllewin Ewrop, ond dioddefodd Lluoedd y Cynghreiriaid yn fawr iawn gyda bron i 210,000 o filwyr wedi eu lladd neu eu hanafu erbyn diwedd Ymgyrch Overlord.

Ddydd Iau 6 Mehefin 2024, 80 mlynedd yn ddiweddarach, byddwn yn cofio’r rhai hynny a ymladdodd a’r rhai hynny a gollodd eu bywydau ar draethau Normandi.  Y rhai hynny a adawodd eu teuluoedd gartref i amddiffyn rhyddid ac i ddod â heddwch, ac rydym yn cofio eu haberth a’u dewrder a sicrhaodd y rhyddid sydd gennym ni heddiw.

Caiff aelodau o’r cyhoedd eu gwahodd i ganol dinas Wrecsam lle bydd gorymdaith yn cael ei chynnal, yn cael ei harwain gan y Corfflu Drymiau a’r Banerwyr, y Maer, Cefnogwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Beverley Parry Jones ac aelodau o gymuned y lluoedd arfog.

Bydd yr orymdaith yn gadael Eglwys San Silyn am 1.15 pm gan orymdeithio i Gofeb Milwyr Normandi, Bodhyfryd, lle bydd gwasanaeth byr i osod torchau.

Llwybr yr orymdaith i goffáu 80 mlynedd ers D-Day

Bydd gorymdaith D-Day yn gadael San Silyn ar Stryt yr Eglwys yn mynd ar draws y Stryt Fawr i Stryt yr Hôb, ar hyd Stryt y Syfwr i Stryt y Lampint ac i’r chwith i Stryt Caer. Wrth y podiwm y tu allan i Adeiladau’r Goron bydd y Maer, yr Arglwydd Raglaw a Chefnogwr y Lluoedd yn derbyn y saliwt.

Bydd yr orymdaith wedyn yn mynd at Gofeb Milwyr Normandi lle bydd band Byddin yr Iachawdwriaeth Wrecsam yn chwarae.  Fe fydd yna wasanaeth byr dan arweiniad y Tad Dylan Parry-Jones ac wedyn bydd torchau yn cael eu gosod.

Dywedodd Cefnogwr y Lluoedd Arfog, y Cynghorydd Beverley Parry Jones, “Mae gan Wrecsam gysylltiadau cryf gyda’r lluoedd arfog a dyma ein cyfle i dalu teyrnged i’r rhai a laddwyd ac a anafwyd yn ystod yr ymosodiad mwyaf erioed o’r tir a’r môr.  Rwy’n gobeithio y bydd nifer yn ymuno â ni wrth i ni ddod ynghyd i dalu teyrnged i’r rhai hynny a frwydrodd yn ddewr a’r rhai hynny a gollodd eu bywydau i sicrhau’r rhyddid sydd gennym ni heddiw.”

D-Day

Derbyniwch y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf yn syth i’ch mewnflwch

Efallai yr hoffech hefyd ddarllen Beth am gymryd rhan ym mhrosiect Parêd Pŵer Pedlo Dyfroedd Alun

Rhannu
Erthygl flaenorol PCC election Un wythnos i fynd tan etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
Erthygl nesaf Rôl newydd i Big Nev wrth i Ŵyl Wal Goch ddychwelyd ar gyfer 2024 Rôl newydd i Big Nev wrth i Ŵyl Wal Goch ddychwelyd ar gyfer 2024

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026
Mayor of Wrexham attending Dolywern summer fair
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Awst
Pobl a lle
Awst 25, 2026
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Awst 25, 2026
Football park and ride
Wrecsam v Dinas Birmingham – teithio fforddiadwy a rhwydd
Arall Pobl a lle
Awst 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Red Ensign Flag
ArallDigwyddiadauPobl a lle

Coffáu Diwrnod y Llynges Fasnachol trwy godi’r Lluman Coch

Awst 24, 2026
Car park
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam yn erbyn Watford – cynlluniwch eich taith🚗🚌

Awst 21, 2026
Car park
Pobl a lle

Parcio a theithio yn dychwelyd am dymor arall

Gorffennaf 27, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English